A   A   A
610 233 Parc Gwledig Padarn Country Park

Parc Gwledig Padarn

Lleoliad rai o atyniadau mwyaf syfrdanol Gogledd Cymru!

Ar ar y safle unigryw hwn darganfyddwch Olwyn Ddŵr anferthol, hen Ysbyty’r Chwarel gyda'i theclynnau arswydus, Trenau Stêm, Teithiau Cwch Pleser, Amgueddfa Genedlaethol gyda'i chrefftwyr yn arddangos eu sgiliau, Llwybrau Natur a Threftadaeth, Dringo, Deifio Tan-ddŵr, gweithgareddau dŵr fel Canŵio a Hwylio, Gweithdai Crefft, safleoedd picnic ac wrth gwrs, lluniaeth ysgafn!

Mae’n le delfrydol i samplu beth sydd gan gefn gwlad i'w gynnig. Oddi fewn i’r Warchodfa Natur Leol yma, sydd yn 800 o aceri mewn maint, mae dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - Coed Allt Wen a Llyn Padarn. Roedd Chwarel Vivian unwaith yn ferw o brysurdeb diwydiannol, heddiw mae'n lleoliad chwaraeon eithafol ac yn esiampl wych o adfywiad natur.

Ysbyty’r Chwarel

Ymwelwch â hen Ysbyty Chwarel Dinorwig. Mynediad am ddim.

Offer meddygol gwreiddiol o’r 1800’au. Ward, Ystafell Llawdriniaeth, Peiriant Pelydr X gwreiddiol, amryw o declynnau arswydus a Marwdy! Arddangosfeydd o hen luniau chwarelwyr a phethau cofiadwy bywyd y dramodydd a bardd lleol T.Rowland Hughes.

Ar agor 7 diwrnod o’r wythnos yn ystod gwyliau ysgol Pasg, hefyd o ddiwedd Mai hyd at ddechrau Medi. Ar agor pob penwythnos o Basg i ddiwedd Medi. Hydref i Fawrth drwy drefniant ymlaen llaw yn unig. Dilynwch y cyfeirbwyntiau coch.
700 536 Arwydd Parc Padarn Park Sign 700 536 Parc Padarn Park Canoes 700 536 Llyn Parc Padarn Park Lake
196 150 Parc Padarn Park, Llanberis - Cerddwyr a Chadair Olwyn / Wheelchair and Walkers 196 150 Parc Padarn, LLanberis - Wheelchair Shot View by Llyn Padarn 196 150 Parc Padarn, LLanberis - Woman passing on information to a teenager

Y Chwarel

Mae Parc Gwledig Padarn wedi ei leoli ar ymyl cymhlys anferthol hen Chwarel Dinorwig.
Ar droad y ganrif roedd y safle yn cyflogi tua 3000 o ddynion. Fe allforiwyd llechi o'r chwareli yma i doi adeiladau dros y byd i gyd. Yn yn ogystal â hynny fe ddefnyddir llechen i wneud byrddau snwcer, mewn  osmetigau, i adeiladu lonydd, waliau a ffensys a hyd yn oed fel meddyginiaeth homeopathig.

Pan gaewyd y chwarel fe brynodd Cyngor Sir Caernarfon y safle a gyda rhagwelid syfrdanol fei datblygwyd er mwyn caniatáu i'r amgylchedd naturiol ffynnu, sicrhau cadwraeth yr amgylchedd adeiladol ac, ar yr un pryd, hybu mynediad i gefn gwlad.

Y Goedwig

Mae Coed Dinorwig yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd mai Derw Digoes yw’r rhain. Ym mis Mai mae'r coed Derw wedi eu heigio gan Lindys y Gwyfyn Tywyll Brith. Gellir gweld canlyniad eu bwydo gwancus hyd fis Gorffennaf pan ail dyfa'r coed eu dail i ddigolledu'r ymosodiad.

Mae Cenau a Mwsogl i'w gweld yn tyfu'n doreithiog ar y coed a'r creigiau. Oherwydd bod llygredd yr amgylchedd yn cael effaith andwyol ar gen a mwsogl, fe ddengys hyn pa mor lan yw'r amgylchedd yma!

Llyn Padarn

Gyda dyfnder mwyaf o tua 30m (100 troedfedd), Llyn Padarn yw'r chweched llyn dyfnaf yng Nghymru. Mae o wedi ei ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd bod ei ddyfroedd dwfn yn gartref i'r Torgoch Arctig, pysgodyn prin o Oes yr Iâ diwethaf. Fe welir Dŵr Lynad prin yn tyfu yn y llyn hefyd.

Yn ogystal â'r enghreifftiau o ffurfiau bywydol anghyffredin yma mae Llyn Padarn hefyd yn bwysig oherwydd fe welir yma greigiau cyn-Cambriaidd yn cael eu gorchuddio gan greigiau Cambriaidd.
300 150 Parc Padarn Park
 
300 150 Ysbyty Parc Padarn Park Hospital

Teithiau Cerdded


Cylchdaith y Llyn

Mae'r gylchdaith hon, sydd oddeutu pum milltir o hyd, yn cychwyn ym maes parcio Gilfach Ddu. Am y rhan fwyaf o'r daith dilynir llwybrau penodedig a ffyrdd gwledig tawel. Mae'r daith yn gymharol hawdd ac yn cynnwys nifer o olygfeydd gogoneddus o'r ardal.

Llwybr Vivian

Mae'r daith ogoneddus yma yn cyfuno archeoleg ddiwydiannol gyda phrofiadau ardaloedd gwyllt. Mae'n cynnwys agweddau o ddiwylliant a chaledrwydd y diwydiant chwarelu ac yn rhoi golygfeydd digyffelyb o'r mynyddoedd a'r llynnoedd o'ch cwmpas.

Taith y Goedwig

Gorchuddiodd coedwigoedd naturiol dirlun gogledd Cymru, a gafodd ei greu yn ystod y cyfnod rhewlifol olaf. Cliriwyd y rhannau mwyaf ffrwythlon o'r dyffryn gan ddyn ar gyfer ffarmio. Yr hyn a adawyd ar ôl oedd y rhannau anghysbell hynny o'r goedwig ni ellid eu ffarmio. Y mae Coed Dinorwig yn rhan fechan o'r coedwigoedd cynnar hynny.

Y Llwybr Natur

Caniatâ'r Llwybr Natur hwn i chi chwilota a darganfod lledrith Coed Dinorwig.

Llwybr Glas y Dorlan

Mynediad ar gyfer y llai abl – mae’r llwybr yn arwain o faes parcio Gilfach Ddu ac wedi ei greu yn arbennig ar gyfer y llai abl a chadeiriau olwyn. Ymwelwch â glan y llyn neu ewch i weld dringwyr a deifwyr yn Chwarel Vivian neu ymweld a'r unig inclein lechi yn yr ardal sy'n gweithio.

Ysbyty’r Chwarel

Dilynwch y llwybr i gael golwg agosach ar yr hen Ysbyty’r Chwarel.

196 150 Ysbyty Parc Padarn Park Hospital  196 150 Ysbyty Parc Padarn Park Hospital 196 150 Ysbyty Parc Padarn Park Hospital

Gwybodaeth Hanfodol

Dymunwn i chi fwynhau eich ymweliad i Barc Gwledig Padarn ond, os gwelwch yn dda, byddwch yn ymwybodol bod rhai ardaloedd o'r Parc yn gallu bod yn beryglus a dylid goruchwylio plant a chymryd gofal bob amser.

• Dilynwch lwybrau gyda chyfeirbwyntiau yn unig
• Peidiwch â mynd mewn i adfeilion adeiladau
• Cadwch draw o hen adeiladwaith chwarel
• Mae rhai llwybrau yn anesmwyth gyda llethrau serth
• Dim nofio mewn unrhyw ddŵr
• Nodweddion eraill y Parc yw hen weithfeydd chwarel, llwybrau coedwig
lethrog a dyfroedd dyfnion.

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2012 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS