Nefyn
Mae traeth Nefyn, sydd yn ddwy filltir o draeth ysgubol, tywodlyd braf, yn amlinellu bae cysgodol a harbwr naturiol, ar Arfordir Treftadaeth Llŷn. Mae’r traeth, tywodlyd, mân yn boblogaidd iawn gyda physgotwyr, tra bod unigolion brwdfrydig chwaraeon dŵr yn ymddiddori yn yr holl wahanol amodau – mae’r cilgant o dywod yn gwynebu’r gogledd ddwyrain o un pen y traeth ac yn gwynebu gogledd ddwyrain o’r ochor arall, sydd yn creu amryw o amodau i frigdonwyr, hwylwyr a brigdonwyr barcud. Mae’r golygfeydd yn wych hefyd - yn enwedig ar draws i Garn Boduan a mynyddoedd Yr Eifl. Byddwch yn ofalus wrth gerdded lawr i’r traeth, gan fod nifer o’r llwybrau yn serth. Uwchben, ar y pentir, ceir cwrs golff safonol, enwog ac ofnadwy o heriol. Mae cyfleuster lleol n cynnwys maes parcio a thoiledau.
| Cyfleusterau a Gwasanaethau Llithrfa Parcio Toiledau Cyraeddadwy â chadair olwyn Siop Cludiant cyhoeddus Gwaharddiadau ar gŵn Ardal gwahardd cwch | |  |