Mae lot i’w drafod. Man gwych i ddechrau yw gyda’r Parc Cenedlaethol Eryri, yn mesur 840 milltir sgwâr ac felly yn un o’r parciau mwyaf ym Mhrydain. Yn ogystal â hynny mae’r Wyddfa – cadernid o 3,560ft/1085m, sef y copa uchaf yng Nghymru a Lloegr.
Os mai traethau sydd at eich dant chi, yna mae cannoedd o filltiroedd o forlin yma hefyd - sydd yn rhedeg ar hyd Bae Ceredigion (rhan o Barc Cenedlaethol Eryri) a Phen Llŷn, man sydd wedi ei ddynodi yn ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’.
Gwelwch felly, fod mwy ar gynnig na mynyddoedd creigiog. Fe ddewch o hyd i fryniau gwyrddion, afonydd byrlymus a dyffrynnoedd sydd wedi eu gorchuddio mewn gwŷdd hynafol, morlin llawn aberoedd prydferth a chilfachau neilltuedig, pentiroedd chwilfrydig a thraethau mawrion.
Mae’r bywyd gwyllt wrth eu bodd yma. Rydym yn gysegr i nifer o blanhigion ac anifeiliaid - o’r clogwyni yng Nghwm Idwal, cartref i’r ysblennydd Frwynddail-y-Mynydd, yr holl ffordd i Ynys Enlli ar flaen ‘Pen Tir Cernyw’ Eryri sydd yn fwrlwm o deulu’r Pâl Manaw.
Felly paciwch eich ysbienddrych. Dewch â’r camera. Dyma ychydig o gipluniau natur i roi blas i chi ar yr hyn sydd ar gynnig yma:
Craig-Yr-Aderyn
Craig-yr-Aderyn, ger Tywyn. Efallai y byddwch yn fwy cyfarwydd gyda’r enw Saesneg - ‘Bird Rock’. Arferai’r dyffryn islaw fod o dan dŵr Bae Ceredigion. Bellach mae’r môr filltiroedd i ffwrdd ond mae’n parhau i fod yn fan gwych i weld adar y môr. Nid yw’n anghyffredin gweld Bilidowcar yma, maent yn hoff o nythu ar yr hen glogwyn môr, dim ond mewn un man arall ym Mhrydain y gwelir hyn ar dir. Mae gan y graig hon bwysigrwydd Ewropeaidd, diolch i’w safle fel man cenhedlu a chlwydo Brân Goesgoch. Cadwch lygad hefyd am y geifr gwyllt sydd yn crwydro ar hyd yr adareg wahanol hon. |
|
Coed-y-Brenin
Coed-y-Brenin, ger Dolgellau. Caiff ei adnabod oherwydd ei gymysgedd urddasol o goedwigoedd godidog coniffer a choed llydanddail, sydd yn gyfoethog mewn hanes a phrydferthwch naturiol. Mae’r amrywiaeth syfrdanol mewn bywyd gwyllt yn cynnwys ceirw, grugiar ddu, barcud goch, bele pîn a phryfyn fel pili pala brith perlog. Wrth siarad am berlau, mae afon Coed-y-Brenin yn cynnwys misglen perl prin iawn - a hyd yn oed darnau man o aur Cymreig. Ceir rhwydwaith o lwybrau sydd wedi eu cyferbwyntio yng Nghoed-y-Brenin, yn gynwysedig mae Llwybr Darganfod Gardd Goedwig, ble ceir arddangosfa sy’n dangos enghreifftiau o goed amrywiol. |
|
Llŷn Peninsula
Mae modd mynd yn wyllt ym Mhen Llŷn - mae harddwch naturiol Pen Llŷn mor chwedlonol â’i hetifeddiaeth Geltaidd. Mae llawer o’i morlin yn cael ei warchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ewch i chwilio am ddolffiniaid ar y pentir ger Aberdaron. Ceir golygfeydd anfarwol tuag at Ynys Enlli, ynys sydd yn cael ei rheoli gan ymddiriedolaeth elusennol. Heb os, mae’n baradwys i wylwyr adar. Yn gynwysedig gyda thorf o Pâl Manaw, mae’r clogwyni hyn yn gartref i wylanod coesddu, gwylogod, llurs a mulfrain copog, tra bod y morloi yn torheulo’n ddigyffro ar y lan. Ewch ar y gwch o Borth Meudwy, Aberdaron i ddarganfod ei bywyd gwyllt a golygfeydd godidog. |
Gall ein hetifeddiaeth naturiol ei weld ar ei orau yn ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ac yn ein Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, sydd yn bennaf yn cael eu gwarchod gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Yma y mae’r cyfradd mwyaf o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol na unrhyw Barc arall ym Mhrydain. Ewch i gopa’r Wyddfa, y warchodfa uchaf yng Nghymru, ble mae adar ysglyfaethus megis hebog tramor a’r gigfran yn nythu yng nghanol y clogwyni tolciog, a ble ceir Brwynddail-y-Mynydd a phlanhigion gwydn eraill eu darganfod sydd wedi esblygu i ymdopi gyda’r amodau eithafol. Islaw, mae’r mynydd wedi ei addurno gyda choed derw, gwernen, a llwyfen.
Caiff Betws y Coed ei amgylchynu gan goedwig trwchus. Mae Gwydir, fel Coed-y-Brenin, yn gymysgedd o goedwig. Fe ddewch o hyd i binwydden Douglas a phyrwydden Norwy, ynghyd â derw gorau Cymru, ac - yn cuddio yng nghanol y coed - afonydd mynyddig cudd Llyn Geirionnydd a Llyn Crafnant. Dilynwch hen lwybrau’r mwynwyr drwy’r coed, gan edrych allan am foncath, hebog, cudyll bach, a’r grugiar ddu.
 Gweilch Glaslyn Osprey Eleanor Bentall (rspb-images.com).jpg) |
|
Ceisiwch ddyfalu pwy yw seren y sioe ym Mhrosiect Gwalch-y-Pysgod Glaslyn ger Porthmadog. Mae’r adar prin yma yn cenhedlu a nythu yno ers peth amser. Gallwch gadw llygad arnynt, diolch i’r cynllun gwylio sydd yn cael ei redeg gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ynghyd â’r Comisiwn Coedwigoedd. |