A   A   A
Nantporth, Menai
Mae gwarchodfa natur Nantporth ar lan y Fenai rhwng Bangor a Phont y Borth a reolwyd ers 1969 gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Y prif gynefin yn y warchodfa yw coetir Onnen ar galchfaen gyda mannau agored o laswelltir calchaidd. Mae coetir Onnen arfordir yn gynefin prin tu allan i’r Alban ac mae coetir a glaswelltir calchfaen yn ddau gynefin prin yng Ngwynedd. Yn y pen Dwyreiniol, lle mae’r pridd clai yn mynd o dan ddyddodion siâl, gwelir coetir Derw yn hytrach na’r Onnen.

Y prif graigwely o dan y warchodfa yw calchfaen Carbonifferaidd, gyda phyllau mawr o glai wedi’u gadael arni. Mae dwy hen chwarel ar y warchodfa, gyda thomennydd gwastraff yn gysylltiedig â hwy. Yn y chwareli, lle daw’r calchfaen i’r wyneb, mae mwsoglau a rhedynau’n tyfu. Yn y mannau lle gadawyd y gwastraff o’r chwareli, mae’r pridd yn denau a phrin o faith ac yn cynnal cynefin o laswelltir calchfaen gyda thegeirianau. Mae’r clai yn cynhyrchu uwchbridd sy’n ddigon dwfn i gynnal coetir nodweddiadol o briddoedd â digon o fwynau alcalinaidd ynddynt.

Gwelir amrywiaeth o goed llydanddail yn y coetir. Mae’r boblogaeth o Gerddinen o ddiddordeb arbennig. Tyf coed Onnen, Bedw a Masarn ym mhob rhan o’r warchodfa a choed gwern lle mae’r pridd yn wlyb. Mae celli o aethnen ger Cwt y Cychod ym mhen gorllewinol y warchodfa.

Mae’r canopi o goed yn creu’r amgylchiadau cysgodol sydd eu hangen ar gyfer planhigion fel y Geineirian, Gwiolydd y Goedwig, Clust yr Arth, Llygad Ebrill, Bresych y Cŵn a’r Farchredynen Feddal sy’n nodweddiadol o goetir calchfaen. Mae’r coetir hefyd yn cynnwys planhigion sy’n fwy nodweddiadol o wrychoedd fel Pidyn y Gog, Rhosyn Coch Gwyllt a’r Rhosyn Bwrned. Lle mae’r pridd yn wlyb, lwydda Bugeiles y Weirglodd, Byddon Chwerw a Thafod yr Hudd Cyffredin.

Mae ochr a llawr y chwarel yn creu’r amgylchiadau llaith, cysgodol mae rhedyn a mwsoglau eu hangen. Gwelir rhedyn Tafod yr Hydd a Llawredynen Ganolig niferus yn tyfu ar yr agennau a agorwyd yng ngwyneb y chwarel ac ymysg y creigiau llawr.

Mae’r pridd calchfaen a lleithder y warchodfa’n ffafrio rhywogaethau molwsg sydd angen calsiwm i gynhyrchu eu cregyn.

Mae’r coetir agored gyda llennyrch a darnau o laswellt yn gynefin delfrydol i löynnod byw. Ar y domen laswelltirol o ddefnydd gwastraff, gellir gweld Gweirlöyn y Ddôl, Glesyn Cyffredin a’r Copor Bach. Yn y coetir gellir gweld y Fritheg Berlog Fach, Y Fantell Goch, Brych y Coed, Gweirlöyn y Perthi a’r Fantell Garpiog.

O’r warchodfa, gellir gweld adar o lawer o gynefinoedd. Bydd llawer rhywogaeth o adar coetir yn y warchodfa yn cynnwys: Titw Tomos Las, Titw Mawr, Titw Penddu, Titw Cynffon-hir, Telor Penddu, Dryw Eurben, Tylluan Frech, Gwalch Glas, Dringwr Bach a Thelor y Cnau. Ar y blaendraeth o dan y warchodfa, efallai y gwelwch lawer o adar môr gel gwylanod, Pioden Fôr, Hwyaden yr Eithin, Mulfran a môr wenoliaid yn ogystal â rhydyddion fel y Pibydd Coeswerdd, Pibydd Coesgoch a’r Gylfinir. Mae teulu’r brain yn niferus iawn ar y warchodfa. Bydd Piod a Sgrechod y Coed yn nythu yn y coetir a Jac-y-do, Ydfrain a’r Bran Dyddyn yn ymweld â’r blaendraeth ar hyd gwaelod y warchodfa. Gellir gweld Brain Tyddyn yn cario cregyn gleision i fyny i’r awyr a’u gollwng ar y creigiau i’w torri yn agored.

Mae mynediad ar gael oddi ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n rhedeg trwy'r warchodfa. Mae mynediad hefyd yn bosibl o'r draethlin (yn amodol ar gyflwr y llanw, felly gwiriwch). Mae'r llwybrau yn gul ac yn serth mewn mannau, gyda grisiau.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru | 01286 679686
GwyneddConwy