A   A   A
Yr arfordir a Mynydd Mawr and the coast

Mynydd Mawr

Uwchmynydd, Aberdaron, LL53 8BY (map)
Gwefan gyda manylion taith gerdded

Mynydd Mawr Uwchmynydd

Mae Mynydd Mawr wedi ei leoli yng ngogledd-orllewin Pen Llŷn, gan ddarparu golygfeydd eithriadol o'r ardal o’i chwmpas, yn enwedig o Ynys Enlli.

O Fynydd Mawr i Ben y Cil, mae'r cynefinoedd arfordirol a ger-arfordirol yn destun dylanwad morwrol cryf. Gall gwynt o'r môr achosi llosg-halen difrifol i'r glaswelltir, gan arwain at rostir tonffurf. Ar hyd y draethlin, mae tonnau grymus yn cael effaith sylweddol ar y creigiau ac ar y planhigion ac anifeiliaid sydd wedi goroesi.

Mae'r clogwyni a rhostir arfordirol gorllewinol yn cynnwys cymunedau o blanhigion sy'n ennyn diddordeb arbennig, gan gynnwys Grug y Mêl ac Eithin Mân. Rhwng ac o fewn y darnau o rostir, mae cymunedau glaswelltir morol a llethrau clog-gleiau yn darparu fflora cyferbyniol a bioamrywiaeth ddwys. Mae planhigion prin ac anghyffredin yn cynnwys Cor-rosyn Rhuddfannog a Banhadlen. Mae Sampler y Geifr, Duegredynen Hirgul ac isrywogaeth leol iawn o Lafant y Môr hefyd yn bodoli ar y clogwyni. Yn nodedig, mae dau gen rhostir prin wedi cael eu cofnodi yn yr ardal.

Ymhlith yr adar amrywiol a arsylwyd, mae'r Frân Goesgoch o ddiddordeb arbennig. Mae ogofâu môr yn darparu safleoedd nythu, y clogwyni yn darparu safleoedd clwydo tra mae glaswelltir pori a rhostir yn cynnig ardaloedd bwydo. Mae adar môr sy'n nythu ar glogwyni hefyd yn cael eu cynnal gan gynnwys rhywogaethau o wylanod, Gwylogod, Llursod, Adar Drycin y Graig a'r Hebog Tramor. Mae Dolffiniaid Trwyn Potel yn cael eu gweld yn rheolaidd (yn enwedig yn yr haf), ynghyd ag ambell Ddolffin Risso a Llamhidydd. Mae'r traeth creigiog yn cynnig cipolwg diddorol ar fioleg forol cyfoethog yr ardal, gan gynnwys clogwyni creigwely sy'n datgelu’r cymunedau morol cysylltiedig rhwng Ynys Enlli a'r Gogarth. Mae'r cylchfäedd cymunedol sy'n nodweddiadol o'r cynefin hwn yn digwydd ar hyd tua 8km o'r arfordir.

Adeiladwyd y ffordd i'r copa, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ystod yr Ail Ryfel Byd i ddarparu mynediad i uchelderau, lle postiwyd dynion i roi rhybudd cynnar i Lerpwl parthed cyrchoedd awyr y Luftwaffe. Staffiwyd pwynt Gwylwyr y Glannau gynt, am bron i 80 mlynedd cyn dod yn ddi-waith yn 1990. Mae'n darparu golygfeydd gwych dros y Swnt tuag at Enlli. Mae'r cwt yn cynnwys arddangosfa hanes naturiol yr ardal a murlun a grëwyd gan blant lleol.

Mae lle parcio ym Mynydd Mawr ond mae'n gyfyngedig.

Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru | 01286 679686
GwyneddConwy