A   A   A
Bywyd Gwyllt Morfa Madryn Wildlife
Pan adeiladwyd Twnnel Pen y Clip ar gyfer yr A55, gadawyd yr ysbail ar yr arfordir ym Morfa Madryn a Glan y Môr Elias cyfagos. O'r safle adeiladu hwn yn y 1990au, mae gwarchodfa o feysydd corsiog a lagwnau wedi cael ei greu er mwyn i adar fwydo, gorffwys a bridio. Mae Gwarchodfa Natur Morfa Madryn yn denu amrywiaeth da o adar drwy'r flwyddyn. Yn y gaeaf mae'n fwyaf adnabyddus am adar gwyllt megis Chwiwellau, Hwyaid Gwyllt, Corhwyaid a Hwyaid Brongoch a rhydwyr megis Gylfinirod, Cornchwiglod a Phiod Môr. Yn yr haf mae'n safle pwysig ar gyfer bridio i Gwtiaid Torchog Bach a Chornchwiglod. Mae llanw uchel yn dod â golygfeydd da o glwyd Pioden Fôr yng Nglan y Môr Elias gerllaw.

Mae pwysigrwydd ecolegol Morfa Madryn yn deillio o’i agosrwydd at y rhyngwladol bwysig Traeth Lafan. Mae 2500 hectar o fwd a thywod rhynglanwol, o Fangor i Lanfairfechan a Biwmares, yn cael eu dadorchuddio ar lanw isel.
Yn yr amser a fu, byddai pobl a’u da byw yn cerdded ar draws Traeth Lafan o Abergwyngregyn i Fiwmares. O 1292 cawsant eu cludo ar draws y sianel ar fferi a oedd yn defnyddio cloch yr eglwys i’w tywys yn ôl yn ddiogel mewn tywydd niwlog i Abergwyngregyn. Daeth y daith beryglus yma i ben pan agorwyd Pont Menai Telford yn 1830.

Mae ystod eang o adar yn defnyddio Traeth Lafan: Pibydd y Mawn, Gylfinir, Pibydd Coesgoch, Pibydd yr Aber, Hwyaden Frongoch a Huganod pan fo'r llanw i mewn. Yn yr hydref a'r gaeaf mae Traeth Lafan yn cynnal poblogaeth fwyaf o Wyach Fawr Gopog sy’n bwrw plu ym Mhrydain ynghyd a gwyachod eraill, trochyddion prin a'r Hwyaden Lygad Aur. Bydd tua 5,000 o Biod Môr fod yma yn y gaeaf.

Ger mynedfa’r Warchodfa, mae ardal bicnic bach a choetir a blannwyd yn ddiweddar. Mae digon o barcio rhad ac am ddim ar bromenâd Llanfairfechan neu yn y dref ei hun.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru | 01286 679686
GwyneddConwy