A   A   A
Twyni Tywod Morfa Harlech Sand Dunes
Mae’r olygfa ar draws Morfa Harlech o'r brif ffordd, ychydig i'r de o’r warchodfa, yn sicr yn un o olygfeydd gorau Cymru. Wedi ei gosod yn erbyn panorama ysgubol Eryri, ac o dan Gastell Harlech ac yntau'n eistedd ar glogwyn trawiadol, mae Morfa Harlech yn un o ddwy system eang o dwyni tywod sy’n ffurfio rhan helaeth o arfordir meddal Meirionnydd, gan ymestyn o aber yr afon Mawddach yn y de i draeth Morfa Bychan yn y gogledd-orllewin.

Mae’r Warchodfa Natur Genedlaethol yn arbennig o bwysig gan mae hwn yw un o’r ychydig systemau twyni yng ngwledydd Prydain sy’n dal i dyfu oherwydd symudiad tywod wrth i’r twyni ym Morfa Dyffryn gael eu herydu. Tan yn gymharol ddiweddar, roedd y môr yn golchi traed y clogwyn lle mae Castell Harlech ond, wrth i’r tywod gasglu ac wrth i’r twyni ffurfio, cafodd glan y môr ei wthio’n raddol tua’r gorllewin.

Mae'r cynefinoedd a grëwyd gan y tywod ansefydlog yn unigryw ac yn hollol ddibynnol ar y prosesau dynamig geomorffolegol. Mae'r traeth tywodlyd di-dor yn ymestyn tua 7km o Lanfair yn y de, i aber yr Afon Glaslyn. Mae'r draethlin yn cynnal rhywogaethau arloesol fel Hegydd Arfor.
Mae amrywiaeth o rywogaethau’r twyni yma, ac mae slaciau sylweddol – pantiau rhwng twyni – yn cynnal llawer o blanhigion a chreaduriaid di-asgwrn cefn sy’n brin ar raddfa genedlaethol. Mae’r rheiny’n cynnwys Lleidlys Cymreig a’r Ysbigfrwynen Fach. Y gwanwyn a’r haf yw’r adegau gorau i weld llawer o’r planhigion blodeuog sy’n tyfu ar laswelltir y twyni ac yn y slaciau.

Mae hwn yn gynefin pwysig ar gyfer sawl math o greadur di-asgwrn cefn sy’n arbennig i’r twyni, gan gynnwys y gwenyn turio prin Colletes cunicularius, ac ar gyfer ymlusgiaid megis y Fadfall Gyffredin a Madfall y Tywod, sy’n llawer prinnach ac sydd newydd gael ei ail-gyflwyno yn yr ardal.

Morfa Harlech hefyd yn lle da ar gyfer gwylio adar, yn enwedig yn y gaeaf pan mae Alarch y Gogledd a heidiau o Chwiwell, Hwyaid Lostfain a Hwyaid Gwyllt yn ymweld ag Aber Glaslyn i'r gogledd.

Mae’r warchodfa i’r gorllewin o Harlech ar yr A496. Mae ffordd gefn yn arwain at faes parcio talu-ac-arddangos ac mae llwybr troed byr yn mynd oddi yno i’r traeth.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru | 01286 679686
GwyneddConwy