A   A   A
700 267 (610x233) Plas Bodegroes (Kiran Ridley)

Yn yr ugain mlynedd diwethaf mae ein bwyd wedi datblygu llawer.  Ond ar y llaw arall nid yw wedi newid dim. Gadewch i ni esbonio. Mae Eryri Mynyddoedd a Môr yn fwrlwm o gynnyrch lleol o ansawdd da - Cig Oen a Chig Eidion Cymreig, cawsiau ffermdy ac eog Dyfi, heb anghofio bwyd y môr o ddyfroedd cyfoethog Bae Ceredigion.Mae’r cynnyrch wastad wedi bod yno, gyda’u ffynonellau ffres ac wedi eu tyfu gartref.  Nid oes angen poeni am y pellter y mae’r bwyd wedi teithio i gyrraedd yma na phoeni am ei darddiad gan ei fod oll ar gael ar garreg ein drws.  Yr unig wahaniaeth y dyddiau hyn yw bod y cynnyrch lleol ardderchog hwn wedi cynorthwyo i drawsnewid bistros a bwytai, caffis a thafarndai gwledig ar hyd yr ardal.

 

Castle Cottage

Diolch i’r chwyldro bwyd hyn rydym yn ffodus o gael cenhedlaeth newydd o gogyddion.  Fel gwneuthurwyr gwin yn Ffrainc, mae ein cogyddion yn cael eu hysbrydoli gan eu hawyrgylch. Enghraifft wych o hyn yw Glyn Roberts, ‘Castle Cottage’, fe adeiladodd dŷ bwyta pum-seren yn Harlech.  Enillodd Glyn wobr ‘True Taste Eating out in Wales’ diolch i’w goginio, a chaiff ei sgiliau coginio ei glodfori mewn nifer o lyfrau coginio gwerth eu halen.  Glyn yw’r cyntaf i gydnabod ei ddyled i gynhyrchwyr lleol -  ‘mae safon y cynnyrch wedi trawsnewid ein busnes’.

Plas Bodegroes

Cogydd arall sydd yn gwneud enw i’w hun yn Eryri yw Chris Chown, Plas Bodegroes ym Mhen Llŷn, a Peter Jackson yng Ngwesty Maes-y-Neuadd, Talsarnau.  Mae Chris yn wir arloeswr.  Nid yw Plas Bodegroes yn un o’r mannau hawsaf i ddod ato, ond eto llwyddodd Chris i droi’r Plas yn un o’r bwytai ‘cyrchfan’ cyntaf yng Nghymru, gan ddenu unigolion o bell yn ogystal â lleol, a hynny oherwydd ei gryfder mewn coginio cyfoes a’i allu i roi blas lleol ar gynnyrch tymhorol megis cimwch, bâs, cig oen a chig eidion. 

Cadwaladrs

Yn ogystal â hyn oll mae gennym ein hufen iâ cartref ein hunain.  Cychwynnodd Cadwaladers mewn siop fach yng Nghriccieth yn 1927, cyn iddo dyfu i fod yn gynnyrch enwog.  Mae’n parhau i gael ei wneud gan yr un rysait cyfrinachol - ond mae bellach wedi tyfu i fod yn gadwyn o Gaffis Cadwaladers.

Mae Glyn, Chris a Peter yn enghreifftiau gwych o’r hyn sydd yn digwydd ar hyd ac ar draws yr ardal.  Mae mwy o fwytai godidog mewn mannau megis gwesty Portmeirion a Chastell Deudraeth, Rhiwafallen a Tŷ’n Rhos (y ddau wedi eu lleoli ger Caernarfon), Palé Hall ger Bala a Gwesty’r Castell yng nghanol Conwy.  Mae bistros ffasiynol a gwestai gwledig i’w cael ar hyd yr ardal - beth am alw heibio Dylanwad Da yn Nolgellau, Venetia yn Abersoch (ble mae Cymru’n cwrdd â’r Eidal),  ‘The Groes Inn’ ger Conwy ac Amser Da yn Llanrwst.  Heb anghofio’r caffis trwsiadus (Caban, paradwys i lysieuwyr ger Llanberis fel enghraifft) a chaffis traddodiadol (beth am geisio cacen rhosmari cartref yng Nghastell Penrhyn ym Mangor neu beth am gacen, sgon a jam cartref yng Nghaffi Dolfrwynog ger Dolgellau). 

Gallwch siopa am flasau lleol hefyd.  Mae melysion Blas ar Fwyd yn Llanrwst, yn gweithredu gyda thŷ bwyta Amser da.  Yng Nghonwy ceir un o’r siopau cig enwocaf Cymru, Edwards o Gonwy, mae’r cynnyrch yn eang, wedi ei osod yn drefnus - a wnaiff i hyd yn oed llysieuwyr feddwl dwywaith!  Os ydych yn meddwl fod pob siop Spar fel ei gilydd yna ewch i siop Conrad Davies ym Mhwllheli, maent wedi ennill gwobrau ac yn ôl un siopwr hapus ‘yn cynnig un o’r dewisiadau gorau o fwydydd Cymreig i mi ei weld’.

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2010 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS