A   A   A
Glannau Llyn Tegid Shores
Llyn Tegid yw'r corff dŵr naturiol mwyaf yng Nghymru. O darddiad rhewlifol mae’r llyn hyd at 150 troedfedd o ddyfnder a 4 milltir o hyd, ac yn atyniad hynod boblogaidd ar gyfer hwylfyrddio a hwylio, yn ogystal â safle enwog am bysgota. Mae Afon Dyfrdwy yn rhedeg drwyddo, gan lifo i mewn i'r dyfroedd dwfn a chlir yn ne-orllewin y llyn, yn Llanuwchllyn, a gadael yn y gogledd orllewin yn agos i'r Bala.

Mae Llyn Tegid yn enw addas gan ystyried ei awyrgylch tawel ac amgylchedd syfrdanol. Wedi ei thrwytho mewn chwedlau, dywedir fod y llyn yn gartref i anghenfil a elwir ‘Teggie’ yn lleol. Honnir hefyd bod tyrau ac adeiladau o bentref suddedig yn weladwy drwy'r dŵr yng ngolau'r lleuad.

Fel gwarchodfa natur o bwysigrwydd rhyngwladol, mae Llyn Tegid yn cynnal digonedd o fywyd gwyllt, gan gynnwys poblogaethau da o bysgod megis Draenogyn Dŵr Croyw, Penhwyad, Rhufell, Brithyll a Llysywen. Etifeddiaeth ei tharddiad rhewllyd yw’r Gwyniad, pysgodyn prin ac unigryw sydd yn awr yn rhywogaeth a warchodir, a geir yn rhannau dyfnaf y llyn. Ni cheir y pysgodyn yma yn unman arall ym Mhrydain bellach. Mae'r llyn hefyd yn gartref i’r molwsg prin iawn y Myxas glutinosa. Mae planhigion o bwys arbennig yn cynnwys y Llyriad y Dŵr prin. Mae dros 120 o rywogaethau o adar wedi eu cofnodi yn yr ardal, gan gynnwys yr Alarch Fewick, Trochydd Gyddfddu a Phibydd Gwyrdd. Mae’r rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu gweld yn cynnwys y Mulfrain, Gwyach Fach, Gwyach Fawr Gopog, Cwtiar, Crëyr Glas a sawl rhywogaeth o Hwyaden.

Mae atyniadau poblogaidd eraill ger y llyn cynnwys injan stêm cul Rheilffordd Llyn Tegid. Wedi ei gydnabod fel un o Drenau Bach Arbennig Cymru, mae'n rhedeg teithiau rheolaidd ar hyd y lan ddeheuol y llyn, rhwng y Bala a Llanuwchllyn. Mae tref y Bala ei hun ar ben gogleddol y llyn ac yn fan delfrydol ar gyfer archwilio Gogledd Cymru, yn enwedig ardal ddeheuol Parc Cenedlaethol Eryri.

Oherwydd y gwyntoedd sy'n chwythu trwy’r dyffryn mae Llyn Tegid yn cael ei ddefnyddio'n eang gan selogion chwaraeon dŵr. Gall caiacau, canŵod a hwylfyrddau eu llogi yn ogystal â chychod hwylio, rhwyfo a pedalos. Mae ei draethlin yn hygyrch o gulfannau, meysydd parcio a safleoedd picnic niferus sy’n cynnig cyfle i fynd am dro ar lan y llyn.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru | 01286 679686
GwyneddConwy