Llwybrau Cerdded i'r Wyddfa a Gwasanaeth Bws Sherpa
Mae’r Wyddfa mor fawr ac amrywiol, mi fyddai’n bechod dilyn yr un llwybr i fyny ac i lawr! Rhwydwaith bws Sherpa’r Wyddfa yw eich tocyn i ryddid llwyr. Beth am ddilyn un llwybr i fyny, a dod i lawr ar lwybr gwahanol? Neu beth am ddal y bws o’ch llety a cherdded yn ôl? Mae’n hawdd gyda gwasanaeth y Sherpa. Mae gwasanaeth y Sherpa yn teithio o amgylch yr Wyddfa gan gysylltu’r 6 prif lwybr cerdded a'r pentrefi cyfagos.
Llwybr Llanberis
Yn wreiddiol, cariwyd twristiaid i fyny’r llwybr hwn ar ferlod a mulod, ac mae’n parhau hyd heddiw i fod yn lwybr ceffyl. (Mae yna gytundeb gwirfoddol gyda beicwyr mynydd i gadw oddi ar y llwybr yn ystod adegau prysuraf y flwyddyn.)
Yn dilyn agor ffordd Llanberis drwy Fwlch Llanberis yn 1832, adeiladwyd Llwybr y Mwynwyr i gario copr o waith copr Britannia ger Llyn Glaslyn i Ben y Pass, lle y cludwyd ef wedyn i Gaernarfon. Er i’r mwyngloddio ddod i ben yn 1916, mae olion y gwaith i’w gweld hyd heddiw ar hyd ochr y llwybr.
Pellter: 8 milltir (yno ac yn ôl) Cyfanswm dringo: 723m (2,371tr) Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl) Dechrau a Diwedd: Maes Parcio Pen y Pass (SH 647557 / LL55 4NY) Map: Explorer OL17 Arolwg Ordnans Parcio: Os yw maes parcio Pen y Pass yn llawn, gallwch barcio yn Nant Peris (SH 607582 / LL55 4UF), ac yn ystod yr haf, gallwch ddal y bws Sherpa’n ôl i Ben y Pass. Safle Bws Sherpa: Maes parcio Pen y Pass
Mae peth ansicrwydd ynghylch tarddiad y gair Pyg. Y gred yw i’r llwybr gael ei enwi ar ôl Hostel Pen y Gwryd gan ddringwyr a oedd yn aros yno. Posibilrwydd arall yw y daw’r enw o’r ffaith bod y llwybr yn croesi Bwlch y Moch (fe’i sillefir yn Pig weithiau yn y Saesneg). Neu ai dyma’r llwybr a ddefnyddiwyd i gludo pyg (tar du) i Waith Copr Britannia yng Nghwm Glaslyn? Mae’r dyfalu’n parhau!!
Pellter: 7 milltir (yno ac yn ôl) Cyfanswm dringo: 723m (2,371 tr) Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl) Dechrau a Diwedd: Maes Parcio Pen y Pass (SH 647557 / LL55 4NY) Map: Explorer OL17 Arolwg Ordnans Parcio: Os yw maes parcio Pen y Pass yn llawn, gallwch barcio yn Nant Peris (SH 607582 / LL55 4UF), ac yn ystod yr haf, gallwch ddal y bws Sherpa’n ôl i Ben y Pass. Safle Bws Sherpa: Maes parcio Pen y Pass
Llwybr Watkin
Mae’r llwybr hwn wedi’i enwi ar ôl Syr Edward Watkin, yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol a’r entrepreneur rheilffyrdd. Roedd ganddo dŷ haf ar ddechrau’r llwybr ac ef oedd yn gyfrifol am greu’r llwybr o Chwarel Lechi De’r Wyddfa i gopa’r Wyddfa fel bod ymwelwyr yn gallu cerdded i’r copa yn gyfleus. Agorwyd y llwybr yn swyddogol yn 1892 gan William Gladstone, y Prif Weinidog. Ar graig ger y llwybr sydd bellach wedi’i enwi ar ei ôl - Craig Gladstone - anerchodd dorf o dros 2,000 o bobl.
Pellter: 8 milltir (yno ac yn ôl) Cyfanswm dringo: 1,015m (3,329 tr) Amser: Tua 7 awr (yno ac yn ôl) Dechrau a Diwedd: Pont Bethania, Nant Gwynant (SH 628507 / LL55 4NL) (ar y drofa o’r A498 am y fferm Hafod y Llan Map: Explorer OL17 Arolwg Ordnans Parcio: Maes Parcio Pont Bethania, Nant Gwynant (SH 628507 / LL55 4NL) Safle Bws Sherpa: Maes parcio Nant Gwynant
Llwybr Rhyd Ddu
Arferid galw’r llwybr hwn yn Llwybr Beddgelert gan mai o’r pentref hwnnw yr arferai cerddwyr ddechrau eu taith i’r copa.
Pellter: 7.5 milltir (yno ac yn ôl) Cyfanswm dringo: 895m (2,936 tr) Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl) Dechrau a Diwedd: Maes Parcio Rhyd Ddu (SH 571526 / LL54 6TN) Map: Explorer OL17 Arolwg Ordnans Parcio: Maes Parcio Rhyd Ddu (SH 571526 / LL54 6TN) Safle Bws Sherpa: Pen pellaf maes parcio Rhyd Ddu
Llwybr Llyn Cwellyn
Dechreua’r llwybr hwn ger hostel ieuenctid y “Snowdon Ranger” ger Llyn Cwellyn. Roedd John Morton y ‘Snowdon Ranger’ hunanedig yn tywys twristiaid Fictorianaidd ar hyd y llwybr ac fe agorodd dafarn ar safle’r hostel ieuenctid a’i alw’n Snowdon Ranger Inn.
Pellter: 8 milltir (yno ac yn ôl) Cyfanswm dringo: 936m (3,070 tr) Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl) Dechrau a Diwedd: Snowdon Ranger YHA,Llyn Cwellyn (SH 564551 / LL54 7YS) Map: Explorer OL17 Arolwg Ordnans Parcio: Maes Parcio Llyn Cwellyn (SH 564551 / LL54 7YS) Safle Bws Sherpa: Maes parcio Llyn Cwellyn
Llwybrau Cerdded EryriLlwybrau'r Ddyffrynnoedd LlechiApp iPhone Parc Cenedlaethol EryriCerdded
Llwybrau'r Wyddfa - 6 Taith (PDF, 13.2MB)
Parc Cenedlaethol Eryri
Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol
Bangor, Caernarfon a Llanberis Bae Ceredigion Dyffryn Conwy...
Bangor Bethesda Caernarfon...
Aberdyfi Abermaw Harlech...
Blaenau Ffestiniog Criccieth Porthmadog...
Aberdaron Abersoch Nefyn...
Bala Corris Dolgellau...
Gweithgareddau Siopa Teithlen...
Iaith Gymraeg Hanes Teulu Hanes...
Llwybrau i'r Wyddfa a Gwasanaeth Bws Sherpa...
Cipio'r Castell Gwŷr Harlech Urdd Eisteddfod...
Canolfan Groeso Caernarfon Canolfan Groeso Porthmadog Canolfan Groeso Abermaw...