Mae Eryri yn le gwych i ddod i gerdded ac mae gennym rwydwaith o lwybrau ar gyfer pobl o bob gallu. Pru’n a’i esgyn i ucheldiroedd Yr Wyddfa yw eich uchelgais neu gerdded ar un o lwybrau hamddenol yr arfordir, rydych yn siwr o gael golygfeydd godidog a tirlun amrywiol. Mae’r tirlun ei hun yn amrywio o fynyddoedd garw, traethau tywynnog hir i lynoedd ac afonydd clir. Mae’r Parc Cenedlaethol yn parhau i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau ar gyfer cerddwyr o bob gallu.
Os ydych eisiau cerdded un o’r chwe llwybr i gopa’r Wyddfa neu gerdded Cader Idris yn ne Eryri, mae’r llwybrau hyn yn gallu bod yn heriol mewn mannau. Gall y tirwedd mynyddig fod yn sialens gyda llethrau diffwys, llwybrau creigiog a’r angen am ddringo mewn rhai mannau. Rhaid cymryd gofal eithriadol wrth gerdded y llwybrau yma yn ystod tywydd gaeafol gan fod cyflwr y llwybr dan droed yn gallu bod yn beryglus iawn. Ni ddylai cerddwyr di-brofiad ymgeisio’r llwybrau yn ystod tywydd o’r fath. Dylai cerddwyr fod yn wyliadwrus o sgri rydd a llethrau. Cofiwch wisgo dillad ac esgidiau addas cyn mynd allan ar y mynydd gan edrych ar ragolygon y tywydd cyn cychwyn eich taith.Am lwybrau'r Wyddfa ewch i Sherpa - Amserlen Bws a Llwybrau Cerdded Yr Wyddfa.
Pilyn Pwn, Tŷ Nant
Pellter: 6 milltir / 10km (yno ac yn ôl) Amser: Tua 5 awr Gradd: Llwybr Mynyddig Dechrau / Diwedd: Maes Parcio Tŷ Nant (SH 697 153) Map perthnasol: Arolwg Ordnans Explorer OL23 (Cadair Idris a Llyn Tegid)
Llwybr Cwellyn
Pellter: 8 milltir (13km) (yno ac yn ôl)Esgyniad: 3071 troedfedd (936 metr)Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl)Gradd: Llwybr MynyddigDechrau / Diwedd: Maes Parcio Llyn Cwellyn, oddi ar yr A4085 (SH 564 551)Map perthnasol: Arolwg Ordnans Explorer OL 17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)
Llwybr Minffordd
Pellter: 6 milltir / 10km (yno ac yn ôl) Amser: Tua 5 awr Gradd: Llwybr Mynyddig Dechrau / Diwedd: Maes Parcio Dôl Idris (SH 732 116) Map perthnasol: Arolwg Ordnans Explorer OL 23 (Cadair Idris a Llyn Tegid)
Am ragor o fanylion am y llwybrau uchod ewch i wefan Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r llwybrau hamdden anodd yma yn cyfuno tirwedd gwastad, llethrau diffwys a rhannau sy’n esgyn yn raddol. Mae rhan o lwybr Clogau yn cynnwys cerdded ceunant hefyd. Rydych yn debygol o wynebu llwybrau serth a rhai mannau heriol, felly byddwch yn barod a gwisgwch esgidiau addas oherwydd gall rhai o’r llwybrau fod yn llithrig. Cewch eich gwobrwyo â golygfeydd godidog o dirlun Eryri gan gynnwys mynyddoedd, llynoedd, coedwigoedd ac afonydd. Mae’r rhan fwyaf o’r llwybrau yn rai cylchol gyda chyfleusterau ar gael ar ddechrau’r daith.
Pellter: 4 milltir (6.5km) Amser: 3 awr Esgyniad: 250m Gradd: Llwybr Hamdden Anodd Dechrau / Diwedd: Un o’r cilfannau ochr Dolgellau i bentref Bontddu (SH 679188) Map perthnasol: Arolwg Ordnans Explorer OL 23 (Cadair Idris a Llyn Tegid) Cyfleusterau: Toiledau a garej ym Montddu
Beth sy’n arbennig am y lle? - Mae yma goedlan amrywiol a diddorol yn y ceunant llaith sy’n wynebu’r gogledd-orllewin. Gan nad oes llawer o bori wedi bod yma, mae cyfoeth anghyffredin o blanhigion daear i’w gweld, gan gynnwys gwyddfid, eiddew a sawl math o redyn. Pridd asidig a grug sydd ar ochr ogleddol y ceunant, yn enwedig wrth nesu at y brig.
Arthog
Pellter: tua 9 milltir Amser: tua 6 awr Gradd: Llwybr Hamdden Canolig Dechrau / Diwedd: Maes parcio Arthog, oddi ar yr A493 (SH 640 147) Map perthnasol: Arolwg Ordnans Explorer OL 23 (Cadair Idris a Llyn Tegid) Cyfleusterau: maes parcio, byrddau picnic. Gwybodaeth ddefnyddiol: Tua hanner ffordd ar hyd y daith mae toiledau a maes parcio (gweler y map)
Llyn Tegid, Bala
Pellter: Tua 7.5 milltir (12Km) Amser: Tua 5 awr wrth gerdded yn hamddenol Gradd: Llwybr Hamdden Canolig Dechrau: Y Gilfach Goffa, Llanuwchllyn Diwedd: Maes Parcio APCE ar flaendraeth Llyn Tegid Map perthnasol: Arolwg Ordnans Explorer OL 23 (Cadair Idris & Llyn Tegid) Cyfleusterau: Ar ddiwedd y daith - maes parcio talu ac arddangos, toiledau cyhoeddus, byrddau picnic.
Dyffryn Maentwrog
Pellter: Rhwydwaith o lwybrau dros 30km yn ei chyfanrwydd Lleoliad: Plas Tan y Bwlch a nifer o leoedd parcio eraill (gweler y map am fwy o wybodaeth) Map perthnasol: Arolwg Ordnans OL 18 Harlech, Porthmadog a'r Bala Gwybodaeth ddefnyddiol: Gwisgwch esgidiau cerdded cyfforddus
Yr hyn sy’n dda am y llwybrau hamdden yma yw eu bod i gyd yn gymharol wastad gyda ychydig neu ddim graddiant. Gallwch gerdded rhannau o’r llwybrau neu orffen y daith gyfan-mae fyny i chi. Ac eithrio Llwybr Mawddach, mae’n bosib cwblhau y llwybrau hawdd yma mewn ychydig oriau gan roi cyfle i chwi deithio o amgylch Eryri gyda gweddill eich amser. Cofiwch wisgo esgidiau cyfforddus.
Gwelfor, Aberdyfi
Pellter: Tua 3 milltir (5 km) Amser: 2 awr Gradd: Llwybr Hamdden Hawdd Dechrau / Diwedd: Maes parcio talu ac arddangos ger Neuadd Dyfi, Aberdyfi, gyferbyn â'r garej. Map perthnasol: Arolwg Ordnance Explorer OL 23 (Cadair Idris a Llyn Tegid) Gwybodaeth Ddefnyddiol: Gwisgwch esgidiau cerdded cyffyrddus a chôt law (gall y daith hon fod yn fwdlyd). Mae'n werth mynd â sbienddrych gyda chi.
Abergwynant
Amser: Tua 2 awr Gradd: Llwybr Hamdden Hawdd Dechrau / Diwedd: Maes Parcio Llynpenmaen, ger Dolgellau Map perthnasol: Arolwg Ordnans Explorer OL 18 Harlech, Porthmadog a'r Bala Gwybodaeth Ddefnyddiol: Gwisgwch esgidiau cerdded cyffyrddus a dillad glaw (gall y daith hon fod yn fwdlyd). Mae'n werth mynd â sbienddrych gyda chi
Pontydd, Betws y Coed
Pellter: Rhwng 1 a 4 milltir Amser: Rhwng 1 a 3 awr Gradd: Llwybr Hamdden Hawdd Dechrau / Diwedd: Maes Parcio'r Parc Cenedlaethol y tu ôl i'r Ganolfan Groeso Map perthnasol: Arolwg Ordnans Explorer OL 17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy) Gwybodaeth Ddefnyddiol: Gwisgwch esgidiau cyfforddus a chôt law
Llwybr Ianws
Pellter: 400 metr Gradd: Llwybr hygyrch Dechrau / Diwedd: Maes Parcio Cwellyn ar yr A4085 rhwng Rhyd Ddu a Betws Garmon (SH 564 551) Cludiant Cyhoeddus: Gwasanaeth Bws Rhif S4 (Sherpa'r Wyddfa). Am fwy o fanylion ewch i www.traveline-cymru.org.uk neu ffoniwch 0871 200 22 33 Cyfleusterau: Parcio i'r anabl, toiled hygyrch, meinciau a byrddau picnic hygyrch
Dôl-Idris
Lleoliad: Maes Parcio Dôl Idris, Talyllyn ar y B4485 (ger y gyffordd i'r A487) Cyfeirnod Grid: SH 732 115 Y Llwybr: Tua 1.25kn o lwybr hygyrch Cyfleusterau: Maes parcio, toiledau, toiled hygyrch, byrddau picnic hygyrch Gwybodaeth Ddefnyddiol:Ffôn 01341 422 888 neu e-bost tic.dolgellau@eryri-npa.gov.uk Cluddiant Cyhoeddus: Gwasanaeth Bws Rhif 30. Am fwy o fanylion ewch i www.traveline-cymru.org.uk neu ffoniwch 0871 200 22 33
Rhaeadr Aber
Pellter: 2 milltir / 3.2km Gradd: Llwybr Hygyrch, ond gydag elltydd. Dechrau / Diwedd: Maes parcio Rhaeadr Fawr. Map perthnasol: Aber Arolwg Ordnans Explorer OL 17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy). Cyfleusterau: Meysydd parcio hygyrch, toiledau cyhoeddus a bwrdd picnic hygyrch yn y maes parcio uchaf, canolfan ddehongli ar y llwybr.
Llwybrau i'r Wyddfa - 6 LlwybrLlwybrau'r Ddyffrynnoedd LlechiCerdded
Llwybrau'r Wyddfa - 6 Taith (PDF, 13.2MB)
Parc Cenedlaethol Eryri
Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol
Bangor, Caernarfon a Llanberis Bae Ceredigion Dyffryn Conwy...
Bangor Bethesda Caernarfon...
Aberdyfi Abermaw Harlech...
Blaenau Ffestiniog Criccieth Porthmadog...
Aberdaron Abersoch Nefyn...
Bala Corris Dolgellau...
Gweithgareddau Siopa Teithlen...
Iaith Gymraeg Hanes Teulu Hanes...
Llwybrau i'r Wyddfa a Gwasanaeth Bws Sherpa...
Cipio'r Castell Gwŷr Harlech Urdd Eisteddfod...
Canolfan Groeso Caernarfon Canolfan Groeso Porthmadog Canolfan Groeso Abermaw...