A   A   A
Llwybr Mawddach Trail & Afon Wnion

Llwybr Mawddach

Dolgellau / Barmouth, LL40 1SN / LL42 1EU (map)
Llwybr Mawddach

Abermaw a'r Llwybr Mawddach Trail and Barmouth
Mae Llwybr ysblennydd Mawddach yn dilyn llwybr yr hen reilffordd ar hyd glan ddeheuol Aber Mawddach. Dywedodd y gŵr blaenllaw o oes Fictoria, John Ruskin, nad oedd taith gerdded yn y byd gyda golygfeydd i gymharu â'r llwybr o Abermaw i Ddolgellau, ar wahân i'r llwybr o Ddolgellau i Abermaw! Mae'r golygfeydd tuag at Ddiffwys a’r Rhinogydd, ac i fyny'r dyffryn i’r Garn a Mynyddoedd yr Aran heb ei ail.

Adeiladwyd y rheilffordd i gario ymwelwyr ac, yn achlysurol, llechi yn 1865 ond cafodd ei gau gan Beeching yn 1965. Dim ond y bont reilffordd eiconig haearn a phren ar draws Aber Afon Mawddach sydd yn dal i’w ddefnyddio, er yn araf, gan drenau modern. Golyga dyfodiad y rheilffordd diwedd ar ddiwydiant yn yr harbwr ac adeiladu cychod ar y Fawddach ond er hynny, adeiladwyd y pontydd yn Abermaw a Phenmaen-pwl gyda bwa addas i gychod mawr. Daeth cychod masnachol i ben erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Er yn dywodlyd yn bennaf, mae gan aber y Mawddach yr ardal fwyaf o fwd cysgodol ym Mae Ceredigion. Mae hyn yn bwysig ar gyfer abwyd morol, crestenogion a chregyn deuglawr, ac mae'r rhain yn bwysig ar gyfer rhydwyr ac adar gwyllt. Mae llystyfiant arloesol glastraeth megis Llyrlys a Cordwellt yn graddio i ardaloedd Lafant y Môr a Chorsen. Mae Corslwyn Penmaen-pwl yn un o'r mwyaf yng Nghymru. Mae Telor yr Hesg a’r Troellwr Bach yn bridio yma ac mae heidiau mawr o Siglennod Brith yn clwydo yma dros y gaeaf.

Mae'n brin ym Mhrydain i aber arddangos ystod mor eang o drawsnewidiadau ecolegol, o gynefinoedd rhynglanwol i gynefinoedd daearol, gyda morfa heli, morfa pori, corslwyn a choetir.
Yn benodol, Cors Arthog yw’r unig gyforgors forydol yng Ngogledd Cymru. Mae'r fawndir prin yn flodeuog yn ac yn entomolegol gyfoethog gyda nifer o rywogaethau lleol neu genedlaethol prin. Mae'r corsydd pori o gwmpas yr aber yn cynnal rhai o'r poblogaethau bridio mwyaf o’r Pibydd Coesgoch a'r Gïach Cyffredin yng Ngwynedd. Ar ochr y dyffryn, mae coetir y RSPB yng Nghoed Garth Gell yn cynnal Gwybedogion Brith, Tingochion a Theloriaid y Coed sydd yn nodweddu coedwigoedd derw Cymreig.

Mae Llwybr Mawddach wedi ei nodi'n glir ac mae'n hawdd i'w ddilyn. Gallwch ymuno â'r llwybr o unrhyw un o'r lleoliadau canlynol lle mae meysydd parcio: Y Marian Dolgellau, Pont y Wernddu, Penmaen-pwl, Arthog, Morfa Mawddach, Abermaw. Mae’r llwybr yn wastad ac yn addas ar gyfer cerddwyr, beicwyr, pramiau a defnyddwyr cadair olwyn.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy