Llŷn neu ‘Braich yr Wyddfa’, yw’r 24 milltir o dir prydferth sydd yn gwynebu tuag at Môr yr Iwerydd. Caiff ei brydferthwch ei hadnabod diolch i’r statws swyddogol ‘Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol’ - sydd yn deillio yn ôl dros 50 o flynyddoedd. Golygai hyn fod ei forlin, y milltiroedd o draethau tywodlyd, pentiroedd uchel, cildraethau cysgodol a’r bae agored sy’n llawn bywyd gwyllt, yn cael eu gwerthfawrogi yn genedlaethol, ac mae'r rhain oll yn cael eu cydgysylltu gan Lwybr Arfordirol Llŷn. Mae’n gadarnle o ddiwylliant ac iaith Gymreig gydag etifeddiaeth grefyddol ddiddorol. Gall ymwelwyr olrhain Taith y Pererinion ar hyd y penrhyn cyn teithio ar gwch i Ynys Enlli, a gafodd ei ddynodi fel Gwarchodfa Naturiol Cenedlaethol gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
Aberdaron
Pentref bychan, darluniadol, llawn bythynnod a thai gwyn pysgotwyr, sydd wedi ei godi ar frig y Llyn. Caiff Aberdaron ei adnabod fel Pen Tir Cernyw (Land’s End) Gogledd Cymru.
|
|
Abersoch
Yn wreiddiol porth pysgota oedd Abersoch ond erbyn hyn mae’n gyrchfan glan y môr gyda thraethau euraidd teg.
|
|
Nefyn
Pentref poblogaidd ger y môr gyda harbwr yw Nefyn. Mae ei bae ysgubol yn arwain at ddwy filltir o draeth a golygfeydd darluniadol Porthdinllaen, sydd nawr yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
|
|
Caiff ei adnabod fel prif ardal Pen Llŷn, a cheir cymysgedd hyfryd a gwahanol - o dref farchnad ac ardal glan y môr. Mae hefyd yn gyrchfan o safon ar gyfer hwylio gyda cyfleusterau rhagorol ar gyfer chwaraeon dŵr. |
|

|
|
|
Merlota. Prisiau yn cychwyn o £49.50 |
|
Dringo ac Abseilio. Prisiau yn cychwyn o £49.50 |
|
'Coasteering' Prisiau yn cychwyn o £49.50 |
|
Cyrsiau Antur Prisiau yn cychwyn o £30 |