A   A   A
Traeth Llanbedrog Beach

Llanbedrog

Llanbedrog, Pwllheli, LL53 7TT (map)

Traeth Llanbedrog Beach
Mae pentref hardd Llanbedrog wedi ei leoli ar ochr ddeheuol Pen Llŷn rhwng y trefi gwyliau glan môr poblogaidd Abersoch a Phwllheli. Enwir y pentref ar ôl Sant Pedrog a sefydlodd yr eglwys leol yn y 6ed ganrif.

Mae’r pentref yn enwog am ei thraeth sydd nid yn unig yn filltir o hyd ond hefyd y mwyaf cysgodol yng Ngogledd Cymru. Mae’r rhan helaeth o’r traeth o dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr megis hwylfyrddio, caiacio a hwylio.

Mae cytiau traeth wedi bod ar lan môr Llanbedrog ers cyn cof ac maent ar gael i'w llogi gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol rhwng mis Ebrill a mis Medi. Gellir ei llogi ar delerau tymhorol, wythnosol neu ddyddiol.

Mae'r tirnod lleol a elwir "Y Ddelw" wedi ei leoli ar bentir Mynydd Tir y Cwmwd. Mae'n disodli’r hen Ddelw neu a oedd ei hun wedi cymryd lle'r ddelw bren gwreiddiol, blaenddelw llong.

Mae digonedd o deithiau cerdded o amgylch Llanbedrog yn amrywio o deithiau traeth hawdd i deithiau cerdded heriol ar hyd y penrhyn garw. Mae Eithin a Grug tir comin Mynydd Tir y Cwmwd yn cwmpasu 175 erw gyda golygfeydd panoramig syfrdanol ar draws Abersoch, Pwllheli a thuag at Bae Ceredigion.

Mae'r pentref hefyd yn enwog am y tŷ gweddw, Plas Glyn y Weddw, a godwyd yn y dull Gothig.


Yn ystod 2008 llwyddwyd i ddod â’r goedlan 12 acer gyfagos yn ôl yn rhan o stad Glyn y Weddw. Ers hynny, datblygwyd rhwydwaith o lwybrau, gan gynnwys llwybr yr arfordir, maes parcio newydd, amffitheatr a chanolfan ddehongli. Mae’r Oriel yn trefnu cyfres o arddangosfeydd misol gan artistiaid amlwg o Gymru a thu hwnt.

Roedd chwarela ithfaen yn fasnachol bwysig yn ystod diwedd y 19eg ganrif / dechrau'r 20fed ganrif ac mae tair chwarel ithfaen segur ar hyd yr arfordir. Mae gweddillion y lanfa ac adeiladau eraill, gan gynnwys adeilad mawr le storiwyd cerrig, i'w weld o hyd. Caewyd y chwareli yn 1949.

Mae’n haws cyrraedd Carreg y Defaid o bentref Llanbedrog ar hyd y traeth, wedi edrych ar y pyllau creigiog rhagorol oddi tan Fynydd Tir y Cwmwd ac edmygu’r cytiau ar y traeth yn agos at y clogwyn. Mae Carreg y Defaid yn ynys fechan oddi ar y lan gyda phentir cysylltiedig, y ddau wedi’u ffurfio o greigiau folcanig sydd i’w gweld yma ac acw ar hyd y clogwyni llifwaddodol meddalach. Ceir darn o rostir arfordirol gwael ar y pentir a bydd Clochdar y Cerrig a’r Llinos yn ymweld ag o. Rownd y trwyn, ceir clogwyni creigiog isel gyda chen prin arnynt, yn cynnwys y Cen Heuldan Morol sy’n oren llachar a’r Cen Tar Du. Ar y cerrig mawr o amgylch y pentir ac ymhellach i’r dwyrain ceir gorchudd cymharol isel o Gwymon Codog. Y gaeaf yw’r amser gorau i wylio’r môr o bosibl, i chwilio am adar môr ac adar y lan yn gori. Mae haid o’r Cwtiad Aur i’w gweld yn aml ar y caeau cyfagos o lifogydd.

Mae maes parcio Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi'i leoli uwchben traeth Llanbedrog.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy