A   A   A
700 267 (610x233) Clynnog Fawr

Hel Achau

Dros y canrifoedd mae nifer o unigolion a theuluoedd wedi ymfudo o ardal Eryri Mynyddoedd a Môr i chwilio am waith, ceisio ei ffortiwn a dilyn eu breuddwydion. Mae nifer wedi penderfynu cartrefu ar draws Prydain mewn dinasoedd megis Lerpwl, Manceinion, Birmingham a Llundain. Mae eraill wedi mynd ymhellach dros y dŵr i wledydd megis yr UDA, Canada, Patagonia, Awstralia a Seland Newydd.

Os penderfynwch ddod i ymweld â chartref eich cyndadau, mae nifer o wahanol gyfleon ar gael yn yr ardal ar gyfer datgloi’r gorffennol a darganfod mwy am eich hanes. Mae dau archifdy - wedi ei leoli yng Nghaernarfon a Dolgellau, nifer o lyfrgelloedd lleol sydd ar agored i'r cyhoedd ynghyd ac eglwysi a chapeli sydd yn lleoliadau gwych i ddarganfod gwybodaeth.     

 

Cysylltiadau gyda UDA

Yn ôl y son yr allfudwyr Cymraeg cyntaf i’r Byd Newydd oedd Madog ab Owain Gwynedd (Tywysog Madog) a chriw o wladychwyr a wnaeth hwylio o Borthmadog gyda 13 llong, am eu bod wedi dadrithio gyda'u bywydau yn y 12fed ganrif. Yn ol y chwedl, fe lanwyd y llwyth mewn man sydd yn cael ei alw heddiw yn Mobile Bay, Alabama yn 1169. Fe wnaethant integreiddio gyda’r Indiaid lleol, y Mandan a wnaeth yn ôl y son, ddysgu siarad Cymraeg ym mhen hir a hwyr.

Fe ddechreuodd Cymdeithas Gymraeg Philadelphia yn 1729, sydd yn golygu ei fod y gymdeithas ethnig hynaf o’i fath yn UDA. Mae nifer o’r aelodau dros y blynyddoedd wedi creu eu hargraff ar wleidyddiaeth, amaethyddiaeth, gweinyddiaeth cyfiawnder, yn ogystal â diwydiant, yn arbennig mwyngloddio a chynhyrchu haearn a dur. Yn ôl cymdeithas Cymraeg Philadelphia, roedd gan 16 o ddynion a arwyddodd y Datganiad o Annibyniaeth yn 1776 achau Cymreig; George Clymer, Stephen Hopkins, Robert Morris, William Floyd, Francis Hopkinson, John Morton, Britton Gwinnett, Thomas Jefferson, John Penn, George Read, John Hewes, Francis Lewis, James Smith, Williams Hooper, Lewis Morris, a William Williams.

Yn ogystal ag Arlywydd Thomas Jefferson (sydd wedi nodi yn ei hunangofiant fod ei deulu wedi ymfudo o le “ar droed yr Wyddfa”) roedd gan nifer o ddinasyddion blaengar achau Cymreig. Gan gynnwys unigolion a oedd yn ganolog i sefydlu’r genedl newydd megis Arlywyddion James Monroe a Abraham Lincoln.

Cysylltiadau gyda Phatagonia


Arloeswr y mudiad i sefydlu aneddiad ym Mhatagonia oedd y parchedig Michael D. Jones o Lanuwchllyn wrth Bala. Fe hwyliodd y criw cyntaf o anheddwyr (tua 150 o bobl) o Lerpwl i Batagonia ar fwrdd llong Mimosa, a glanio ym Mhort Madryn ar 28ain o Orffennaf 1865.

Yn anffodus fe welsant nad oedd Patagonia yn le cyfeillgar a deniadol fel yr oeddynt wedi gobeithio. Roedd yn dir diffrwyth a digroeso ac fe wnaethant frwydro am flynyddoedd i wneud bywoliaeth. Er gwaethaf yr holl broblemau fe wnaeth y gymuned oroesi a ffynnu, ac maent dal yn falch o’u hetifeddiaeth a’u hunaniaeth Gymraeg. 

Cysylltiadau gydag Awstralia


Y criw cyntaf y gwyddom amdanynt i gyrraedd Awstralia oedd y rhai a deithiodd ar y “First Fleet”. Troseddwyr oeddent, dau ddyn a dwy ddynes. Er hynny, hyd yn oed cyn y cyfnod hwn, roedd criwiau Cymraeg yn bresennol ar fordeithiau James Cook. Roedd bywyd yn galed yn Awstralia i’r sawl oedd wedi eu gyrru i'r wladfa gosb. Roedd llawer o’r rhai a chaiff eu cludo yno yn uniaith Gymraeg a ni allant gyfathrebu gyda’u dalwyr a’u cyd garcharorion.

Yn ystod yn 19eg ganrif daeth y diwydiant mwyngloddio a’r “Gold Rush” a symudodd nifer sylweddol o Gymry i Awstralia. Fe sefydlwyd capeli Cymraeg, ac fe godant ymwybyddiaeth o’i phresenoldeb ym mhob man. Heddiw mae’r gymuned Gymraeg yn Awstralia yn ffynnu, ac fel yn America, mae’r disgynyddion o’r arloeswyr cynnar wedi gadael eu hoel ar y byd gan gynnwys unigolion megis Alf Morgans. Mae teulu Kylie a Dannii Minogue yn deillio o Flaenau Ffestiniog.

196 150 Diwrnod Marchnad Phwllheli Market Day
196 150 loading slate llwytho llechi
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2018 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy