Hanes
Mae Eryri Mynyddoedd a Môr heddiw, wedi esblygu o gymysgedd egnïol o hanes, diwylliant a thirlun sydd yn dyddio’n ôl i ddyddiau cyn pagan a ddilynwyd gan feddiannaeth Rufeinig a dyrchafiad Cristnogaeth. Mae’r ardal wedi profi oes y tywysogion canoloesol, gormes y Llychlynwyr, ymgyrchoedd rhyfelgar y Sacsoniaid Eingl ar Normaniaid a thrwy flynyddoedd y chwyldro diwydiannol i'r cyfnod modern.
Mae tystiolaeth lawn o’r cyfnodau hanesyddol yma i’w gweld yn glir ar dirlun godidog ein mynyddoedd, dyffrynnoedd a’n harfordir. O gaer i ucheldir Celtaidd, lleoliadau cysegredig crefyddol, cylchoedd cerrig, cadwyn o gestyll unigryw, eglwysi a chapeli ynghyd a gweddillion diwydiannol diddorol. |
|
|
Oes Haearn
Mae cannoedd o fannau cyn hanes wedi eu gwasgaru o amgylch yr ardal, un o’r mannau mwyaf enwog yw Tre’r Ceiri, aneddiad Oes Haearn arwyddocaol sydd yn dominyddu Penrhyn Llŷn ar lethrau’r Eifl, 400 troedfedd uwchben môr yr Iwerydd. Mae'r aneddiad yn cynnwys cryn dipyn o weddillion gan gynnwys 150 o gytiau cared a rhagfur enfawr a gafodd eu hadeiladu yn 200 CC. Mae nifer o’r waliau sydd yn weddill dal dros 4 medr o uchder mewn rhai llefydd.
Cestyll - Mannau Treftadaeth y Byd
Yn dilyn cwymp Ymerodraeth Rhufain ac ymadawiad y lleng Rhufeinig, ymhen hir a hwyr fe lwyddodd oresgynwyr eraill i feddu’r tir, er gwaethaf y dirwedd fynyddig galed. Fe adawodd y Llychlynwyr, Eingl Sacsoniaid a’r Normaniaid eu marc ar yr ardal. Fe arweiniodd hyn at Dywysogion Cymru yn adeiladu cestyll ac amddiffynfeydd fel ymdrech i amddiffyn eu tiroedd rhag y goresgynwyr, a'i gilydd!
Fe gipiodd Edward I y cestyll brodorol, ac fe aeth yn ei flaen i adeiladu cylch o gestyll arswydus yng Ngogledd Cymru. Mae Castell Caernarfon, sydd yn Fan Treftadaeth y Byd, yn eistedd yn herfeiddiol ar lan afon Seiont a’r Afon Menai. Mae'n edrych yn debyg iawn heddiw i sut yr edrychai pan orffennwyd ei adeiladu yn 1330. Cafodd ei adeiladu i fod yn gadarnle milwrol, ond yn ogystal â hyn roedd Edward yn ei ddefnyddio fel ei gartref swyddogol yng Nghymru.
Castell arall yr oedd Edawrd I yn berchen arno yw castell Harlech, un uchel ar y penrhyn yn edrych dros fae Ceredigion ac yn ymddangos fel ei fod yn dyrchafu o’r garreg is law. Cafodd ei adeiladu gan James of St George, hoff bensaer Edward ac fe gymerodd saith mlynedd i’w gyflawni. Yn 1404 fe gipiodd Owain Glyndŵr y castell ar ôl i warchae hir leihau’r gwarchodlu i 21 dyn oherwydd newyn. Yn ystod Rhyfel y Rhosod fe wnaeth y castell wrthsefyll y gwarchae hiraf yn hanes Prydain a wnaeth ysbrydoli’r gan “Men of Harlech”.
Y Rhufeiniaid Soffistigedig
Fe welwyd newid cyfan gwbl i gymdeithas frodorol Geltaidd, y llwythi a oedd yn trigo yn ardal aneddiad yr Oes Haearn, pan ddaeth dyfodiad y Rhufeiniaid. Er gwaethaf nerth a soffistigedigrwydd byddin y Rhufeiniaid fe welsant y tirwedd Eryri a’r Celtiaid yn wrthwynebiad arswydus. Ym mhen hir a hwyr fe wnaethant lwyddo i oresgyn y boblogaeth frodorol a feddiannodd llawer o’r caerau bryn, hefyd fe wnaethant adeiladu eu gwersyll eu hunain yn yr ardal. Fe sefydlwyd y caer pren a daear cyntaf yng Nghaernarfon gan Greanus Julius Agricola yn 77AD - mae gweddillion y safle Segontium dal i fod yn weladwy heddiw.
Crefydd
Gyda dyfodiad Cristnogaeth, cafodd llawer o fynachlogydd, abatai ac eglwysi hynafol eu sefydlu yn yr ardal. Gall tarddiad Cadeirlan Bangor yn ddinas brifysgol yr ardal gael ei olrhain yn ôl i’r oes Geltaidd. Fe sefydlodd Sant Deiniol fynachlog yma yn y 6ed ganrif tua c.525 ar dir a roddir gan frenin Gwynedd, Maelgwn Gwynedd.
Cafodd Eglwys Beuno yng Nghlynnog Fawr ei sefydlu yn yr oes Geltaidd. Fe ddatblygodd i fod yn sefydliad pwysig, ac roedd deddfau Hywel Dda yn datgan fod gan Abad Clynnog hawl i gael lle wrth lys Brenhinoedd Gwynedd. Roedd yr eglwys yn fan gorffwys pwysig i bererinion a oedd ar daith i Ynys Enlli yn oes gynnar Cristnogaeth.
Roedd Enlli ei hun yn gyfannedd yn ystod Oes Neolithig, ac mae’r ynys dal i gynnwys adfeilion cylch cytiau. Yn ystod y 5ed ganrif roedd Enlli yn noddfa i Gristnogion a oedd wedi eu herlid. Dechreuodd y mynachod adeiladu mynachlog ar yr ynys o dan arweiniad Sant Cadfan yn y 6ed ganrif. Am ganrifoedd roedd Ynys Enlli yn gladdfa sanctaidd pwysig am mai yno y caiff y dewrion ar goreuon eu claddu. Roed y beirdd Cymreig yn ei alw “Y porth i Baradwys”. Yn ôl y son mae dros 20,000 o seintiau wedi eu claddu ar yr ynys. Yn y Canol Oesoedd cynnar, roedd tai pererindod i Enlli yn gyfartal ac un i Rufain.