A   A   A
Coedydd Hafod y Llan Woodland

Hafod y Llan

Nant Gwynant, Beddgelert, LL55 4NQ (map)
Gwefan gyda manylion taith gerdded

Hafod y Llan, Nant Gwynant

Mae Hafod y Llan wedi ffynnu o dan reolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 1998. Daeth y fenter uchelgeisiol i’w meddiant gyda chymorth Apêl Eryri a gefnogwyd gan yr enwog Syr Anthony Hopkins. Mae’n Warchodfa Natur Genedlaethol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae hefyd yn fferm weithredol. Mae'r ystâd 4,000 acer yn ymestyn o lawr y dyffryn i gopa'r Wyddfa, ac mae'n ardal o dreftadaeth byw ucheldir gwledig Cymru.

Yn ogystal â chynnig golygfeydd syfrdanol o Eryri a'i fynyddoedd mawreddog, mae’r fferm hon yn arbennig o bwysig i fywyd gwyllt. Heddiw, mae’r ffermio yn digwydd mewn ffordd sy'n gweithio gyda natur ac yn sensitif i'r amgylchedd. Mae'r tir yn cael ei bori'n organig sydd wedi helpu adfer rhai cynefinoedd o rug a phrysg brodorol y mynyddoedd hyn.

Pob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn ymweld â'r dirwedd ddramatig. O olion dramleiniau Fictoraidd a fyddai wedi cludo gweithwyr chwarel, i safleoedd archeolegol a hyd yn oed poblogaeth o eifr gwyllt, mae digon i'w archwilio. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys gwersylla, sydd wedi'i lleoli yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n dymuno cerdded i fyny'r Wyddfa ar hyd y llwybr Watkin.

Dilynwch lwybr hudolus Ddiddordeb Teulu Ffarm Hafod y Llan, sy'n dechrau ar bont ger yr Afon Glaslyn, safle pwysig ar gyfer silio Eogiaid a Brithyllod. Ymhellach ymlaen, mae’r Afon Glaslyn yn cwrdd ag Afon y Llan, sy'n dylifo i lawr o binaclau’r Wyddfa. Mae’r tro yn yr afon yn lle perffaith i chwilio am benbyliaid yn y gwanwyn. Yn ystod eich taith gerdded, efallai y byddwch yn sylwi ar y waliau cerrig sych ac adeiladau fferm draddodiadol sy'n nodweddiadol o'r  dyffryn. Mae’r llethrau is yn cynnal coetir a brigiadau creigiog, tra ar y llethrau uwch ceir clogwyni, sgri, mwyngloddiau a chwareli.

Wrth i chi gerdded yn hamddenol ar hyd y llwybr, mae yna amrywiaeth gyfoethog o blanhigion ac anifeiliaid i'w darganfod. Mae'r rhain yn cynnwys y Dyfrgi a’r Fronwen; ynghyd â rhywogaethau adar amrywiol megis yr Hebog, y Siglen Lwyd a'r Frân Goesgoch, yn ogystal â Chrëyr Glas a Bronwen y Dŵr, a welwyd yn aml wrth ymyl glan yr afon. Yn arbennig mae'r ardal yn gartref i’r glöyn byw brin Britheg y Waun, a’r Ystlum Pedol Lleiaf. Yn ystod y gwanwyn / haf, mae’r fflora yn fyw gyda Chlychau'r Eos, arogl melys Clychau'r Gog a Thegeirian Brych y Rhos.

Mae'r fferm bridio defaid mynydd traddodiadol Cymreig, ac yn ddiweddar ail-gyflwynwyd Gwartheg Duon Cymreig pedigri, sydd yn gweddu'n dda i'r ardal gan eu bod yn ffynnu yn amgylchiadau llym y mynyddoedd. Gwartheg yn pori'n llai detholus na defaid ac yn cadw'r glaswellt ymosodol, megis Glaswellt y Gweunydd a Chawn Du, o dan reolaeth. Mae hyn yn cynyddu bioamrywiaeth y tir.

Mae maes parcio wedi ei lleoli drws nesaf i Wersyll Hafod y Llan, yn ogystal â maes parcio sy'n ymuno â Llwybr Watkin gerllaw ym Methania (ychydig oddi ar yr A498).

Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru | 01286 679686
GwyneddConwy