A   A   A
700 267 (610x233) Beicio Bangor Cycling

Lonydd Glas Gwynedd

Chwilio am le diogel, di-draffig i gerdded neu feicio? Eisiau awyr iach neu ddianc o sŵn y byd o’ch cwmpas? Pam na ewch am dro ar hyd eich Lonydd Glas? Wedi eu darparu yn arbennig ar gyfer cerdded a beicio, fe geir tros 50.5 cilomedr (31.5 milltir) o’r llwybrau pwrpasol yma yng Ngwynedd, lle cewch ymlacio ymysg natur ac anghofio am broblemau’r byd tu allan. Teithiau gwledig a thawel yw’r rhain a sefydlwyd yn bennaf ar hyd hen reilffyrdd yng nghanol gwyrddni cefn gwlad Gwynedd; ardal yn unigryw o ran ei thirlun, ei diwylliant a’i phobl, ac yn gryf yn ei Chymraeg. Llwybrau drwy ganiatâd Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yw’r llwybrau hyn. Darparwyd y rhwydwaith ar eich cyfer chi, a disgwylir ymddygiad priodol gennych bob amser fyddwch yn ymweld.

Lôn Las Ogwen

Dyffryn yr Afon Cegin yw un o fannau tawelaf yr ardal, lle’n aml nid oes dim ond sŵn yr afon. Gelwir y rhan hon o’r llwybr sy’n rhedeg drwy’r dyffryn cysgodol rhwng Porth Penrhyn a phentref Glasinfryn yn Lôn Bach. Adeiladwyd Lôn Bach yn yr 1980au ar gyn reilffordd gul Stad y Penrhyn, a sefydlwyd i gludo llechi o chwarel Bethesda i’w hallforio o Borth Penrhyn. Erbyn heddiw, mae Lôn Bach yn rhan o Lôn Las Ogwen, sy’n ymlusgo’n ddiog ar ei thaith tros y bont odidog ger Glasinfryn i Dregarth, a heibio Chwarel Penrhyn i Nant Ffrancon. Nid yw cynllun Lôn Las Ogwen wedi ei gwblhau, a gobeithiwn gysylltu’r daith â Bethesda.

 
Am fap o'r daith gewch lawrlwytho: Lôn Las Ogwen Recreational Route (PDF, 1.36MB)

Lôn Las Menai

Mae Lôn Las Menai yn llwybr 6.5km (4.5milltir) o hyd sy’n rhedeg rhwng tref hanesyddol Caernarfon a phentref Y Felinheli. O Gaernarfon mae’r llwybr wyneb tarmac yn dilyn y cyn reilffordd gyfochrog a’r afon Menai , o’r llwybr cewch fwynhau golygfeydd ar draws i Ynys Môn. Cyn cyrraedd Y Felinheli byddwch yn mynd heibio’n agos i’r Ganolfan Chwaraeon Dˆwr Genedlaethol ym Mhlas Menai. Yn Y Felinheli rhaid dilyn y ffordd sy’n arwain i mewn i’r pentref am ychydig cyn mynd oddi ar y ffordd a heibio i adeilad cyn stesion Y Felinheli. Mae Lôn Las Menai yn rhan o Lôn Las Cymru, taith rhif 8 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

 
1095 x 1015 Lôn Las Menai
Am fap o'r daith gewch lawrlwytho: Lôn Las Menai Recreational Routes (PDF, 1.38MB)

Lôn Las Peris

O bentref poblogaidd Llanberis, yr adwy i Eryri, gallwch ddilyn Lôn Las Peris ar hyd lan cysgodol Llyn Padarn. Wedi’r twnnel, ac ar ben y daith mae’r llwybr yn cysylltu i’r rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus lleol, o ble gallwch feicio neu gerdded heibio Cwm y Glo a Llanrug, i lawr dyffryn yr Afon Seiont i gyfeiriad tref brysur Caernarfon. Pam na archwiliwch gefn gwlad hanesyddol ardal y lechen ymhellach drwy ddilyn ffyrdd gwledig i ymweld â phentrefi Deiniolen a Phenisarwaun, neu feicio i fyny’r dyffryn i gyfeiriad Nant Peris?

 
1095 x 1015 Lôn Las Peris
Am fap o'r daith gewch lawrlwytho: Lôn Las Peris Recreational Routes (PDF, 1.39MB)

Lôn Gwyrfai

Mae Lôn Gwyrfai yn daith ar hyd ffyrdd tawel sy’n cysylltu Caernarfon a Waunfawr. Cychwynnir y daith ger Pont Seiont,Caernarfon gan ymlwybro heibio dˆy Plas Glanrafon ag yna ar hyd traciau a lonydd sy’n dyddio’n ôl i ddyddiau’r Rhufeiniaid hyd nes cyrraedd pentref Waunfawr.

 
1095 x 1015 Lôn Gwyrfai
Am fap o'r daith gewch lawrlwytho: Lôn Gwyrfai (PDF, 1.38MB)

Lôn Eifion

Byddai rhai yn dweud mai Lôn Eifion yw’r daith fwyaf adnabyddus ar y rhwydwaith. Yn sicr, mae’n ddigon hawdd gweld pam fod y llwybr yn boblogaidd, gyda’i lecynnau tawel cysgodol, a’i olygfeydd godidog. Pam na ewch i weld y panorama o’ch cwmpas o Ben Llŷn, Bae Caernarfon, Ynys Môn ac Eryri? Dilynwch Lôn Eifion trwy goridorau gwyrdd o goed a phlanhigion cynhenid sydd yn ymestyn rhwng tref brysur Caernarfon a phentref gwledig Bryncir i’r de. Mae gan y cyfan o Lôn Eifion wyneb tarmac ac mae’n rhan o Lôn Las Cymru, taith rhif 8 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

 
1095 x 1015 Lôn Eifion
Am fap o'r daith gewch lawrlwytho: Lôn Eifion Recreational Cycle Route (PDF, 1.31MB)

Llwybr Trawsfynydd

Mae’r llwybr yn dilyn glan ddwyreiniol Llyn Trawsfynydd, drwy goedlannau a thir amaethyddol agored. Adeiladwyd y llwybr yn bennaf ar dir Pwerdy Ynni Niwclear Trawsfynydd, sydd bellach yn cael ei ddadgomisiynu. Yng nghyffiniau’r Pwerdy a’r ganolfan ymwelwyr mae’r llwybr yn croesi ffyrdd a ddefnyddir gan gerbydau. Gellir defnyddio llwybr cyfochrog a’r A470 er mwyn beicio i bentref Trawsfynydd.

 
1095 x 1015 Llwybr Trawsfynydd
Am fap o'r daith gewch lawrlwytho: Llwybr Trawsfynydd Route (PDF, 1.37MB)

Llwybr Mawddach

Yn ymlusgo’n ddiog ar hyd cyn reilffordd ger aber y Fawddach, mae Llwybr Mawddach, sy’n berchen i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac a reolir ganddo, yn rhedeg o Abermaw i Ddolgellau. Mae gan y llwybr wyneb o lwch cywasgedig, gyda’r rhan o Lynpenmaen i Ddolgellau wedi’i addasu’n arbennig ar gyfer pobl anabl. Wrth gerdded neu feicio ar hyd y llwybr, cewch olygfeydd gwych o’r ardal, yn ogystal â’r aber a phont fawreddog Abermaw. Mae yma hefyd amrywiaeth cyfoethog o gynefinoedd gwlyptir a choetir, er enghraifft Coedydd Abergwynant, sy’n gyfochrog â’r llwybr ac yn berchen i’r Awdurdod. Mae Llwybr Mawddach yn rhan o Lôn Las Cymru, taith rhif 8 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

 
1095 x 1015 Llwybr Mawddach
Am fap o'r daith gewch lawrlwytho: Llwybr Mawddach Trail (PDF, 1.34MB)

Er Eich Iechyd

Gall cerdded neu feicio rheolaidd a chymhedrol:

  • Ostwng pwysau gawed.
  • Gostwng lefel cholesterol.
  • Cryfhau cyhyrau a'r esgyrn.
  • Helpu i reoli'ch pwysau.
Mae'r uchod i gyd yn cyfrannu tuag at broblemau iechyd yn enwedig clefyd coronaidd y galon.
 

330 x 270 Cerdded Lon Las Walking

Gall cerdded a beicio hefyd leihau y risg o strôc, clefyd siwgr, osteoporosis a gordewdra. Os nad ydych yn arfer cerdded neu feicio mae'r Lonydd Glas gwastad a di-draffig yn cynnig cyfle i chi ddod yn ôl i'r arferiad.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chyngor am gerdded a beicio er lles eich iechyd gan eich meddyg teulu neu'r Gwasanseth Hybu Iechyd. 

Côd Beicio Da

  •  Darllenwch Reolau'r Ffordd Fawr; dilynwch nhw bob amser.
  • Ystyriwch eraill; yn argennig ar lwybrau lle rhennir defnydd.
  • Byddwch yn ymwybodol o gerddwyr, canwch y gloch neu galwch arnynt yn gwrtais i'w rhybuddio.
  • Sicrhewch fod eich beic mewn cyflwr da.
  •  Cymerwch ofal wrth gysylltfannau ffyrdd ar elltydd serth, ac ar dywydd gwlyb.
  • Gwisgwch helmed beic a defnyddiwch ddillad adlewyrchyddion llachar.

 Y Côd Cefn Gwlad 

Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch

Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion.

Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw.

Ewch â'ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt.

Cadwch eich ci dan reolaeth dynn.

Byddwch yn ystyriol o bobl eraill. 

 

330 x 270 Tylluan Wen - Barn Owl

Y Cob

Dros y canrifoedd breuddwydiodd sawl un am ddarparu llwybr diogel dros wastadedd Traeth Mawr, ond William Alexander Maddocks, brodor o Sir Ddinbych a wireddodd y freuddwyd. Cychwynnodd ar waith i adeiladu’r Cob yn 1807, gan ei gwblhau yn 1811 am gost o tua £160,000.

Roedd y cynllun hefyd yn gyfrifol am adennill erwau o dir amaethyddol o’r gwlyptir a’r corsydd, ac ar y tir yma yr adeiladodd Maddocks bentref Tremadog, ac y sefydlwyd y rhan helaeth o dref Porthmadog.

 

330 270 Y Cob

Sefydlwyd Rheilffordd Ffestiniog ar y Cob gwreiddiol yn 1830 i gludo llechi o Flaenau Ffestiniog i’w hallforio o Borthmadog, ac adeiladwyd ffordd newydd ar y morglawdd.

Yn y flwyddyn 2001 daeth cyfle i ehangu a chyfnerthu’r Cob trwy ledu’r briffordd ac adeiladu llwybr i feicwyr a cherddwyr ar yr ochr ddwyreiniol. Nid yn unig y mae’n fan ardderchog i wylio’r amrywiaeth o fywyd gwyllt a geir ar forfa’r Glaslyn, ond mae’r llwybr bellach yn rhan o rwydwaith Lonydd Glas Gwynedd a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Rheolaeth a Chadwraeth

Amcanion Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrth reoli’r Lonydd Glas yw sicrhau eich bod yn mwynhau eu defnyddio, yn ogystal â gwarchod y bywyd gwyllt sydd i’w gael y naill ochr i’r llwybrau. Byddwn yn darparu gwahanol offer megis adnoddau parcio beiciau, byrddau picnic a phaneli gwybodaeth yn y mannau mwyaf poblogaidd ar y teithiau, ond eto yn gwarchod rhag gor-ddatblygu llwybrau yng nghefn gwlad. 

 

330 270 Moch Daear - Badgers

Cewch weld bod y Lonydd Glas yn gartref i nifer fawr o wahanol blanhigion, adar ac anifeiliaid, gyda rhai o’r rhain yn brin neu yn warchodedig fel y mochyn daear cuddiedig. Mae’r llwybrau yn bwysig i’r rhywogaethau hyn gan eu bod yn ymddwyn fel coridorau ble gall y bywyd gwyllt symud yn ddi-sylw o gwmpas cefn gwlad. Ceir yma nifer fawr o wahanol gynefinoedd sydd yn gartref i’r anifeiliaid hyn, megis coedlannau, gwlyptir a glaswelltir, maent i gyd yn cyfrannu at gymeriad unigryw y Lonydd Glas.

Byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth a chydweithrediad gennych tuag at reoli’r Lonydd Glas.

Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2018 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy