Gallwch garlamu ar hyd y traeth neu anelu am y bryniau gyda’r dewis eang o ganolfannau marchogaeth a merlota, sy’n cynnwys Fferm Tŷ Coch ym Mhenmachno a Chanolfan Marchogaeth Pen Llŷn, Llaniestyn. Caiff golffwyr eu difetha yma, gyda’r holl ddewis o gyrsiau pencampwriaeth sydd ar gael, er enghraifft ceir St. David (Harlech), Aberdyfi a Nefyn. Yn ogystal bydd y cyrsiau naw-twll cyfeillgar yn siŵr o gynnig croeso cynnes Cymreig.
Mynd i bysgota? Yna gwnewch yn siŵr bod gennych chi Ganllawiau Pysgota Eryri, sydd yn llawn gwybodaeth ar gêm, pysgota dŵr a môr.
Os yr ydych yn mwynhau beicio oddi ar y ffyrdd yna mi fyddwch wrth eich bodd gyda’r llwybrau dosbarth cyntaf, llawn adrenalin sydd ar gael yng Nghoed y Brenin ac yng Nghoedwig Mhenmachno. Nid oes curo ar y llwybrau ffordd gwyrdd, olygfaol a thawel o gwmpas Dolgellau a’r Llŷn Peninsula, dau o oreuon Cymru am ganolfannau beicio.
Yn gyfleus, ceir pecyn llawn bwrlwm o weithgareddau ar gael. Yn y Ganolfan Genedlaethol Mynydda, Capel Curig, mae modd dringo, abseilio, cyfeiriadu, canŵio a sgïo, ac yna ceir saethyddiaeth, bowlio, beicio cwad, gwibgartio a physgota ym Mharc Glaslyn ar y Llŷn.
Mae daliad geo (geocaching) yn tyfu’n fwyfwy yn Eryri. Am antur fawr ar raffau uchel ewch i Antur ‘Tree Tops’, Betws y Coed, y ‘Rope Works’, Pwllheli neu’r ‘Ropes and Ladders’, Llanberis. Yn y Ganolfan Technoleg Amgen, ger Machynlleth mae modd mynd yn wyrdd a chael hwyl ar yr un pryd. Beth am gerdded ar stilt? Oes, mae modd gwneud hynny hefyd, ym mharc Gelligyffwrdd, ger Caernarfon.