A   A   A
610 233 Talyllyn Tren Train Brynerwest

Trenau Bach Cymru

Mae trenau bach Cymru yn ffordd arbennig iawn o weld peth o olygfeydd gorau Ynysoedd Prydain. Maent oll yn rheilffyrdd stêm culion ac mae rhai ohonynt dros gan mlwydd oed. Yr hyn sy’n gyffredin iddynt oll yw cyfaredd trenau stêm yr hen ddyddiau gyda digonedd o waith paent a phres wedi’u sgleinio.

Wedi’u hadeiladu mewn oes lle nad oedd cymaint o frys â heddiw, diben gwreiddiol y rhan fwyaf ohonynt oedd cario llechi Cymreig o’r chwareli i’r môr. Fodd bynnag, maent i gyd yn unigryw ac yn cynnig profiad unigryw o’r oes a fu. Mae’r hyn sy’n ddeniadol am reilffyrdd culion yn ymwneud â’u maint bychan o gymharu â rhai'r prif reilffyrdd a rhy eu teithiau hamddenol amser i fwynhau rhywfaint o’r golygfeydd gwych.

Rheilffordd yr Wyddfa

Llanberis
Gwynedd
LL55 4TY
08444 938 120

Snowdon Mountain Railway Contemporary Carriage
Ers 1896, mae ymwelwyr o bedwar ban byd wedi teithio ar Reilffordd yr Wyddfa.« Mae’r trenau’n teithio i gopa’r Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr ac  yn 3,560 o droedfeddi (1085m), ble y ceir tirwedd a golygfeydd dramatig o’r cefn gwlad sy’n ei amgylchynu. Y rheilffordd unigryw hon yw un o atyniadau ymwelwyr mwyaf poblogaidd gogledd Cymru.

Ers dros 115 o flynyddoedd, mae pobl sydd ar eu gwyliau, a phobl sy’n ymweld ar dripiau undydd wedi gwerthfawrogi’r golygfeydd trawiadol sydd i’w gweld wrth esgyn i fyny’r Wyddfa.   Wrth i’r trên ddringo drwy dirwedd atmosfferig yr Wyddfa, gall teithwyr forio yn hanes, chwedlau a mytholeg yr Wyddfa. Wedi’i selio ar beirianneg Fictoraidd, Rheilffordd yr Wyddfa yw’r unig reilffordd rac a phinion o’i bath yn  y Deyrnas Unedig sy’n cynnig taith anturus gwirioneddol fawreddog i gopa mynydd.

Rheilffordd Ffestiniog

Gorsaf yr Harbwr
Porthmadog
Gwynedd 
LL49 9NF
01766 516000

700 536 Plentyn Tren Rheilffordd Ffestiniog Railway Train Child
Wedi’i sefydlu gan Ddeddf Seneddol yn 1832, mae Rheilffordd Ffestiniog wir yn Rheilffordd Fach a dyma’r cwmni rheilffordd annibynnol hynaf yn y byd. Ym mis Mai 2007, roeddem yn falch iawn o gael dathlu 175 mlynedd ers gosod y lein.

Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol i wasanaethu diwydiant llechi Blaenau Ffestiniog, ac arferai’r lein redeg ar ddisgyrchiant. Byddai wagenni a’u llond hwy o lechi, yn trystio lawr y llethrau, ac yn cael eu rheoli gan ddynion dewr a fyddai'n rheoli'r brêcs wrth lamu o un wagen i'r llall yn tynhau neu'n llacio'r brêcs wrth i'w cydweithiwr ar y wagen flaen chwythu’i gorn i roi gwybod i eraill eu bod yn mynd heibio. Dechreuwyd defnyddio locomotifau stêm yn ystod y 1860au, a heddiw, mae rhai o'r injans hynny yn cludo cerbydau o bobl ar eu gwyliau drwy olygfeydd godidog Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae creithiau gorffennol diwydiannol Blaenau Ffestiniog sydd ym mhen y dyffryn, i’w gweld o hyd gyda’r tipiau llechi ym mhob man. Mae un o’r chwareli hyn ar agor i’r cyhoedd ac yn ychwanegiad diddorol i’ch siwrne. Gorsaf Harbwr Porthmadog yw pencadlys y rheilffordd ac felly dyma ddechrau a diwedd teithiau'r rhan fwyaf o'r trenau.

Rheilffordd Ucheldir Cymru

d/o Gorsaf yr Harbwr
Porthmadog
Gwynedd
LL49 9NF

700 536 Rheilffordd Eryri Caernarfon Welsh Railway
Rheilffordd Ucheldir Cymru – teithio mewn trên fel ers talwm. Mae mynd am drip ar Reilffordd newydd Ucheldir Cymru yn un o’r ffyrdd mwyaf godidog i weld golygfeydd ysbrydoledig Parc Cenedlaethol Eryri. Yn ddiau, mae eistedd yng nghysur un o’r cerbydau Pullman dosbarth cyntaf yn un o’r profiadau gorau i'w cael yng ngogledd Cymru, felly hefyd yw'r cyffro o fynd yn un o'r cerbydau agored tu ôl i un o locomotifau stêm rheilffordd gul mwyaf pwerus y byd. Y Beyer Garratt NG/G16.

Gan bwyso mwy na 60 tunnell, mae’r locos gwych hyn yn fwy pwerus na’r injans stêm arferol ac mae clywed eu sŵn yn gweithio’i ffordd yn galed i fyny’r rheilffordd fwyaf garw yn y DU yn brofiad i'w gofio i unrhyw un sydd â diddordeb mewn trenau stêm - does dim all guro chwe milltir ddiwyro o raddiant 1 mewn 40. Gan gychwyn o dan furiau castell tref hanesyddol Caernarfon, dringa'r rheilffordd i odre’r Wyddfa cyn gostwng  i lawr i lefel y môr eto yn harbwr Porthmadog. Caewyd y rheilffordd wreiddiol yn 1936, ond mae bellach wedi'i hailadeiladu'n llwyr gan wirfoddolwyr ar gost o £28 miliwn.

Nawr fod y rhan olaf o’r lein 25 milltir rhwng Caernarfon a Rheilffordd fyd-enwog Ffestiniog ym Mhorthmadog wedi’i hagor, efallai y byddwch chi ymysg y rhai cyntaf i brofi’r siwrne unigryw hon.

Talyllyn

Wharf Station
Tywyn
Gwynedd
LL36 9EY
01654 710472
Mae Rheilffordd Talyllyn yn cychwyn o Dywyn ar arfordir canolbarth Cymru, hanner ffordd rhwng Abermaw ac Aberystwyth ar yr A493. Agorwyd y lein yn 1865 – yn rheilffordd gul wedi’i phweru gan locomotifau stêm glo - i gario llechi o’r chwareli yn y bryniau.  Caewyd y chwareli yn 1946 ond parhau wnaeth y trên dyddiol i deithwyr, a nawr lleolir y derfynfa yn Nant Gwernol, gorsaf sydd fwy na saith milltir o Dywyn a ble nad oes mynediad iddi o’r ffordd. Mae gorsaf Abergynolwyn, ar y B4405, hanner milltir o ddiwedd y lein ac mae yno fynediad o’r ffordd ynghyd â maes parcio. Yn 1952, bu i Gymdeithas Cadw Rheilffordd Talyllyn gymryd cyfrifoldeb dros y rheilffordd, y cyntaf o’i bath yn y byd, a gwirfoddolwyr o’r Gymdeithas ynghyd â gweithlu bychan llawn amser sy’n rhedeg y Rheilffordd heddiw. Mae’r ddau locomotif stêm gwreiddiol a’r pedwar cerbyd teithwyr gwreiddiol yn parhau i gael eu defnyddio hyd heddiw, ynghyd â’r rhai eraill a adeiladwyd neu a brynwyd dros y blynyddoedd. 

Yn 2005, agorwyd caffi'r orsaf sydd â lle i 60 eistedd - o'r enw "Porters Platter" yng ngorsaf Tywyn ynghyd â siop anrhegion fwy. Agorwyd Amgueddfa’r Rheilffordd Gul ar yr un pryd. Mae hon yn cynnwys dau lawr o arddangosynau bach a mawr yn darlunio datblygiad rheilffyrdd culion i siwtio gwahanol ddiwydiannau. Mae rhan benodol yno ar gyfer y Parchedig W Awdry, un o’r Giardau gwirfoddol cyntaf ar reilffordd Talyllyn, yn ymdrin â’i gyfres o lyfrau Rheilffordd i blant. Mae grwpiau’n cael mynediad am ddim.  Mae'r prif gyfleusterau wedi’u lleoli o dan yr un to a cheir darpariaeth lawn ar gyfer teithwyr anabl.  Ceir maes parcio mawr yng ngorsaf tywyn a pharcio am ddim i fysiau.

Mae caffi, siop fechan, toiledau a chyfleusterau anabl yng ngorsaf Abergynolwyn. Mae maes chwarae antur y rheilffordd yn atyniad i blant o bob oed. Yn Nolgoch, mae modd cerdded o amgylch y rhaeadrau godidog ac mae yna lwybrau gwledig yn arwain o’r gorsafoedd a’r arosfeydd ar y lein ac sy’n gweddu i bawb.

Rheilffordd Dreftadaeth Ucheldir Cymru

Tremadog Road
Porthmadog
LL49 9DY
01766 513402


700 536 RDUC Porthmadog WHHR
Mae Rheilffordd Dreftadaeth Ucheldir Cymru yn rheilffordd fechan a chroesawgar a dim ond rhan o’r profiad yw mynd ar y trên. Mae’r trên hen ffasiwn hefyd yn stopio yn y siedau, ble y cewch ddilyn taith dywys.  

Mae'r trenau’n cael eu tynnu gan locomotifau stêm neu injans disel treftadaeth.  Dewch i un o’n cerbydau hen ffasiwn, mae rhai ohonynt yn hŷn na chan mlwydd oed.  Ceisiwch deithio yn y cerbyd a arferai gario bomiau, neu weld ble'r eisteddodd y Prif Weinidog pan fu'n ymweld â'r rheilffordd yn 1892!

Wrth i’r trên gyrraedd diwedd y lein arddangos sy’n filltir o hyd, yng nghyffordd Pen-y-Mount gallwch wylio’r giard yn newid y pwyntiau a’r signalau er mwyn i’r locomotif droi am yn ôl ac i chwithau fwynhau awyrgylch gorsaf wledig Rheilffordd Ucheldir Cymru sy’n nodweddiadol o’r 1920au. Mae'ch tocyn yn ddilys trwy’r dydd, felly pam nad ewch chi i gerdded ar y Traeth a dod yn ôl i’r orsaf i ddal trên diweddarach?

Llyn y Bala

Yr Orsaf
Llanuwchllyn
Gwynedd
LL23 7DD
01678 540666

196 Rheilffordd Llyn Tegid-Bala Lake Railway
Mae Rheilffordd Llyn y Bala yn defnyddio trac hen lein Rhiwabon – Abermaw Rheilffordd y Great Western rhwng pentref tawel Llanuwchllyn a Halt Pen-y-Bont ar  yr ochr draw i Lyn Tegid (Llyn y Bala) a thref farchnad y Bala.   Fe’i hagorwyd yn rheilffordd gul yn 1972, ni yw un o’r rheilffyrdd ieuengaf, er bod y locomotifau stêm yr ydym yn eu defnyddio’n hŷn na chan mlwydd oed.

Mae’r rheilffordd, sy’n eithaf ifanc o gymharu â rheilffyrdd culion eraill, yn defnyddio’r adeiladau gorsaf a’r bocs signal gwreiddiol a oedd yna ar gyfer y rheilffordd safonol. Mae llu o newidiadau wedi bod, eto i gyd erys cymeriad yr adeilad yr un fath. Golyga maint llai'r rheilffordd a’r hen adeiladau a’r locomotifau fod gan y rheilffordd gymeriad yr hen reilffordd gul hen ffasiwn, ac mae’n parhau yn le ble mae gan staff a gwirfoddolwyr ddigon o amser i siarad gyda’u teithwyr yn unigol.

Mae ein locomotifau stêm i gyd yn injans a arferai weithio i'r chwareli, dônt i gyd, namyn un, o'r chwarel llechi yn Llanberis. Adeiladwyd pedwar o’r locos gan Hunslet Engine Company ac maent i gyd yn hŷn na chan mlwydd oed. Mae’r llall yn locomotif a adeiladwyd gan Peckett yn 1911 ac a ddefnyddiwyd gan Rugby Portland Cement yn Southam.

Rheilffordd Llyn Llanberis

Llanberis
Gwynedd
LL55 4TY
01286 870549


700 536 Tren Bach Llanberis - Lake Railway Llanberis
Wedi’i lleoli yng nghanol Eryri, ac mewn terfynfa wrth droed yr Wyddfa, mae Rheilffordd Llyn Llanberis yn cynnig taith trên stêm hynod o hamddenol ar hyd lan Llyn Padarn.

Gan gychwyn o Lanberis, cewch daith yn y trenau bach heibio Castell Dolbadarn sy’n dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg a lle ganwyd Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru, ar hyd yr estyniad newydd gan groesi Afon y Bala, a hon yw o bosib yr afon fyrraf ym Mhrydain, cyn cyrraedd Parc Gwledig Padarn ar hyd llwybr gwreiddiol y rheilffordd ochr yn ochr â llyn Padarn, y mwyaf o'r ddau lyn yn Llanberis. Mae’r siwrne’n mynd â chi'r holl ffordd i Benllyn heb stopio ac ar y ffordd ceir golygfeydd gwych o’r Wyddfa a’r copaon uchel eraill. 

Ar y daith yn ôl mae’r trên yn stopio am ychydig yng Nghei Llydan, hanner ffordd ar hyd ochr y llyn. Caiff y teithwyr ddod oddi ar y trên yma a defnyddio’r ardal bicnic wrth y llyn, neu ymweld â’r parc chwarae i blant (sy’n cael ei weithredu’n annibynnol) gerllaw.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2018 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy