A   A   A
Mae cwrs Aberdyfi a chwrs hanesyddol Royal St David’s yn Harlech, lle cynhaliwyd cystadleuaeth Cwpan Ryder Hŷn Cymru, yn hynod boblogaidd ac yn addas i’r pencampwyr mwyaf dethol. Yn wir, daw’r golffwyr yn ôl yno dro ar ôl tro. Ceir hefyd cwrs pencampwriaethol ardderchog yng Nghonwy wedi ei leoli rhwng y môr, y mynyddoedd a’r afon, ac mae Porthmadog yn cynnig amrywiaeth diddorol o rosydd a lincs.
700 267 (610x233) Clwb Golff Aberdyfi Golf Club
Mae cyrsiau Pwllheli ac Abersoch ym Mhen Llŷn, cyrsiau parcdir Caernarfon, Criccieth a Sant Deiniol, Bangor a’r nifer o gyrsiau mewndirol i gyd wedi eu gosod mewn golygfeydd godidog a gyda’i gilydd maent yn cynnig dewis eang a mwynhad i golffwyr o bob lefel gallu. Mae nifer o’r llety yn y rhanbarth yn cynnig pecynnau gwyliau golff - am fwy o fanylion cysylltwch gyda’r Canolfannau Croeso neu edrychwch ar y rhifyn diweddaraf o Gyfeirlyfr Golff Eryri Mynyddoedd a Môr.

Cynigion Golff

Os ydych yn chwilio i chwarae golff yn Eryri, yna mae ganom y gwyliau golff delfrydol i chi. Gyda dewis eang o wyliau golff yn Eryri yn cynnwys gwyliau penwythnos golff, gwyliau golff dros y Sul a thaith golff, mae ganom rywbeth at ddant pawb.

Nid yw gwyliau golff erioed wedi bod mor boblogaidd yn Eryri Mynyddoedd a Môr ac yr ydynt nawr, gyda mynediad i gyrsiau golff pencampwriaeth fel cwrs Brenhinol Dewi Sant, Harlech, Aberdyfi, Nefyn, Porthmadog a Phwllheli. Gweler isod fwy o fanylion gyda gwybodaeth bellach ar gael gan wefannau’r clybiau golff.

Royal St Davids Golf Club

Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech

Aros a Chwarae – dau dro ar y cwrs golff ac aros un noson, yn cynnwys brecwast – Sul i Ddydd Iau £99; Gwener / Sadwrn £109.

Pecyn Cymdeithas i leiafrif o 8 chwaraewr yn cychwyn o £49 y person yn cynnwys gêm o golff, coffi a brechdanau bacwn wrth gyrraedd a phryd bwyd yn y bar. Clwb Golff Harlech Golf Club

Pwllheli Golf Club

Clwb Golff Pwllheli

Dewch i chwarae'r cwrs a gafodd ei gynllunio gan James Braid a Tom Morris. Mwynhewch y cymysgedd unigryw o dwyni a pharcdir, blaswch y golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion.

Dyfynnwch Eryri Mynyddoedd a Môr er mwyn derbyn 20% i ffwrdd oddi ar ffioedd chwarae -Clwb Golff Pwllheli Golf Club

Mae’r disgownt ar gael drwy’r flwyddyn, (darostyngedig i argaeledd ac archebu o flaen llaw).

Caernarfon Golf Club

Clwb Golff Caernarfon

Dewch i chwarae ar un o’r cyrsiau fwyaf golygfaol, gyda golygfeydd dros Eryri a’r afon Menai. Mae’r cwrs sefydledig hwn yn addas ar gyfer pob golffiwr a cheir croeso cynnes a bwyd da.  

Cynnig Arbennig ar gyfer Mis Mai: £80 4 pel am bris 3, gweler tudalen 'Book a Tee' am fanylion. Clwb Golff Caernarfon Golf Club. Amodau a Thelerau. Ond ar gael Dydd Llun - Dydd Gwener, 12pm - 2pm.

Abersoch Golf Club

Clwb Golff Abersoch

Mae Abersoch yn gem cudd sydd yn gorwedd tu ôl i’r twyni tywod. Mae gan y cwrs 18 twll hwn gymysgedd o barcdiroedd a thwyni a nifer o bwyntiau heriol a golygfeydd gwych dros Bae Ceredigion a chadwyn o fynyddoedd Eryri.

Cynnig - £27 y rownd. I logi ffoniwch Alan Jones ar 01758 712622. Clwb Golff Abersoch Golf Club

Porthmadog Golf Club

Clwb Golff Porthmadog

Mae clwb golff Porthmadog wedi ei leoli oddeutu milltir i ffwrdd oddi wrth bentref Eidaleg enwog Clough Williams Ellis - a gall cymysgedd diddorol Porthmadog o rostiroedd a thwyni fod yr un mor swynol.

Cynnig - 4 Pel am £100, Llun-Gwener ac eithro Gwyl y Banc ac amseroedd ar gael yn unig. I logi ffoniwch Gwilym Jones ar 01766 514124. Clwb Golff Porthmadog Golf Club

Clwb Golff Nefyn

Fel y gwelwyd ar ddangosiad teledu SKY o’r Gwpan Ryder 2010!

Un o leoliadau golffio fwyaf godidog yng Nghymru, gyda’i ‘Bwynt’ enwog fyd-eang. Ceir rhai tyllau heriol ond ceir ei wobrwyo gyda golffio ar ochor clogwyn, wedi ei gwmpasu gan y môr a golygfeydd Eryri fel cefndir.

Ceir pecynnau Chwarae ac Aros fforddiadwy ar gyfer grwpiau o 6 a mwy.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu, cysylltwch ar 01758 720966 ac yna 5, neu e-bostiwch secretary@nefyn-golf-club.co.uk Gallwch hefyd archebu ar lein yn Clwb Golff Nefyn Golf Club

Fairbourne Golf Club

Clwb Golff Fairbourne

Prosiect cymunedol yw cwrs golff Fairbourne ac mae’n agored i’r cyhoedd - digon heriol i’r golffwyr profiadol heb ddigalonni’r dibrofiad. Mae modd llogi clybiau a pheli.

Ffioedd
Oedolion; 9 Twll - £7; 18 Twll - £10
Dan 17; 9 Twll - £3; 18 Twll - £5

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01341 250979 / 250378 neu ewch i Clwb Golff Fairbourne Golf Club.

Clwb Golff Bala

Mae ein cwrs 10 twll wedi ei osod ar lwyfandir o bron i 1000 o droedfeddi uwchben lefel y môr. Fel canlyniad, bydd pob chwaraewr yn frwdfrydig am y golygfeydd a geir o wahanol ardaloedd o’r cwrs, golygfeydd o gefn gwlad yn cofleidio cadwyn yr Arenig i’r Gogledd, i’r De Orllewin gyda chadwyn yr Arenig a’r Berwyn yn rhedeg tuag at y Dwyrain. Edrychwch i lawr o’r cwrs ac fe welwch Llyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yn y dywysogaeth. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r gornel hyfryd yma o’r Parc Cenedlaethol Eryri, yng Ngogledd Cymru, am olygfeydd gwych, atmosffer gwych ac wrth gwrs golff gwych! Clwb Golff Bala Golf Club

196 150 Clwb Golff Criccieth

Clwb Golff Criccieth

Yn swatio rhwng Mynyddoedd Eryri ac arfordir Bae Ceredigion, mae’r cwrs naw twll yma yn cynnig golygfeydd heb eu hail. Mwynhewch awyrgylch hamddenol a chyfeillgar y clwb a chwblhewch y cwrs wrth eich pwysau. Yn amrywiol a heriol o ran natur, mae’r cwrs yn un anturus sy’n siŵr o sicrhau digonedd o sialensiau i golffwyr o bob safon. Diweddwch eich ymweliad gyda llymaid wrth edmygu’r olygfa hyfryd o Gastell Criccieth a’r môr, neu beth am fwynhau pryd o fwyd yn y clwb trwyddedig lle rydych yn sicr o gael croeso cynnes.

Ffioedd: 9 twll @ £15/18 twll @ £20
Pecynnau chwarae ac aros am brisiau rhesymol i grwpiau o 6 neu fwy. Am fwy o wybodaeth neu i archebu, cysylltwch â 01766 522154, info@cricciethgolf.co.uk neu ewch i Clwb Golff Criccieth Golf Club

Clwb Golff Dolgellau

Wedi ei leoli yng nghanol cefndir o fynyddoedd ysblennydd, mae Clwb Golff Dolgellau yn cael ei ystyried yn un o gyrsiau prydferthaf Cymru. Peidiwch cael eich twyllo gan ei faint oherwydd mae’r cwrs 9 twll yma, sydd a thîau eiledol ar gyfer yr ail naw yn cynnig wir brawf ar gyfer olffwyr o bob safon. Bydd ymgyrch i bytio syth yn cael ei wobrwyo ar grin gysgodol, ac gan fod y tir yn draenio’n rhydd  bydd safon y chwarae yn eithriadol drwy gydol y flwyddyn. Taliadau chwarae yn cychwyn o £10.

Cynnig - Dyfynnwch Eryri Mynyddoedd a Môr er mwyn derbyn 20% i ffwrdd oddi ar ffioedd chwarae. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â 01341 422 603 neu ewch i  Clwb Golff Dolgellau Golf Club.

Cynigion Golff yn Eryri Mynyddoedd a Môr

Chwaraewch cyrsiau Golf Arfordir Eryri - Arbedwch 10% ar y ffioedd drwy chwarae 3 allan o 5 cwrs mewn un ymweliad.

angen cymorth?

Ffoniwch ein llinell llogi
+44 (0)845 450 5885.

Llun – Gwener, 9am-6pm (peiriant ffon 24 awr).

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2010 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS