A   A   A

700 267 Gardd Parc Glynllifon Garden

Ardal a Phoblogaeth

2,548 km2 & 116,844

Arian

Punt Sterling – Dolen Cyfradd Cyfnewid – Cyfnewid Arian - Currency Exchange

System Gwleidyddol

Seneddol Democratiaeth

Tymheredd Uchaf Cyfartalog

Ionawr : 6.5c (43.7F)

Mai : 11.0c (51.8F)

Awst : 18.8c (65.8F)

 Hydref : 12.8c (55.0F)

Bydd tymheredd yn gostwng yn ddramatig ar y mynyddoedd.

Oriau Goleuni Dydd

Ionawr : 8 awr

Mai : 15 awr

Awst : 16 awr

Hydref : 11 awr

Trwydded Teithio a Theitheb

Bydd Rheolaeth Llywodraethol y DU yn sefyll yn ardal Eryri Mynyddoedd a Môr.
 

Anifeiliaid ac Anifeiliaid Anwes.

Rhyngwladol : Mae posib i ymwelwyr a’i anifeiliaid anwes, o wledydd megis yr EU ac EFTA, ymweld ag Eryri Mynyddoedd a Môr. Cynghorir ymwelwyr i gynllunio ym mlaen llaw gan fod angen sicrhau caniatâd gan nifer o ffynonellau amrywiol. Cysylltwch gyda’r adran amgylchedd ac adran wledig DEFRA.

Ymwelwyr y Du : Mae modd ymweld gydag Eryri Mynyddoedd a Môr gydag eich anifeiliaid anwes. Cysylltwch gydag eich darparwyr llety er mwyn sicrhau fod croeso i anifeiliaid. Ceir cyfyngiadau ar rai traethau (cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r traethau) ac mae’n bwysig cadw eich anifeiliaid o dan reolaeth drwy’r adeg pan yn yr ardal.

Ceir gwybodaeth am les anifeiliaid wrth deithio ei ddarganfod yn DEFRA.

Bancio a Siopa

Oriau Bancio

Llun – Gwener 9.00 am – 5.00 pm
Sadwrn – 10.00 am – 12.00 pm

Mae pob banc ar gau ar brynhawn Sadwrn, dydd Sul ac ar wyliau cyhoeddus. Am wybodaeth cyfnewid arian dramor ewch i’r wefan Cyfnewid Arian - Currency Exchange

Cardiau Credid

Bydd y prif gardiau credid yn cael eu derbyn yn eang. Gallwch dynnu arian allan gydag eich Visa, MasterCard, Maestro neu Cirrus ym mhob banc a ATM.

Oriau Siopa

Llun – Gwener 9.00 am – 5.00 pm
Sadwrn - 9.00 am – 5.00 pm

Yn y trefi mwy e.e. Caernarfon / Bangor bydd siopau yn agored hyd at 7.00 pm neu hwyrach. Bydd rhai hefyd yn agored ar ddydd Sul oddeutu’r oriau 10.00 am - 4.00 pm. Mae siopau fel arfer yn cau yn gynt cyn gwyliau cyhoeddus.

Gall cynnyrch lleol ac anrhegion eu prynu drwy’r ardal. Mae gwerth edrych allan am gynnyrch llechi lleol, llwyau garu a bwyd o darddiad lleol megis mêl, cig oen, cwrw a chaws.

Ymwelwyr Anabl

Mae nifer o’r darparwyr llety wedi paratoi ystafelloedd sydd wedi eu haddasu ar gyfer anghenion unigolion anabl, unigolion gyda nam golwg ac unigolion gyda nam clywed. Bydd gan rhai darparwyr gweithgareddau ac atyniadau gynorthwyydd technegol er mwyn sicrhau fod unigolion sydd â phroblemau symudol yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau megis nofio neu farchogaeth.
Ewch i’r cyfeirlyfr llety sydd gennym (cliciwch yma) er mwyn darganfod mwy o wybodaeth ynglŷn â llety. Mae’n ofynnol i bob busnes gael Datganiad Mynediad, sydd yn darparu manylion ar gyfleusterau arbennig sydd ar gael.

Ceir gwybodaeth am allweddau toiledau cyhoeddus RADAR yn www.radar.org.uk

Trafnidiaeth : Bydd trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn eang i deithwyr anabl. Mae gan fysus a rheilffyrdd fynediad a seddau penodol ar gyfer teithwyr mewn cadair olwyn. Mae bob gorsaf, trên a bws yn ardal ddi-fwg.

Alergedd: Bydd y rhan fwyaf o dai bwytai / darparwyr llety yn paratoi ar gyfer unigolion â alergedd. 

Dŵr Yfed

Mae dŵr tap yn Eryri Mynyddoedd a Môr mor dda ac sydd bosib! Syth oddi wrth y Môr Atlantig - caiff dŵr glaw eu gasglu o nifer o lynnoedd mynyddig ac yna mi fydd ar gael yn syth o’r tap. Pan dewch i’r ardal, dewch a photel, llenwch y botel a mwynhewch!

Bwyta Allan

Mae Eryri yn ennill enw da rhyngwladol pan ddaw i safonau uchel ac arbenigedd coginiol. Caiff pwyslais ei rhoi ar safon uchel gynnyrch cynhwysion naturiol - yn enwedig ffrwythau a llysiau lleol, bwyd môr sydd wedi ei ddal yn lleol (yn enwedig cranc, bas, cimwch, penfras), cig eidion Cymreig sydd wedi eu magu ar y mynyddoedd a chig oen melys a hallt ffin.

Ceir hefyd, ddewis eang o fwytai ethnig a steil newydd diddorol ble caiff bwydydd traddodiadol Cymreig eu hail greu gyda dylanwadau tramor.

Yn ogystal fe ddewch ar draws y mannau arferol bwyd-sydyn, tai bwyta pitsa, a’r mannau traddodiadol pysgod a sglodion. Mae digonedd o gaffeterias a thai bwyta llai ar gael ar gyfer prydau llai.

Bydd pryd o fwyd gyda gwin gwyn, mewn man bwyta canolig ei bris, yn costio oddeutu £12 - £15 y person.

Caiff y prif gardiau credid eu derbyn yn y rhan fwyaf o dai bwyta a mannau bwyta allan.

Cyfyngiad Ysmygu : Caiff ysmygu ei wahardd gan gyfraith mewn mannau dan do cyhoeddus ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ni chaiff ysmygu ei ganiatáu y chwaith mewn siopau, bwytai, tai tafarndai ac adeiladau cyhoeddus.

Cildwrn : Bydd rhai sefydliadau yn cynnwys cost gwasanaeth ond ar y cyfan penderfyniad personol yw rhoi cildwrn, ac fel arfer fe’i rhoi’r am wasanaeth da. Mae cildwrn o 10% o’r pris yn dderbyniol tu hwnt.

Cyflenwad Electrig

240 folt AC 50 cylchred yw cyflenwad electrig y DU. Bydd y soced electrig safonol yn 13-amp, pinnau fflat. Dylai pob teithiwr rhyngwladol sicrhau bod ganddynt addasydd electrig gyda hwy.

Gyrru

Gyrwyr rhyngwladol - Bydd rheolaeth y DU yn sefyll yn ardal Eryri Mynyddoedd a Môr ac felly gyrru ar yr ochor chwith. Mae gan geir Prydeinig yr olwyn yrru ar ochor dde o’r car. Y cyflymder uchaf yw 70mya (112km/a) - ar draffordd a ffyrdd deuol. 60mya (96km/a) yw’r cyfymder uchaf ar ffyrdd sengl a 30mya (48km/a) mewn mannau adeiledig. Mae’r cyflymderau hyn yn sefyll oni bai fod arwyddion yn dweud yn wahanol.

Caiff deddfau llym yfed a gyrru eu gosod - mae’n fwy diogel peidio yfed a gyrru.

Rhaid yw gwisgo gwregys diogelwch ar hyd yr adeg. Ni chaniateir defnyddio ffôn symudol wrth yrru.

Cyflymder Gyrru – Caiff arwyddion eu dangos yn y ffordd milltir yr awr yn hytrach na kilometrau yr awr.

Mpa 20 30 40 50 60 70
km/a 32 48 64 80 96 112

Ffôn, Post a Gwasanaeth Rhyngrwyd

Bydd blychau ffôn cyhoeddus yn derbyn darnau arian, cardiau ffôn a chardiau credid.

Caiff cod ardal ei rhoi i rifau ffôn yn ardal Eryri Mynyddoedd a Môr ac yn weddill y DU, e.e. (01286) 123 123. Nid oes rhaid deialu'r cod ardal os yr ydych yn ffonio oddi fewn i’r un ardal.

Caiff cod gwledydd ar draws y byd ei ddarganfod ym mlaen y cyfeirlyfr ffôn. Isod gwelir rhai o’r cod gwledydd defnyddiol ar gyfer Ewrop:

00-43 Awstria
00-32 Gwlad Belg
00-42 Gweriniaeth Siec
00-45 Denmarc
00-358 Ffindir
00-33 Ffrainc
00-49 Yr Almaen
00-30 Groeg
00-353 Iwerddon
00-39 Yr Eidal
00-31 Yr Iseldiroedd
00-47 Norwy
00-40 Romania
00-42 Gweriniaeth Slofac
00-34 Sbaen
00-46 Sweden
00-41 Y Swistir

Mae rhwydwaith ffôn symudol yn cynnwys Vodafone, Orange, O2 a T-Mobile. Bydd gwasanaeth yn amrywiol a gall fod yn gyfyngedig iawn yn enwedig yn y dyffrynnoedd mynyddig, neilltuedig.

Gwasanaeth Post - bydd y swyddfa bost ar agor o 9.00 am - 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 9.00 am - 12.00 pm ar ddydd Sadwrn.

Mae gan y rhan fwyaf o’r trefi a’r pentrefi mwyaf swyddfa bost neu is-swyddfa bost eu hunain, fel arfer yn rhan o siop groser.

Bydd stampiau ar gael mewn swyddfeydd post ac mewn siopau papur.

Bydd mynediad i’r rhyngrwyd ar gael yn eang drwy’r ardal. Ceir y rhyngrwyd mewn caffi rhyngrwyd, llyfrgelloedd cyhoeddus (am ddim) ac mewn mannau llety.

Iechyd ac Argyfwng

Deialwch 999 mewn argyfwng a gofynnwch am y gwasanaeth priodol - Ambiwlans, Frigâd Dân, Heddlu, Bad Achub neu Achub o’r Mynyddoedd.

Ysbyty Gwynedd yn Fangor yw’r prif ysbyty â adran ddamweiniau yn yr ardal. Rhif ffôn Ysbyty Gwynedd yw 01248 384 384.

Am fwy o wybodaeth am eich cymhwyster i dderbyn gofal meddygol ewch i ymweld gyda safle’r NHS.

Bydd fferyllfeydd yn agored yn ystod oriau agored arferol siopau. Efallai y bydd rhaid i chi dalu yn llawn am eich cyffuriau presgripsiwn. Os byddwch ar feddyginiaethau, gwnewch yn siŵr bod ganddo’ch cyflenwad digonol yn ystod eich amser yma.

Caiff meddygfa ddeintyddol a chlinigau yn yr ardal. Yn ogystal, mae gwasanaeth brys ar gael.

Am gymorth meddygol y tu allan i oriau mae Meddygon Menai, sydd ar gael 24 awr y dydd, 0844 815 1166.

Golchdy

Bydd gan y rhan fwyaf o ddarparwyr llety wasanaeth golchdy.
Mae gan nifer o wersyllfa campio, llety hunanarlwyo a hostel ieuenctid beiriannau golchi a sychu eu hunain ar gyfer eu gwesteion.

Fe ddewch ar draws nifer o olchdai mewn llawer i brif dref. 

Beth i’w wisgo

Yn ystod misoedd yr haf bydd y tywydd fel arfer yn fwyn a dymunol. Paciwch ddillad haf cyffyrddus, ychydig o siwmperi canolig a chot law ysgafn. Gall y tywydd newid yn ddramatig o un rhan o’r ardal i ran arall, megis ar y mynyddoedd. Nid yw’n anghyffredin gweld y pedwar tymor mewn un diwrnod!

Mae dillad tywydd oer yn angenrheidiol yn yr hydref, gaeaf a gwanwyn.

Cynghorir i wisgo esgidiau cyffyrddus, sawdl isel wrth ymweld ayyb. Os cerdded ar y tir uwch gwnewch yn siŵr fod yr esgidiau a dillad priodol ganddo’ch.

Er mwyn bwyta allan gyda’r nos fydd rhan fwyaf yn gwisgo yn gyffyrddus / taclus.

Share
Ebostiwch ffrind
A A A

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2009 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd 
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS