Fairbourne
Caiff traeth hardd, euraidd Fairbourne ei gefnu gan fanc serth llawn cerrig man. Maent yn amlinellu darn cul o dir sydd yn ymestyn yr holl ffordd tuag at aber Mawddach, ble ceir golygfeydd ardderchog o’r mynyddoedd, y coedwigoedd a’r môr. Mae modd i’r ochor ddwyreiniol o’r traeth dderbyn gwyntoedd cryfion, sydd yn ei wneud yn fan gwych ar gyfer chwaraeon dŵr, yn enwedig hwylfyrddio, syrffio a hwylio. Yn ddiddorol, ceir olion o’r Ail Rhyfel Byd yma - ‘Dannedd y Ddraig’, sef trapiau i atal tanciau rhag glanio. Yma fe ddewch o hyd i’r rheilffordd leiaf yng Nghymru, mae’r Rheilffordd Fairbourne yn rhedeg i ben draw'r traeth, ac yn cysylltu pobl gyda fferi fechan sydd yn teithio i Abermaw, sydd ar yr ochor arall i’r aber.
| Cyfleusterau a Gwasanaethau Syrffio Llithrfa Parcio Toiledau Dŵr yfed Ffôn argyfwng Cyraeddadwy â chadair olwyn Siop Cludiant cyhoeddus Gwaharddiadau ar gŵn Cymorth Cyntaf (*tymhorol) Banner Glas | |  |