A   A   A
610 233 Dolgellau

Cyfleus

Mae Dolgellau yn un o’r safleoedd fwyaf cyfleus ar gyfer teithio ar hyd holl rannau Mynyddoedd ac Arfordiroedd Eryri - ond peidiwch a cholli allan ar yr ardaloedd lleol hyfryd, megis Aber Mawddach a Llwybr Clogwyn.


Ffaith Ddiddorol

Yn Nolgellau ceir un o Glybiau Criced hynaf Cymru, sydd yn deillio yn ôl i 1869.  Neu yn fwy diweddar mae Dolgellau wedi dod yn gartref i Tŷ Siamas, canolfan arloesol a chenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth werin Gymreig.

Gŵyl Cefn Gwlad

Gŵyl flynyddol a geir yn Nolgellau yw Gŵyl Cefn Gwlad. Ble mae’r elw yn cael ei gyfrannu tuag at achosion da.

Gwyliau Beicio

Ceir, hefyd, fannau beicio a marchogaeth lleol - mae Dolgellau wedi ei ddewis i fod yn ganolfan ‘Gwyliau beicio’ ble darganfyddir dewis eang o lwybrau gwych, ac i eraill sydd yn mwynhau beicio oddi ar y prif ffyrdd ceir llwybrau beicio mynydd yng nghoedwig Coed-y-Brenin sydd ger llaw.  Mae’r ganolfan yno yn cynnig rhywbeth i bawb, megis parc chwarae antur, taith gerdded deuluol, tri llwybr cerdded newydd a chaffi. 


196 150 Beicio Dolgellau Biking

Naws am Le - Dolgellau

Roedd yr ardal lle mae Dolgellau heddiw yn rhan o diroedd llwyth Celtaidd yr Ordoficiaid, a orchfygwyd gan y Rhufeiniaid yn OC77-78. Mae'n annhebygol bod caer Rufeinig ar safle'r dref fodern gan y byddai'r tir yno'n gorslyd yn y cyfnod hwnnw ond darganfuwyd nifer o ddarnau arian Rhufeinig, o gyfnodau'r Ymherodwyr Hadrian a Trajan, yn y cylch. Mae tair bryngaer yn ardal Dolgellau ond nid yw'n sicr pwy a'u sefydlodd.

Ar ôl i luoedd Rhufain adael Prydain, bu ardal Dolgellau o dan reolaeth nifer o benaethiaid Cymreig, y naill ar ôl y llall. Mae'n debyg bod stori tref Dolgellau'n dechrau tua diwedd yr 11eg ganrif neu ddechrau'r 12fed pryd y sefydlwyd maerdref yno, gan Gadwgan ap Bleddyn efallai. Tref o daeogion oedd maerdref ac mae'n debyg mai dyna a fu Dolgellau am amser maith gan mai dyna y gelwir hi mewn croniclau o gyfnod Harri Tudur (1485-1509).

Er mai Abaty Cymer, yn Llanelltyd gerllaw, a sefydlwyd ym 1198 oedd canolfan grefyddol bwysicaf yr ardal, codwyd eglwys ar gyfer trigolion y faerdref yn y 12fed ganrif.  Cafodd yr adeilad hwnnw ei ddymchwel a chodwyd yr eglwys bresennol ym 1716. Erbyn canol y 12fed ganrif, mae'n debyg bod Dolgellau yn dechrau dod yn dref bwysig ac mae cyfeiriad ati yn yr Arolwg o Feirionnydd a orchmynnwyd gan Edward I. Yna, yn 1404, yn ystod gwrthryfel cenedlaethol Owain Glyndwr, cynhaliwyd senedd yno o dan arweiniad Glyndwr ei hunan.

I ddarllen mwy cewch lawrlwytho: Naws am Le - Dolgellau

Naws am Le - Pobl Dolgellau

Rowland Ellis a Chrynwyr Dolgellau
Ym 1657, daeth y pregethwr enwog George Fox gyda John ap John i Ddolgellau ar eu taith trwy Gymru. Cafodd eu pregethu ddylanwad mawr ar nifer o deuluoedd yr ardal a gadawyd cymuned frwd o Grynwyr yn y dref.
Credai'r Crynwyr bod cysylltiad uniongyrchol rhwng pob unigolyn a Duw ac roeddent yn mynegi hynny fel ‘goleuni mewnol’. Nid oeddent yn credu mewn defodau nac ym mhwysigrwydd adeiladau fel eglwysi. Ni welent fod angen tynnu'ch cap i bobl 'bwysig' – roeddent yn rhoi pwyslais mawr ar gydraddoldeb a hyd yn oed mewn rhyw fath o ffeministiaeth sylfaenol.

Am fwy o wybodaeth am bobl Dolgellau gewch lawrlwytho: Pobl - Dolgellau

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2010 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS