Dewch i ddarganfod cyfoeth Gwynedd o fywyd gwyllt, diwylliant, treftadaeth a chynnyrch lleol. Drwy gydol yr haf, bydd rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau, a lansiad gwefan newydd sbon Darganfod Gwynedd, yn dathlu harddwch ac amrywiaeth Gwynedd.
Cyfle i ddarganfod Lili’r Wyddfa a Led Zeppelin; Tywysogion a Llamhidyddion; Pysgotwyr a Ffermwyr; Ffeithiau Rhyfeddol a Ffuglen Ffansïol; ac yn goron ar y cyfan, Llechi, Copr ac Aur o Gymru. Am wybodaeth dymhorol i’ch helpu i ddarganfod ac ailddarganfod mannau arbennig Gwynedd, y wefan yw’r lle i chi. Cewch ganfod trysorau cudd a chael gwybodaeth am ddigwyddiadau, gweithgareddau, gweithdai, teithiau natur a llwybrau beicio. Bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau mewn 3 lleoliad “Theatr Wyllt”, gan dynnu sylw at Fynyddoedd, Afonydd, Coedydd, Arfordir a Moroedd Gwynedd ar eu gorau.
Cewch Ddarganfod Gwynedd ar eich cyfrifiadur chi eich hun yn neu yn un o’r deuddeg safle gwybodaeth gyda chyswllt di-wifr a geir ar hyd a lled Gwynedd, er mwyn eich helpu i gael y gorau o’r rhan gwbl ryfeddol yma o’r byd.
Llyfryn Gweithgareddau ac Atyniadau (PDF, 684KB)
Darganfod Gwynedd - Discover Gwynedd
Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol
Bangor, Caernarfon a Llanberis Bae Ceredigion Dyffryn Conwy...
Bangor Bethesda Caernarfon...
Aberdyfi Abermaw Harlech...
Blaenau Ffestiniog Criccieth Porthmadog...
Aberdaron Abersoch Nefyn...
Bala Corris Dolgellau...
Gweithgareddau Siopa Teithlen...
Iaith Gymraeg Hanes Teulu Hanes...
Sherpa - Amserlen Bws i Lwybrau Yr Wyddfa...
Canolfan Groeso Caernarfon Canolfan Groeso Porthmadog Canolfan Groeso Abermaw...