A   A   A
Llwybr Cwm Idwal Path

Mae Cwm Idwal yn ddyffryn hardd wedi ei amgylchynu gan rhai o gopaon uchaf Eryri. Cafodd ei greu gan olion rhewlif o Oes yr Iâ. Llifa ddŵr croyw o raeadrau’r mynyddoedd i Lyn Idwal yng ngwaelod y cwm.

Wedi ei gydnabod yn swyddogol yn 1954 gan y Warchodaeth Natur, Cwm Idwal oedd Gwarchodfa Natur Genedlaethol cyntaf Cymru ac mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Wedi ei hamgylchynu gan greigiau anferth uchel, sgrïau, marianau a chreigiau wedi'i chwalu gan y gwynt, mae'n un o'r llefydd gorau i weld sut mae prosesau rhewlifiant ac ôl-rewlifol wedi creu'r tirlun. Mae'r cwm yn ffurfio amffitheatr gwych y tu ôl i lyn rhewlifol Llyn Idwal, lle mae dŵr croyw yn llifo o raeadrau mynydd.

Mae prydferthwch yr ardal yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn ôl arolwg gan y Radio Times yn 2005, Cwm Idwal oedd seithfed hoff ryfeddod naturiol Prydain.  Yn wir, ei nodweddion daearegol diddorol a ddenodd y naturiaethwr enwog Charles Darwin i'r ardal.

Mae clogwyni serth Clogwyn y Geifr a hollt Twll Du yn ffurfio cefnlen ddramatig i’r llyn ac maent yn boblogaidd iawn gyda dringwyr yn enwedig yn y gaeaf.

Yn ogystal â denu twristiaid, cerddwyr, dringwyr a daearegwyr, mae'r dyffryn yn gyrchfan i fotanegwyr. Yn unigryw, Cwm Idwal yw'r lle mwyaf deheuol ym Mhrydain i frolio amrywiaeth o blanhigion prin arctig-alpaidd. Mae'r rhain yn cynnwys Gludlys Mwsoglyd ac ystod o Dormaen, megis Tormaen Siobynnog a Thormaen yr Eira. Yn fwyaf nodedig, mae'n gartref Lili'r Wyddfa, rhywogaeth warchodedig brin a gellir ond eu gweld ym Mhrydain ar yr Wyddfa a'r amgylchedd o'i chwmpas.

Mae'r llyn ei hun, gyda gwelyau o gyrs a marchrawn, yn gartref i blu'r gweunydd, mwsoglau a'r gwlithlys bach sy'n dal pryfed yn eu dail. Ymhellach i fyny ar y sgrïau mae rhedyn persli yn tyfu, ac ar y cribau mae planhigion caled yn goddef yr amodau agored llym, mae'r rhain yn cynnwys yr Helygen Fach a'r Hesgen Anystwyth. Ar gyfer y gwylwyr adar brwdfrydig, mae'r ardal hon yn lle gwych i weld adar yr ucheldir, megis Mwyalchen y Mynydd, Tinwen y Garn, y Gigfran a'r Hebog Tramor. Ynghyd â phoblogaeth ffyniannus o chwilod prin, mae'r ardal hefyd yn gartref i heidiau o eifr gwyllt.

Mae arwyddocâd diwylliannol y dyffryn yn cael ei amlygu yn darddiad ei enw. Dywedir i’r Cwm gael ei enwi ar ôl Idwal, mab i un o dywysogion Gwynedd. Mae’n debyg i Idwal gael ei foddi yn y llyn ac yn ôl y chwedl, nid yw adar yn hedfan uwchlaw’r dyfroedd oherwydd hynny.

Mae maes parcio Bwthyn Ogwen ger yr A5 rhwng Bethesda a Chapel Curig, yn ogystal mae Maes Parcio Ogwen a lleolir ym Methesda.

Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru | 01286 679686
GwyneddConwy