Mae gan yr ardal hon y gorau o’r ddau fyd, arfordir a chefn gwlad, gyda thref harbwr golygus Porthmadog ar y ffin. Ceir traethau i’r gorllewin sydd yn nodi cyrhaeddiad Pen Llŷn, tra bod tir coediog Dyffryn Ffestiniog - sydd yn cynnwys y rheilffordd gul enwog - yn llawn ucheldiroedd a mynyddoedd. Mae’r rhan hwn o Eryri yn gyfoethog yn ei hanes a’i hetifeddiaeth, a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y nifer eang o fannau ymweld ag atyniadau diwylliannol.
Blaenau Ffestiniog
Caiff Blaenau Ffestiniog ei leoli rhwng mynyddoedd y Manod a Moelwyn, ar gyrion y Parc Cenedlaethol Eryri. |
|
Criccieth
Pentref swynol ger y môr yw Criccieth. Mae ganddi ddau draeth sydd yn cael eu gwahanu gan gastell ar bentir ysblennydd. Mae darlun o’r ardal wedi cael ei ddefnyddio fel clawr i galendr ‘Cadw,’ yr asiantaeth sydd yn gofalu am amgylchfyd hanesyddol Cymreig, sydd yn dathlu 25ain o wasanaeth. |
|
Porthmadog
Tref harbwr prysur yw Porthmadog wedi ei leoli ger porth Parc Cenedlaethol Eryri. Mae mynydd Moel y Gest yn sefyll 860ft/262m uwchben y pentref porthladd llwyddiannus hwn ac i’r dwyrain ceir aber Glaslyn. |
 |
|
Trawsfynydd
Pentref a gaiff ei osod yng nghanol rhos ysgubol ac anial y Rhiniog i’r de o Eryri.
|