Er bod yr ardal yn fach, mae llawer i’w wneud yma. Mae Canolfan Grefft Corris yn bentref bach ynddo ei hun, gyda nifer o weithdai yn arddangos crefftau traddodiadol gwladaidd a chrefftau cyfoes.
Mae un o atyniadau mwyaf arwyddocaol ardal deheudir Eryri yn cael ei guddio oddi fewn i’r goedwig, dwy filltir tua’r de. Mae’r Canolfan Dechnoleg Amgen yn arloesi ar gyfer y dyfodol, yma ceir bob math o ddyfeisiadau i arbed ynni ac i dorri i lawr ar ddefnydd ac allyriad carbon. Nid yn unig y bydd yr atyniad yn agor eich llygaid ond mae hefyd yn hynod o ddifyrrus sydd yn adrodd neges ddifrifol mewn ffurf hwyliog.
Mae ‘Corris Mine Explorers’ hefyd yn cynnig teithiau tanddaearol. Atyniadau a gweithgareddau eraill sydd ar gael yw’r Amgueddfa a’r Rheilffordd, profi’r mwynhad o feicio i lawr allt yn y goedwig, pysgota gwych yn Llyn Tal-y-Llyn a cherdded ar hyd Cadair Idris.
Ger y Ganolfan Grefft ceir Labyrinth y Brenin Arthur, man poblogaidd i ymwelwyr ble mae modd mynd o dan ddaear a chlywed chwedlau am y brenin enwog hwn.
BalaCorrisDolgellauTeithlen
Rheilffordd Corris RailwayCanolfan Grefft Corris Craft CentreWikipedia - CorrisBBC - Corris
Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol
Bangor, Caernarfon a Llanberis Bae Ceredigion Dyffryn Conwy...
Bangor Bethesda Caernarfon...
Aberdyfi Abermaw Harlech...
Blaenau Ffestiniog Criccieth Porthmadog...
Aberdaron Abersoch Nefyn...
Bala Corris Dolgellau...
Gweithgareddau Siopa Teithlen...
Iaith Gymraeg Hanes Teulu Hanes...
Sherpa - Amserlen Bws i Lwybrau Yr Wyddfa...
Canolfan Groeso Caernarfon Canolfan Groeso Porthmadog Canolfan Groeso Abermaw...