A   A   A
Afon Coedydd Aber River

Mae Gwarchodfa Natur Coedydd Aber ar ochr ogleddol mynyddoedd y Carneddau, ychydig oddi ar yr A55, tua hanner ffordd rhwng Bangor a Llanfairfechan. Mae’n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Coedydd Aber ac Ardal Cadwraeth Arbennig Coedydd Aber.

Mae’r Coedydd Derw gorllewinol helaeth yma ar lethrau serth dyffryn i'r de o Abergwyngregyn. Mae'r daith gerdded o'r pentref yn dilyn glan yr afon, lle gellir arsylwi Bronwen y Dŵr a'r Siglen Lwyd. Mae'r prif lwybr yn dilyn llawr y dyffryn i’r Rhaeadr Fawr, rhaeadr syfrdanol sy’n denu nifer fawr o ymwelwyr i’r ardal.

Mae Ynn, Bedw Llwyd a Chriafol yn poblogi’r ardal o amgylch y rhaeadr, lle mae diffyg pori yn caniatáu Coedfrwyn Mawr, Llysiau’r Angel a Mantell Fair i dyfu. Brithyll a Llysywod yw'r prif rywogaethau o bysgod, gyda niferoedd bach o Siwin ac Eog.

Mae daeareg ac amrywiaeth o dirffurf wedi dylanwadu ar yr ardal sydd yn gyfoethog mewn amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid. Mae'r priddoedd ar waelod y dyffryn yn ddwfn a ffrwythlon ac yn cynnal llu o blanhigion. Mae hyn yn wahanol i'r tir uwch, lle mae'r priddoedd yn denau ac yn asidig. Ar lawr y dyffryn gwelir, yn bennaf, Gwern ac Ynn gyda Derw Mes Digoes yn tra-arglwyddiaethu ar y llethrau sychach creigiog gydag isdyfiant o Gyll a Chriafol. Mae Gwlydd Melyn Mair, Erwain a Brigwellt Garw yn rhywogaethau eithaf nodweddiadol o lawr y coetir. Mae gan y tir serth, prin eu maetholion a chreigiog ar y llethrau sychach, llai o isdyfiant, gyda'r Derw’n ildio i’r Ddraenen Wen a choed afalau surion gwasgaredig. Mae fflora'r llawr yn nodweddiadol weiriog gyda Perwellt y Gwanwyn, Maeswellt Cyffredin, Maeswellt Penwyn, Rhedyn Ungoes a Chlychau'r Gog.

O ganlyniad i dwf cyfoethog o gennau, sy'n gweithredu fel dangosyddion amgylcheddol, mae’r coetir yn un o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae ardaloedd o asidedd nodedig yn gartref i fflora daear cyfoethog o fwsoglau, Llysiau'r Afu, Cen a Rhedyn gwasgaredig. Ceir hyn ei dempro gan bocedi o bridd alcalïaidd sy'n gymorth i dyfiant o berlysiau sy'n cynnwys Craf y Geifr (Garlleg gwyllt), Bresych y Cŵn a Mwsglys (Cloc Neuadd y Dref). Mae hefyd yn gyfoethog o ran ffyngau, yn enwedig o amgylch ymylon y blanhigfa.

Mae adar y coetir o ddiddordeb arbennig ac yn amrywio o'r Gwalch Glas i adar cân anamlwg fel y Dringwr Bach, Gnocell Gwyrdd a Fraith Fwyaf. Mae Delor y Cnau, y Tingoch (ymwelydd yn yr haf) a Phila Gwyrdd yn rhoi lliw, tra bod ystod eang o deloriaid yn yr haf yn rhwystro'r adarydd nofis. Mae’r adar o’r cynefinoedd mwy agored yn cynnwys Tinwen y Garn, Corhedydd y Coed (ymwelwyr yr haf), Corhedydd y Waun, yr Ehedydd, Clochdar y Cerrig, y Gigfran a'r Bwncath.

Mae’r rhywogaethau o ymlusgiaid yn cynnwys Gwiber, Neidr Ddefaid a Madfall. Mae'r ffawna mamalaidd yn nodweddiadol o goedydd Derw brodorol. Mae'r rhywogaethau mwy yn cynnwys Carlwm, Ffwlbart a Moch Daear gyda'r Dyfrgi yn bresennol i fyny'r afon. Ceir ysgyfarnogod ar ardaloedd yr ucheldir. Mae rhywogaethau o ystlumod yn cynnwys yr Ystlum Lleiaf, Ystlum Natterer, Ystlum Leisler ac Ystlum Barfog. Er yn gyfoethog mewn infertebratau, mae'r rhan fwyaf yn anamlwg. Fodd bynnag, mae oedolion du'r Gwyfynod yn amlwg iawn mewn llennyrch heulog yn ystod yr haf.

Mae wyneb carreg neu raean garw i holl lwybrau’r safle ac maen nhw’n amrywio o wastad i serth.
Mae cyfleusterau parcio ar gael ger Bont Newydd (yn cynnwys lle ar gyfer ymwelwyr anabl) neu ymhellach ar hyd y ffordd ar safle'r Comisiwn Coedwigaeth. Mae maes parcio hefyd ar gael yn Abergwyngregyn, y pentref cyfagos.

Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru | 01286 679686
GwyneddConwy