A   A   A
610 233 Hwylio Pwllheli Sailing

Gyda nifer fawr o lynnoedd ac afonydd mae Eryri yn cynnig cyfleoedd diddiwedd i bobl fwynhau chwaraeon dŵr o bob math. Mae Llyn Tegid, Bala, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, yn gyrchfan heb ei hail i bobl sydd â’u bryd ar hwylio, canŵio a hwylfyrddio, ac mae Llyn Geirionydd yng nghoedwig Gwydir yn ffefryn gan gychwyr.

Ffilmiwyd rhannau o’r ffilm Tombraider II, gydag Angelina Jolie ar lannau hardd Llyn Gwynant sy’n gyrchfan boblogaidd i lawer sydd am gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr.Ym mhob rhan o Eryri mae cyfle i fynd mewn canŵ, caiac neu ar rafft, yn gystadleuol neu i hamddena. Os yn ddechreuwr cewch gyfle i ganŵio lle mae’r dŵr yn weddol dawel neu os yn brofiadol gallwch fwrw iddi o ddifrif i herio’r dyfroedd gwylltaf. Mae’r dewis yn ddiddiwedd ond mae Afon Conwy, Afon Glaslyn ac Afon Llugwy yn addas iawn i’r ceufadwyr mwyaf profiadol.
Canolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol Tryweryn - The National Whitewater Centre
Mae Canolfan Genedlaethol Dŵr Gwyn Tryweryn ger y Bala, yn cynnig cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn i ddysgwyr a’r mwyaf profiadol gael herio’r dŵr gwyllt mewn caiac neu ar rafft. Cynhelir cystadlaethau byd-eang yma. Rhybudd pwysig ynghylch y sefyllfa gyfreithiol ynglŷn â mynd ar y dŵr: Mae llawer o lynnoedd ac afonydd, yn arbennig y rhai bychan yn y mynyddoedd yn eiddo preifat. Mae’n rhaid i chi gael caniatâd i fynd i’r dŵr ac mae gwneud hynny heb ganiatâd yn drosedd. Cysylltwch â swyddfa leol Cymdeithas Canŵio Cymru, sydd ar y
rhestr ar y dde am fwy o wybodaeth mynediad.

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Share
Ebostiwch ffrind
A A A

Website Sitemap

cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2009 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd 
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS