Yr Wyddfa ei hun, sydd yn 3,560 troedfedd (1,085m) o uchder, yw’r brif gyrchfan cerdded i’r mwyafrif o bobl. Y llwybrau mwyaf poblogaidd at y copa yw Llwybr Llanberis, sy’n rhedeg ochr yn ochr â Rheilffordd Mynydd yr Wyddfa ac, ychydig yn fwy anodd, Llwybr Pŷg a Llwybr y Mwynwyr.
Serch hynny, mae llawer o gadwyni eraill o fynyddoedd sydd yr un mor brydferth ac yn rhoi llawn cymaint o her i gerddwyr megis Y Carneddau, Y Glyderau, Y Rhinogydd a Chader Idris. Gellir mwynhau teithiau cerdded mwy hamddenol trwy goedwigoedd a choetiroedd Dolgellau a Betws y Coed a’r bwlch rhwng y mynyddoedd yn Nhal y Llyn ac Aberglaslyn sydd ymhlith rhai o’r nifer o ddewisiadau eraill ar gyfer cerddwyr. Mae gan yr ardal rwydwaith o lwybrau beicio a llwybrau cerdded y Lonydd Glas lle na chaniateir cerbydau. Bydd y gyfres o bedwar Llwybr Llechi sef Bro Nantlle, Bro Ffestiniog, Bro Peris a Bro Ogwen yn rhoi cipolwg diddorol i chi ar dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal.
Llwybrau'r Ddyffrynnoedd Llechi
O ddiwedd y 18ed Ganrif hyd at gychwyn yr 20ed Ganrif roedd cymunedau dyffrynnoedd llechi Gwynedd – Ogwen, Peris, Nantlle, Blaenau Ffestiniog a Chorris – yn ardaloedd diwydiannol prysur a deinamig. Rhyngddynt roedd dros 60 o chwareli a mwynfeydd yn cyflogi dros 18,000 o bobl. Creodd y chwarelwyr a’u teuluoedd gymunedau unigryw oedd yn bennaf yn Gymraeg eu hiaith ac Anghydffurfiol eu crefydd.
Yr Wyddfa - Amserlen Bws Sherpa a Llwybrau Cerdded
Mae’r Wyddfa mor fawr ac amrywiol, mi fyddai’n bechod dilyn yr un llwybr i fyny ac i lawr! Rhwydwaith bws Sherpa’r Wyddfa yw eich tocyn i ryddid llwyr. Beth am ddilyn un llwybr i fyny, a dod i lawr ar lwybr gwahanol? Neu beth am ddal y bws o’ch llety a cherdded yn ôl? Mae’n hawdd gyda gwasanaeth y Sherpa. Mae gwasanaeth y Sherpa yn teithio o amgylch yr Wyddfa gan gysylltu’r 6 prif lwybr cerdded a'r pentrefi cyfagos.Sherpa - Amserlen Bws (PDF, 326kb)
Taith Mary Jones
Wrth ddilyn y daith linol hon, byddwch yn cerdded am 28 milltir ac yn mwynhau tirwedd godidog yr hen sir Feirionnydd; byddwch yn cychwyn y daith mewn dyffryn hardd wrth droed Cadair Idris ac yn terfynu wrth lannau Llyn Tegid. Byddwch yn cerdded ar lwybrau fydd â chaniatâd y tirfeddiannwr wedi ei sicrhau cyn mynd arnynt ac ar hyd rhai ffyrdd cyhoeddus; aiff y daith â chi dros fynydd-dir hardd a thrwy goetiroedd; ar hyd ffyrdd rhamantaidd cefn gwlad a ffyrdd mwy, prysurach. Byddwch yn rhyfeddu at lynnoedd a mynyddoedd hyfryd o’ch cwmpas. Llwybr Mary Jones (PDF, 1.69MB)Cymdeithas y Beibl - Bible Society
Gwyliau Cerdded Llŷn
Gwyliau Cerdded Llŷn yw eich cwni lleol dibynol, i drefnu eich pecyn gwyliau cerdded cynhwysfawr ynglwm a tywysydd os y dymunir. Mae'r holl becynau a gynigir yn cynnwys trosglwyddo paciau, trafnidiaeth, gwesty a prydau, hefyd manylion manwl o'r daith a pecyn hanes a gwybodaeth.Mae dewis eang o ffemau teithiau ar gael o Taith y Pererinion ag y Llwybr Arfordirol, taith y Pump Copa a llawer mwy. Ellir dylunio pecyn sydd yn addas i eich anghenion personol chwi.
Traethau Trawiadol
Mae gan Linell Arfordir y Cambrian filltiroedd o draethau ysblennydd. Mae amrywiaeth fawr o draethau godidog, llawer ohonynt â dyfarniadau, mewn mannau glan môr megis: Aberystwyth, Borth, Aberdyfi, Tywyn, Abermaw, Harlech, Criccieth a Phwllheli. Yn ogystal â’r traethau mae’r mannau hyn yn cynnig hoff bethau traddodiadol megis siopau pysgod a sglodion, caffis, gwerthwyr hufen iâ a diodydd oer, tafarndai a siopau roc a swfenîrs.
Bob dydd Llun, o’r 5ed o Fai, 2010 hyd at 31ain o Ragfyr, 2012. Bydd angen cysylltu i dderbyn gwybodaeth ar brisiau.
Ewch i Digwyddiadau Gogledd Cymru / Events North Wales am fanylion pellach.
Llwybrau i'r Wyddfa - 6 LlwybrSherpa - Amserlen Bws a Llwybrau Cerdded Yr WyddfaLlwybrau Cerdded EryriLlwybrau'r Ddyffrynnoedd Llechi
Llwybrau'r Wyddfa - 6 Taith (PDF, 13.2MB)Lonydd Glas - Gwynedd Recreational Routes (PDF, 6.63MB)Llwybr Mary Jones (PDF, 1.69MB)Cerdded Ger y Lli / Seaside Strolls Map - Crwydro Ger y Lli / Seaside Strolls
Parc Cenedlaethol EryriCroeso Cymru - CerddedTeithiau Trefol CymruCerdded yn Nyffryn ConwyCerdded Gogledd CymruCerdded yn EryriCymdeithas y Beibl - Bible SocietyLlwybr Arfordir Llŷn
Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol
Bangor, Caernarfon a Llanberis Bae Ceredigion Dyffryn Conwy...
Bangor Bethesda Caernarfon...
Aberdyfi Abermaw Harlech...
Blaenau Ffestiniog Criccieth Porthmadog...
Aberdaron Abersoch Nefyn...
Bala Corris Dolgellau...
Gweithgareddau Siopa Teithlen...
Iaith Gymraeg Hanes Teulu Hanes...
Sherpa - Amserlen Bws i Lwybrau Yr Wyddfa...
Canolfan Groeso Caernarfon Canolfan Groeso Porthmadog Canolfan Groeso Abermaw...