A   A   A
610 233 Maes Caernarfon Square
Yn sefyll ym mhle mae’r afon Seiont yn bwydo i mewn i’r Afon Menai y mae tref hynafol Caernarfon. Roedd y man arbennig hwn yn ffefryn gan Dywysogion Celtaidd ac Ymerawdwyr Rhufeinig.

Cafodd y dref ei thrawsnewid yn enwog gan Brenin Edwart I ac fe gafodd ei chynrychioli gan Lloyd-George, y gŵr Cymreig, tanllyd a oedd yn  Brif Weinidog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wrth ymweld fe fyddwch yn cyffwrdd â hanes yn y dref gaerog ac yn y castell. Ond fe ddewch i ddysgu hefyd fod llawer mwy i Gaernarfon!

Archwiliwch y dref ac fe ddewch i ddeall ei bod yn Galon Geltaidd Cymru. Cewch groeso cynnes Cymreig yn y siopau a rheini yn llawn o gynnyrch traddodiadol.

Mewn nifer eang o wahanol fannau bwyta cewch samplu bwyd wedi eu creu o’r cynnyrch lleol, gorau.

Ym mhob man fe ddewch ar draws y Gymraeg yn cael ei siarad. Gwelir fod yr iaith hynafol Geltaidd yn ffynnu ar hyd ac ar draws Gwynedd.

Castell

Bu i’r Castell mawreddog hwn ei adeiladu yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Edward I fel cartref brenhinol ac amddiffynfa filwrol, a hwn oedd canolbwynt y dref gaerog.  Mae’r Castell mewn cyflwr ardderchog ac mae’n  parhau i ddatgan ei awdurdod gwreiddiol. 


196 150 2 Castell Caernarfon Castle

Segontium

Gadawodd y Rhufeiniaid eu marc hefyd - 1,000 o flynyddoedd ynghynt, fe adeiladwyd eu hamddiffynfa Segontium ar y bryn gerllaw.  Ceir amgueddfa ar y safle i egluro ei arwyddocâd.

Doc Fictoria

Yn ogystal, mae’r Doc Fictoria sydd ar lan y dŵr yn gartref i’r Ganolfan siopa Celtica, a cheir Canolfan Chwaraeon dŵr ar gyrion y dref yn sgil Canolfan Chwaraeon dŵr Cenedlaethol - Plas Menai.

Atyniadau Lleol

Ceir atyniadau eraill yn ffurf Rheilffordd Ucheldir Cymru ( a gafodd ei ymestyn i Borthmadog yn 2009), Amgueddfa Morwrol, Galeri (canolfan celf gyda theatr a sinema), Canolfan Hwylfan, Cartio dan do Redline a  Mordaith Pleser yr Afon Menai, ble cewch olygfeydd ysblennydd o’r castell, y mynyddoedd a Môn.


196 150 Yr Hwylfan / Fun Centre

 

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2009
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS