A   A   A
Cadair Idris & Llyn Cau

Cader Idris

Penygadair, Llanfihangel y Pennant, Dolgellau, LL40 1TN (map)
Gwefan gyda manylion taith gerdded

Cadair Idris

Mae Cader Idris yn dirwedd ucheldirol trawiadol, yn ddiwylliannol arwyddocaol, ac yn parhau i fod yn ardal o ddiddordeb arbennig am ei amrywiaeth o nodweddion biolegol, daearegol, a thirffurf. Mae'r masiff ei hun yn cynnwys cymoedd, cribau copa, llethrau sgri serth a chlogwyni. Tuag at y de mae dyffryn rhewlifol mawr siâp U.

Cader Idris yw un o'r mynyddoedd uchel mwyaf deheuol yn y DU gyda nifer o rywogaethau ucheldir yn cyrraedd eu terfyn deheuol yma, gan gynnwys yr Helygen Fach ar grib y copa. Mae'r ardal yn cynnal ystod eang o gynefinoedd yr ucheldir gan gynnwys, gorgors, rhostir yr ucheldir, coetir llydanddail ac amrywiaeth o laswelltir. Ceir digonedd o gorlwyni rhostir ac mae’r Grug, Llus a Grug Croesddail yn gyffredin. Mae Glaswellt y Gweunydd, Peiswellt y Defaid a Maeswellt Cyffredin yn gyffredin yn y glaswelltiroedd. Mae Llyn Cau yn asidig ac yn isel ei maeth (sydd yn nodweddiadol o lynnoedd ucheldir Prydain) gydag ychydig o rywogaethau ond yn ddiddorol, mae Gwair Merllyn yn parhau i fod yn doreithiog. Mae'r creigiau a sgrïau yn cynnal clystyrau o Redyn Persli gwyrdd llachar. Mae’r mamaliaid yn cynnwys Dyfrgi, Ysgyfarnog, Llygoden Bengron y Dŵr ac Ystlum Pedol Lleiaf. Mae’r adar sydd yn bridio yn yr ucheldir yn cynnwys Tinwen y Garn a Mwyalchen y Mynydd (ymwelwyr yr haf), yr Hebog Tramor, y Gigfran, yr Ehedydd a Chorhedydd y Waun.

Yn ôl traddodiad enwir y mynydd ar ôl y cawr Idris. Un o hen ystyron y gair 'cader' yw 'gorsedd'. Yno yng nghwm Llyn y Gadair roedd y cawr yn eistedd. Roedd yn enwog am ei wybodaeth o’r sêr a dywedir ei fod yn eistedd ar ben Cader Idris i'w gwylio. Fel arall, gall gyfeirio at Idris ap Gwyddno, tywysog Meirionnydd 7fed ganrif a gurodd y Gwyddelod mewn brwydr ar y mynydd.

Dywedir hefyd fod Cadair Idris yn ardal hela i Gwyn ap Nudd a'i Gŵn Annwn. Mae udo o'r cŵn hyn darogan marwolaeth i'r gwrandäwr gyda'r cŵn yn arwain enaid y person hwnnw i mewn i'r isfyd.

Mae'r llwybr Minffordd at y mynydd yn cychwyn ar yr ochr deheuol ger y llyn Tal-y-llyn, gyda maes parcio y tu ôl i westy Minffordd. Mae llwybr y Merlod yn dechrau yn y gogledd, o'r maes parcio yn Nhŷ Nant.

Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | [email protected] | 01286 679686
GwyneddConwy