A   A   A
610 233 Blaenau Ffestiniog

Llechwedd

Ceudyllau Llechwedd yw un o atyniadau mwyaf llwyddiannus Cymru, amgueddfa tanddaearol ble mae modd dysgu am fywyd gwaith mwynwyr llechi.


'Pentref a rhoddodd do i'r byd'

Yn aml, caiff Blaenau Ffestiniog ei adnabod fel ‘Prif ddinas llechi yng Nghymru’ ac fel ‘y pentref a rhoddodd do i’r byd’.  Er bod y ffordd hon o fyw wedi hen ddirywio mae llawer yn ymweld â Blaenau Ffestiniog bob blwyddyn er mwyn dysgu am ei hanes llechi cyfoethog.

Atyniadau Eraill

Atyniad arall sydd ar gael yma yw Oriel y Ddraig, ble caiff celf a diwylliant ei arddangos. Mae Blaenau Ffestiniog hefyd yn fan gwych ar gyfer cerdded, dringo a beicio mynydd.

Harddwch, Hanes, Diwylliant a Bwrlwm

Mae’r dref sydd yn brolio cymysgedd unigryw o harddwch naturiol, hanes, diwylliant a bwrlwm, ac sydd yng nghalon Parc Cenedlaethol Eryri yn eich croesawu i fforio ein mynyddoedd garw, dyffrynnoedd hyfryd, ein llynnoedd llonydd a’n niferoedd o fwytai a thafarndai.

Mae’r ffaith y gall Ffestiniog frolio bod ganddi ddau gôr gweithredol a sawl band pop sydd wedi cyrraedd brig y siartiau yn adlewyrchiad o natur amrywiol y dref a’i phobl, lle mae’r traddodiadol a’r cyfoes, a’r hen a’r newydd yn toddi i’w gilydd mewn ffordd sy’n ein gwneud yn falch o fod yn Gymry.

Hanes

Tref weddol ifanc, yn seiliedig ar y diwydiant llechi ydi Blaenau Ffestiniog. Ond mae’r hen ran o’r plwyf, Llan Ffestiniog yn mynd yn ôl rhai canrifoedd. Gwelir olion hynafol, yn dyddio i oesoedd cynnar iawn o’n hamgylch ym mhob rhan o’r ardal, a nifer o safleoedd o’r Oes Efydd, yr Oes Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid yn britho’r fro.

Y mae sawl llecyn tua chyfeiriad Cwm Cynfal â chysylltiadau â’r chwedlau enwog, Y Mabinogi, a nifer o’r enwau lleol o gwmpas yn ein hatgoffa o hynny. Wrth ddilyn rhai o lwybrau’r ardal cawn ein harwain i sawl cwm hudol, a hanesyddol, megis Cwmorthin, Cwm Bowydd, Cwm Cynfal, Cwm Teigl, a phob un â’i nodweddion hynod, a’u golygfeydd rhyfeddol. Ffordd Rufeinig sy’n arwain am rai milltiroedd trwy’r fro yw Sarn Helen, yn adlais o’r cysylltiadau â dyfodiad y Rhufeiniaid i Domen-y-mur gyfagos tua’r ail - drydedd ganrif oed Crist.

Olion Dyn

Fel y gwelir, mae olion dyn wedi bod yn naddu’r graig am fywoliaeth i’w gweld yn amlwg ymhob cyfeiriad. Yn ôl traddodiad, dywedir mai un o Arfon, Methiwsala Jones, a gafodd freuddwyd am garreg las a holltai’n dda, oedd i’w chael mewn lle a ddatblygodd dros gyfnod o amser ac fe’i hadnabyddir fel chwarel Diffwys, dafliad llechen o le a ddatblygodd yn dref sylweddol yn y man. Roedd hynny tua chanol yr 1760au. Dros y blynyddoedd agorwyd chwarel ar ôl chwarel ym mhob rhan o’r plwyf, dros amser tyfodd chwarel yr Oakeley fel mai hon yw chwarel danddaearol fwya’r byd. Mae’n anghredadwy meddwl fod oddeutu hanner can milltir o reilffyrdd yn gyfan gwbl o danddaear ar yr amrywiol lefelau ynddi a hynny yng nghrombil y mynydd ei hun. Dyma ddechrau’r diwydiant a ddatblygodd i fod yn un o ganolfannau llechi mwya’r byd ac fe esblygodd yr hyn a oedd yn blwy’ Ffestiniog gyda’i dyrnaid o dyddynnod a ffermydd i fod y dre fwyaf ym Meirionnydd, sef Blaenau Ffestiniog, ac yn wir, yr ail dref fwyaf yng Ngogledd Cymru yn 1901.

Ar un adeg cyflogid dros 4,000 o ddynion yn y chwareli lleol yn gyfan gwbl, a rhoddodd hynny hwb mawr i economi ardal eang. Mewn ymateb i’r galw am y llechi o bob rhan o’r byd, agorwyd tair rheilffordd i gyrraedd y dref, yr L.M.S., G.W.R. a Rheilffordd Ffestiniog, ar gyfer y gwaith o gludo llechi yn benodol ac er mwyn gwasanaethu’r boblogaeth yn gyffredinol. Agorwyd pwerdy trydan-dŵr yn Nôl Wen yn 1899 ar gyfer cyflenwi trydan i rai o’r chwareli, ac ym Mai 1902, strydoedd Blaenau Ffestiniog oedd y rhai cyntaf ym Mhrydain i gael eu goleuo gan drydan o egni’r dyfroedd. Yn ddiweddarach, ym 1963, agorwyd pwerdy Ffestiniog yn Nhanygrisiau, yr orsaf drydan storfa-bwmpio gyntaf ym Mhrydain, a’r fwyaf yn Ewrop ar y pryd.

Trysorau'r Genedl

Gwnaed defnydd arall o rai o’r ceudyllau yn un o chwareli Ffestiniog yn ystod yr ail ryfel byd, rhywbeth a oedd yn gyfrinachol ar y pryd. Penderfynwyd trosglwyddo trysorau’r genedl Brydeinig o’r Oriel Genedlaethol a phalas Buckingham i chwarel Chwarel y Manod yn 1941. Ymysg y peintiadau fu’n cael eu cadw yn y chwarel, yng nghrombil y Manod Mawr dros gyfnod y rhyfel oedd darluniau gan artistiaid enwog megis Rubens, Rembrandt a Michelangelo. Clywed sibrydion ar y pryd fod Tlysau’r Goron yn cael eu storio yno hefyd. Ond stori arall yw honno!

700 267 Golygfa o'r Tren Rheilffordd Ffestiniog View from Train

Cerdded

Gallwch ddewis cerdded yn yr ucheldiroedd neu ar yr iseldiroedd yn Ffestiniog. O’r Moelwyn Bach yn y de hyd gopa uchel Moel Siabod mae gennych dros 90 cilomedr o gefn gwlad gwyllt i’w ddarganfod. Yn y lleoedd mwyaf gwyllt mae defnyddio map a chwmpawd yn hanfodol. Tua’r de o’r Blaenau yn uchel uwchben mae’r ddau Fanod. Er bod copa gogleddol y Manod Mawr yn cael ei chwarelydda yn ddwys, mae’r copa deheuol heb ei gyffwrdd fwy neu lai ac mae’n wyllt. Mae ei frawd llai, sef y Manod Bach yn wyllt a does yr un llwybr arno i’w ddofi. Yn nythu rhwng y copaon fe ddowch o hyd i lyn prydferth y Manod, sy’n lle gwirioneddol wych i chi gael picnic.

I’r rhai ohonoch sydd ddim yn tueddu i wirioni ar gopaon uchel neu leoedd gwyllt, cadwch lygad am y lleoedd i fynd am dro yn y pentref ac yn y coedlannau fel Cwm Bowydd a bydd harddwch rhaeadrau Cwm Cynfal yn cipio eich anadl. Neu beth am gerdded trwy goedlan Maentwrog lle mae hen goed derw yn teyrnasu a gallwch glywed a gweld cnocell y coed. Heb anghofio fod ystlumod yn cyniwair yma hefyd.

Dringo

Ar glogwyni’r Moelwyn sy’n wynebu tua’r de cewch fwynhau rhai o’r dringfeydd gorau ym Mhrydain. Am eu bod yn wynebu’r de maen nhw’n sychu’n sydyn a gan fod y creigiau yn fras hyd yn oed pan fo hi’n llaith maen nhw’n ddelfrydol ar gyfer dringo. Mae yma amrywiaeth o ddringfeydd hawdd hyd y rhai eithafol, mae ystod o ddewis graddfeydd dringo ar gael yn y fan hon ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn aml-ddisgyblaethol.

Fforio Ogofau

Arferai Blaenau Ffestiniog fod yn un o’r chwe phrif ardal cynhyrchu llechi yng Ngogledd Cymru, a llechi sydd wedi gwneud y dref hon yn enwog. Roedd llechi Blaenau, sy’n adnabyddus am eu cryfder a’u gwydnwch, yn cael eu hallforio ar draws y byd i gyd. Mae’r diwydiant pwysig hwn wedi gadael olion parhaol yn y dirwedd, uwch y ddaear yn y tomenni, y tramffyrdd a’r melinau adfeiliedig; a hefyd o dan ddaear ar ffurf y milltiroedd o dwneli troellog a hefyd y siambrau sydd gymaint â chadeirlannau a gafodd eu naddu â llaw yn y mynyddoedd o amgylch y dref.

Parheir i weithio llechi mewn dwy chwarel, fodd bynnag mae’r pyllau tanddaearol mawr, sef Cwmorthin, Croesor, Rhosydd, Wrysgan a nifer o rai eraill, yn segur ers tro byd. Mae ceudyllau Llechwedd yn galluogi ymwelwyr â’r ardal i gael cip olwg ar fywydau’r hen chwarelwyr Cymreig; ac ar gyfer cerddwyr neu haneswyr diwydiant, mae nifer fawr o lwybrau yn yr ardal sy’n eich galluogi i werthfawrogi’r olion a’r golygfeydd. Gall fforio o dan ddaear fod yn beryglus, a dim ond y rhai ohonoch sydd â’r cyfarpar a’r profiad addas a ddylai fentro gwneud hyn. Gall eich clwb fforio lleol fod yn gyswllt cyntaf gwerthfawr dros ben.

Canwio

Caiacio a chanŵio yn lleol - Nefoedd ar y ddaear i Badlwyr. Dychmygwch deithio o amgylch y byd a dod adref gyda mynydd o’r Alpau, cornant serth o Orllewin Virginia, afon o Seland Newydd, rhaeadr o Norwy, aber o Ddyfnaint, arfordir creigiog o Orllewin Iwerddon a thon llanw o Sir Benfro. Ychwanegwch lyn o Awstria a dyffryn o’r Rhein. Ac yn olaf, argae sy’n faes chwarae a reolir o Golorado. Nawr dychmygwch hyn oll o fewn 5 i 45 munud i ffwrdd mewn car. Agorwch eich  llygaid, rydych ym Mlaenau Ffestiniog!

Pysgota

Dyma un o’r ardaloedd mwyaf nodedig am lynnoedd lle gallwch ddal y brithyll brown a hynny’n cynnwys llynnoedd y Moelwynion, Cwmorthin, Corsiog, Conglog a Llyn yr Adar, yn ogystal â llynnoedd Ffestiniog, Gamallt, a Llyn Morwynion i enwi dim ond rhai, ynghyd ag afonydd y Teigl, Cynfal a’r Ddwyryd. Os ydych am bysgota am y brithyll seithliw a’r brithyll brown yna ewch i Danygrisiau. Mae’n hawdd cael mynediad at y llyn ac fe ganiateir y rhan fwyaf o wahanol fathau o bysgota yma, ac mae’n addas ar gyfer pawb o bob gallu. 

Yn ddiamau, mae Blaenau Ffestiniog, yng nghanol golygfeydd ysblennydd Eryri, yn ganolfan ardderchog ar gyfer unrhyw bysgotwr sy’n mwynhau dal brithyll brown gwyllt mewn amgylchoedd prydferth. Yma mae pencadlys Cymdeithas Enweiriawl Cambrian, lle ceir cyfle i bysgota yn y llynnoedd rhagorol a leolir ymysg y bryniau o amgylch. Caniateir unrhyw ddull cyfreithlon gydag un genwair ar y tro, yn cynnwys pysgota mewn ‘Float Tube’ (pluen yn unig), ond gan fod y dyfroedd yma yn naturiol ac weithiau yn anghysbell, y pysgotwr fyddai’n gyfrifol am benderfynu os yw’n saff i lansio neu beidio. Lleolir llynnoedd y Gymdeithas, ar y cyfan, i’r Gorllewin (yng nghadwyn mynyddoedd y Moelwyn) ac i’r Dwyrain, tua chyfeiriad y Migneint, o’r A470 sy’n mynd drwy’r dref. Cyswllt e –bost. cambrian1885@googlemail.com

Gwylio Adar

Cewch gyfoeth o adar yn yr ardal hon ac ar y copaon uwch mae yna gigfrain, hebogiaid, bwncathod a’r brain coesgoch anhygoel, sy’n adar prin yn y rhan fwyaf o ardaloedd ym Mhrydain. Yn y dyffrynnoedd coediog mae cnocell y coed, telor y cnau, y llinos a’r titw a bydd gennych wastad y cyfle i weld gweilch y pysgod yn pysgota yn aberoedd yr afonydd a’r llynnoedd.

Y Mabinogi

Chwedlau Cymraeg o’r Oesoedd Canol ydi Pedair Cainc y Mabinogi. Fe’u hysgrifennwyd nhw am y tro cyntaf mewn llawysgrifau pwysig ond, am ganrifoedd cyn hynny, roedden nhw wedi cael eu hadrodd yn llysoedd y Cymry. Y mae peth o ddefnydd y chwedlau hyn yn hen iawn - y mae cysgodion rhai o hen dduwiau’r Celtiaid ar rai o gymeriadau’r Mabinogi.

Ystyr y gair `Mabinogi’, i ddechrau, oedd `chwedl am lencyndod’; yna fe ddatblygodd i olygu `chwedl’. Ystyr y gair `cainc’ ydi `rhan’.

Y gainc sydd o bennaf diddordeb i ni, yn Ffestiniog, ydi’r Bedwaredd Gainc, a elwir yn `Math fab Mathonwy’. Brenin Gwynedd a dewin oedd Math, ac un o ddewiniaid nerthol ei lys ydi Gwydion. Ail ran y chwedl sy’n berthnasol i’n hardal ni.

Y mae chwaer Gwydion, sef Arianrhod, wedi rhoi genedigaeth i faban dan amgylchiadau sy’n codi cywilydd mawr arni. Cipia Gwydion y baban a’i fagu, a gofalu amdano fo. Wedi iddo dyfu’n llanc a dod i weld ei fam am y tro cyntaf, y mae hi’n ddig iawn fod Gwydion wedi cadw ei mab - i atgoffa pawb o’i chywilydd, meddai hi. Y mae hi’n rhoi tair `tynged’ ar y mab: `chaiff o ddim enw, nac arfau - dim ond ganddi hi, a chaiff o ddim gwraig o blith gwragedd y ddaear. Trwy ei hud y mae Gwydion yn cael enw i’r mab, Lleu Llaw Gyffes (`yr un pryd golau sy’n fedrus iawn ei law’), ac arfau. Y drydedd dasg yw cael gwraig iddo. Y mae o a Math yn creu gwraig i Lleu o flodau’r maes, ac yn ei galw yn Blodeuwedd (`wyneb o flodau’). Ânt i fyw ym Mur Castell, lle y mae Tomeny Mur heddiw.

Rheilffordd Ffestiniog

Mae Rheilffordd Ffestiniog yn rhan bwysig o orffennol Blaenau Ffestiniog - yn ogystal â’i dyfodol. Cwmni Rheilffordd Ffestiniog yw’r un Annibynnol Hynaf o’i fath yn y Byd, ac fe ddechreuwyd cludo llechi o’r Blaenau yn 1832.

196 150 Rheilffordd Ffestiniog Railway

Yr oedd ceffylau yn tynnu wagenni gwag i fyny’r lein, ond yr oedd y trenau a oedd wedi cael eu llwytho yn teithio yn ôl i lawr tua’r môr trwy gyfrwng nerth disgyrchiant - gyda dim ond cwpl o ddynion yn rheoli’r brecs er mwyn eu cadw dan reolaeth! Gwelwyd dyfodiad stem yn 1863 ac mae rhai o’r un cerbydau neu locomotifau hynny yn parhau i gael eu defnyddio heddiw, yn cludo teithwyr i ac o’r dref trwy Ddyffryn golygfaol Ffestiniog. Achubwch y cyfle i archwilio strydoedd y dref hanesyddol ac unigryw hon gyda’i threftadaeth gyfoethog a’i diwylliant Cymreig cryf.

O’r Blaenau, tuag ar i lawr mae’r trên yn rhedeg yr holl ffordd i lawr i Borthmadog, - a oedd unwaith yn harbwr prysur ac sydd bellach yn gyrchfan wyliau poblogaidd. Gallwch dorri eich siwrne ar y ffordd, yn Nhan-y-Bwlch - gorsaf sydd hanner ffordd ar hyd y rheilffordd ac sydd wedi ei lleoli yng nghanol coedlan yn y Parc Cenedlaethol - ac mae’n ddewis hynod o boblogaidd. Mae caffi’r orsaf, y lle chwarae i blant a’r llwybrau coedlannol yn gwneud y fan hon yn lle ardderchog i dreulio dwy awr o’ch amser.

Mae’r trenau yn rhedeg gydol y flwyddyn gyda gwasanaeth rheolaidd rhwng Y Pasg a diwedd mis Hydref. Mae’r rhan fwyaf o’r trenau yn cael eu tynnu gyda phŵer stem ac mae ‘Tocyn Dydd’ yn eich caniatáu i deithio ar unrhyw drên a gwneud y gorau o’r ymweliad o ddifri.

Am ragor o wybodaeth am ein gwasanaethau, ffoniwch 01766 516000, neu ymwelwch â’n gwefan Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru neu gafaelwch mewn amserlen.

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2010 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS