Mae llwybrau hynod o hardd, lle gwaherddir cerbydau ac sy’n hwylus i deuluoedd, ym mhob rhan o’r ardal. Mae’r llwybr poblogaidd, Lôn Eifion, yn rhodfa werdd o goed brodorol yn ymestyn rhwng tref hanesyddol Caernarfon a phentref Bryncir. O’r llwybr hwn gellir gweld golygfeydd anhygoel o’r mynyddoedd sydd o amgylch, o Ynys Môn a Phen Llŷn. Dilynwch Lôn Las Ogwen yr hen lwybr rheilffordd ar hyd glannau’r Afon Cegin o ddinas Bangor ‘Athen Cymru’ allan i’r wlad yn Nhregarth. Ymdroellwch Lôn Las Peris yn hamddenol ar hyd glannau cysgodol Llyn Padarn yn Llanberis wrth droed yr Wyddfa. Rheda Lôn Las Menai rhwng tref hanesyddol Caernarfon a phentref Y Felinheli a gellir cael cipolwg o Fôn ‘Mam Cymru’ o’r llwybr hwn. Mae Llwybr Mawddach yn ymestyn am 9 milltir rhwng Abermaw a Dolgellau ac yn rhoi golygfeydd rhyfeddol o Ddyffryn Mawddach a’r aber, tra bod llwybr Trawsfynydd yn rhedeg am dair milltir ar hyd glannau dwyreiniol yllyn trwy goetiroedd a thir agored.
Mae’r llwybr mwyaf diweddar, Lôn Ardudwy, yn mynd ar hyd lonydd bychan rhwng môr a mynydd o Borthmadog i Abermaw. Er mwyn profi hud a dirgelwch un o gadarnleoedd mwyaf dramatig y tywysogion Cymreig a golygfeydd bythgofiadwy mae’n rhaid i chi fynd ar hyd Lôn Dysynni sy’n rhedeg o Dywyn i Abergynolwyn. Mae dau Hub Beicio newydd wedi eu datblygu yn ardaloedd Pen Llŷn a Dolgellau – darganfyddwch gefn gwlad godidog Gwynedd drwy feicio ar hyd rai o ffyrdd mwyaf hardd a chyffrous yng Nghymru. Mae gan Eryri lawer iawn i’w gynnig i’r beiciwr sydd eisiau’r her a’r pleser o fentro i dir newydd.
Lonydd Glas GwyneddLlwybrau Beicio Llŷn a DolgellauLlwybrau Beicio BalaBeicio
Lonydd Glas - Gwynedd Recreational Routes (PDF, 6.63MB)
Sustrans - Teithiau a Mapiau y Rhwydwaith Beicio CenedlaetholBeicio yng NghymruBeicio Mynydd yng NghymruParc Coedwig Coed Y Brenin Forest ParkCoedwig Gwydr Forest
Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol
Bangor, Caernarfon a Llanberis Bae Ceredigion Dyffryn Conwy...
Bangor Bethesda Caernarfon...
Aberdyfi Abermaw Harlech...
Blaenau Ffestiniog Criccieth Porthmadog...
Aberdaron Abersoch Nefyn...
Bala Corris Dolgellau...
Gweithgareddau Siopa Teithlen...
Iaith Gymraeg Hanes Teulu Hanes...
Sherpa - Amserlen Bws i Lwybrau Yr Wyddfa...
Canolfan Groeso Caernarfon Canolfan Groeso Porthmadog Canolfan Groeso Abermaw...