Mae Beacon Climbing Centre yn fan cyffrous i ymweld ag o beth bynnag fo'r tywydd, gyda gweithgareddau hwyliog ar gyfer y teulu i gyd. Mae'n hwyl mawr i blant, ac y gwrthgyferbyniad perffaith i oedolion sydd wedi diflasu ar gyfundrefn ailadroddus y gym!
Gorchfygwch ein waliau rhaff uchel am ymdeimlad o fod wedi cyflawni rhywbeth heb ei ail, profwch y rhyddid o ddringo heb raff yn ein ardaloedd 'clogfeinio' lefel isel, neu ceisiwch rhywbeth hollol wahanol : CrazyClimb sy'n cynnwys 12 sialens dringo gwallgof.
Nid oes angen profiad blaenorol, a gall rhywun roi cynnig arni. Mae gwyliwyr yn cael mynediad am ddim, ac yn gallu gwylio'r dringo o amryw falconi ar eu cyfer, neu ymlacio yn y caffi sy'n edrych dros y waliau dringo. Mae hyd yn oed WIFi am ddim ar gael!
Mae Beacon Climbing Centre wedi ei leoli yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru, ychydig o filltiroedd o ffordd yr arfordir, yr A55. Gallwch ddod o hyd i ni ar y brif ffordd o Gaernarfon i Llanberis, yr A4086. Manylion llawn ar ein gwefan.