Chwaraeon a Hamdden
Mae Bangor yn cynnig dewis eang o chwaraeon. Mae cyfleusterau chwaraeon hamdden y Brifysgol yn cynnwys Canolfan Chwaraeon Maes Glas gyda thair ystafell ffitrwydd helaeth eu hoffer, wal ddringo dan do, cyfleusterau ar gyfer chwarae badminton, sboncen, pêl-foli, pêl-fasged, pêl-rwyd, hoci dan do, pêl-droed pump bob ochr, tennis bwrdd, criced dan do, yn ogystal â neuadd gymnasteg bwrpasol gyda llawr sbring. Tu allan ceir dau gwrt tennis / safleoedd ymarfer amlbwrpas, cae pob tywydd ar gyfer pêl-droed a hoci, a chaeau glaswellt ar gyfer rygbi a phêl-droed.
Mae gan Fangor hefyd bwll nofio dan do gyda llithren ddŵr a bwrdd plymio; cae pump bob ochor pob tywydd a chae chwarae glaswellt; lawnt bowlio, a chlwb tennis awyr agored.
Mae gan Glwb Golff Sant Deiniol, Bangor, a sefydlwyd ym 1906, gwrs 18 twll wedi ei gynllunio gan James Braid, y pensaer golff enwog a enillodd y Bencampwriaeth Agored bum gwaith. Mae gan y clwb olygfeydd ysblennydd ac mae croeso cynnes i ymwelwyr. Yn ogystal â hyn, ceir cwrs 9 twll a maes ymarfer yn Nhreborth.
Gallwch bysgota am bysgod a chrancod ar y lân, ar y môr neu ar y pier.
Os ydych eisiau gwylio chwaraeon, ceir Clwb Pêl-droed, Clwb Rygbi a Chlwb Criced ym Mangor.
Gyda'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol ym Mhlas Menai, Caernarfon a'r Ganolfan Mynydd Genedlaethol ym Mhlas y Brenin, Capel Curig gerllaw, bydd gennych ddigon i'w wneud!
Hanes a Diwylliant - Cadeirlan a Chwareli Mae hanes Crefyddol yn chwarae rhan fawr yng nghefndir Bangor. Mae gan y Gadeirlan wreiddiau hynafol – caiff ei holrhain yn ôl i’r 6ed ganrif. Mae cwlwm rhwng Bangor a’r Gadeirlan yn rhedeg yn ddwfn. Mae ei enw yn tarddu oddi wrth enw’r wal (‘Bangor’) a oedd wedi ei adeiladu o amgylch man crefyddol. |
|  |
Tua 525AD, rhyw 70 o flynyddoedd cyn sefydlu Caergaint, daeth Sant Deiniol i fyw yn y dyffryn lle mae'r ddinas heddiw. Adeiladodd ffens gyda pholion yn y ddaear a changhennau wedi eu gwau rhyngddynt, yr enw technegol am hyn oedd 'bangor'. Adeiladodd Deiniol ei eglwys a sefydlu mynachdy Celtaidd ar y safle. Pan wnaed Deiniol yn esgob yn 546, cafodd yr eglwys ei gwneud yn gadeirlan, y safle hynaf yn y Deyrnas Unedig lle bu eglwys gadeiriol yn ddi-dor. Dyma sut y cafodd Bangor ei henw a'i statws fel dinas.
Yn yr Oesoedd Canol, roedd y gadeirlan yn un o ganolfannau ysbrydol tywysogaethau annibynnol Gwynedd a Chymru; lle i addoli oedd hefin yn llawn dewder a dirgelwch. Mae bedd Owain Gwynedd yng nghadeirlan Bangor a dyma le oedd man cychwyn pererinion ar eu taith anodd i Ynys Enlli ym Mhen Llŷn - roedd tair pererindod i Ynys Enlli gyfwerth ag un bererindod i Rufain!
Mae Castell Penrhyn yn blasty neo-Normanaidd ysblennydd. Mae wedi ei addurno'n foethus ac mae ganddo olygfeydd trawiadol, gardd furiog Fictorianaidd, a chasgliad da o injans stêm a darluniau gan arlunwyr o fri. Cwblhawyd ar ei ffurf bresennol ym 1836. Adeiladwyd Castell Penrhyn gan deulu'r Pennant, gyda'r ffortiwn a wnaethant yn gyntaf o siwgr, gan ddefnyddio caethweision o Jamaica, ac yna o lechi, a oedd yn cael ei gloddio ym Methesda a'i anfon o amgylch y byd mewn llongau o Borth Penrhyn ym Mangor. Erbyn heddiw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen arno.
Yn y ddinas eu hun, mae llwybrau natur a llwybrau treftadaeth yn cysylltu mannau gwyrdd y ddinas gyda'i threftadaeth bensaernïol gyfoethog. Ceir safleoedd bywyd gwyllt a natur warchodedig, yn cynnwys Rhaeadr Fawr a nifer o warchodfeydd natur, mewn coedwigoedd ac ar lan y môr.