A   A   A
610 233 Bala

Croeso i'r Bala

Dewch i weld gogoniant y rhan yma o Eryri, gyda Llyn Tegid, y llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, yn berl yn y canol. Cwyd copaon uchel Aran Benllyn, Arenig Fawr a’r Berwyn o amgylch yr ardal hon a elwir Penllyn. Ardal o brydferthwch naturiol a diwylliant Cymreig.

Yma mae’r iaith Gymraeg, un o’r ieithoedd hynaf yn Ewrop, yn ffynnu ac wrth gerdded i lawr y stryd fe glywch deuluoedd, ffrindiau a phobl busnes yn ei defnyddio yn hollol naturiol. Mae hanes y dref yn faith a chyfoethog, yn ymestyn yn ôl i amser y Rhufeiniaid. Yn y Ganolfan Dwristiaeth gellir cael gafael ar bamffled ‘Llwybr Tref Y Bala’ sydd yn esbonio arwyddocad hanesyddol, crefyddol a gwleidyddol yr adeiladau a’r cofgolofnau.

Bala - Naws am le

Mae tref farchnad hanesyddol y Bala ym mhen gogleddol Llyn Tegid, yn ne Eryri. Ystyr y gair "bala" ydi'r man lle mae afon yn llifo allan o lyn ac enwyd Bala, Ontario, Canada ar ôl y Bala, Gwynedd ym 1868. Maent wedi'u gefeillio ers hynny.
 
Sefydlwyd y dref trwy Siarter Frenhinol tua 1310 gan Roger de Mortimer o Gastell y Waun. Roedd ef yn awyddus i sefydlu'r dref fel ffordd o ddofi'r Crynwyr a oedd wedi ymgasglu yn ardal Penllyn o dan ddylanwad Morgan Llwyd. Roedd Morgan Llwyd, yr awdur a phregethwr Piwritanaidd, yn byw yng Nghynfal Fawr ger Ffestiniog, ac wrth deithio rhwng ei gartref a Wrecsam lle bu'n byw am gyfnod, dechreuodd aros i bregethu mewn ty o'r enw Bodwenni rhwng y Bala a Llandderfel. Roedd ei bregethau'n sôn am bwysigrwydd y ‘goleuni oddi mewn’ – efallai y byddem ni heddiw'n meddwl am y goleuni hwnnw fel ein cydwybod. Bu farw Morgan Llwyd ym 1659 a chanfu ei ddilynwyr ym Modwenni eu bod yn cydymdeimlo â chred y Crynwyr.

I ddarllen mwy am Bala gewch lawrlwytho: Naws am Le - Bala

Rheilffordd Llŷn Bala

Ni all ei lleoliad fod yn well - ar gyrion Llŷn Tegid, sydd yn bedair milltir o hyd, y Llŷn naturiol mwyaf yng Nghymru sydd ger mynyddoedd yr Aran a’r Arennig. Mwynhewch yr awyrgylch wrth deithio ar hyd Rheilffordd Llŷn Bala, rheilffordd gul sydd yn rhedeg o Lanuwchllyn.

Chwaraeon Dŵr a Physgota

Lleoliad gwych ar gyfer chwaraeon dŵr a physgota. Mae Llŷn Tegid yn gartref i fath unigryw o bysgodyn a elwir y ‘Gwyniad’, mae rhai yn awgrymu ei fod yn fath o bennog tirgaeedig. Caiff unigolion brwdfrydig chwaraeon dŵr eu difetha yma, yn ychwanegol i’r Llŷn ei hun, ceir Tryweryn gerllaw sydd yn ganolfan ardderchog ar gyfer rafftio a chanŵio.


Diwylliant

Mae’r pentref yma yn llawn diwylliant a hanes Cymreig.  Ceir plac yn adrodd hanes enwog Mary Jones, y ferch 16 mlwydd oed a gerddodd o Fala ar hyd y mynyddoedd er mwyn casglu Beibl Cymraeg, yn y flwyddyn 1800.  Mae’r math hwn o gysylltiadau yn parhau hyd heddiw: mae canolfan gweithgareddau i’r Urdd Cymreig wedi ei leoli yma, ac yn 2009 cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yno.  Yna ceir Canolfan Cywain yn y Bala, sydd yn fan newydd a chyffrous ble caiff etifeddiaeth wledig ei gyfuno gyda chelf gyfoes.

Naws am Le - Pobl Bala

Ganed Thomas Charles ar fferm Longmoor (yn ôl pob tebyg) ym mhlwyf Llanfihangel Abercywyn, Sir Gaerfyrddin, mab Rees Charles, ffermwr, a'i briod Jael.  Anfonwyd ef i ysgol ym mhentref Llanddowror. Yna, aeth i academi Caerfyrddin ac ymlaen i Goleg Iesu, Rhydychen lle graddiodd yn BA. Bu ar ymweliad â'r efengylwr John Newton yn Olney ym 1777, urddwyd ef yn ddiacon yn Rhydychen ym 1778 ac yn offeiriad ym 1780.

Bu'n gurad mewn amryw leoedd yng Ngwlad yr Haf hyd 1783 pan ddychwelodd i Gymru i briodi Sarah (Sally) Jones o'r Bala, merch amddifad siopwr cefnog. Daeth o dan ddylanwad y Diwygiad Methodistaidd ar ôl cael troedigaeth yn 17 oed wrth glywed Daniel Rowland yn pregethu. Roedd hyn yn ddigon i'w wneud yn amhoblogaidd gyda llawer o eglwyswyr Cymru ac fe wrthodwyd y fraint iddo o bregethu mewn nifer o eglwysi'r ardal.

Am fwy o wybodaeth ar bobl Bala gewch lawrlwytho: Pobl - Bala

Taith Mary Jones

Wrth ddilyn y daith linol hon, byddwch yn cerdded am 28 milltir ac yn mwynhau tirwedd godidog yr hen sir Feirionnydd; byddwch yn cychwyn y daith mewn dyffryn hardd wrth droed Cadair Idris ac yn terfynu wrth lannau Llyn Tegid. Byddwch yn cerdded ar lwybrau fydd â chaniatâd y tirfeddiannwr wedi ei sicrhau cyn mynd arnynt ac ar hyd rhai ffyrdd cyhoeddus; aiff y daith â chi dros fynydd-dir hardd a thrwy goetiroedd; ar hyd ffyrdd rhamantaidd cefn gwlad a ffyrdd mwy, prysurach. Byddwch yn rhyfeddu at lynnoedd a mynyddoedd hyfryd o’ch cwmpas.

Llwybr Mary Jones (PDF, 1.69MB)
Cymdeithas y Beibl - Bible Society

196 280 Mary Jones

610 Bala & Penllyn Graphic

Gweithgareddau Dŵr

Mae’r ardal hon wedi ennill poblogrwydd fel canolfan ‘gweithgareddau dŵr’ – bu’n leoliad ar sawl achlysur i weithgareddau Canwio Byd Eang. Cynigir rafftio dˆwr gwyllt a chanwio yng Nghanolfan Tryweryn, ger Frongoch. Mae Llyn Tegid yn boblogaidd fel lle i hwylio, hwylfyrddio a chanwio a gellir llogi cychod ac offer gan gwmni Bala Watersports sydd nepell o’r llyn a’r Ganolfan Hamdden.

Hamdden

Yn Y Bala ceir Canolfan Hamdden (gyda phwll nofio, neuadd chwaraeon, ystafell ffitrwydd a sauna), Clwb Golff a Sinema ac yng Ngwersyll Yr Urdd, Glanllyn fe leolir y Ganolfan Bowlio Deg. Ar Reilffordd Llyn Tegid, ceir un o drenau hynod Cymru, yn teithio ar hyd ochr ddeheuol y llyn o Lanuwchllyn i’r Bala. Am ragor o wybodaeth am logi beiciau ac atyniadau lleol eraill cysylltwch â’r Ganolfan Dwristiaeth.

Bywyd Gwyllt

Gwelir y fulfran a’r trochydd yn rheolaidd ar Lyn Tegid tra bo bronwen y dˆwr a’r siglen yn gartrefol wrth yr afonydd. Y goedwig yw cynefin cnocell y coed a’r ucheldir sydd yn dennu y gylfeinir, yr ehedydd a’r grugiar goch a du. Mae’r adar ysglyfaethus yn niferus yn yr ardal---y bwncath a welir amlaf. Weithiau gwelir y cudyll bach, bod tinwen a’r barcud coch. Mae poblogaeth y dyfrgi yn ffynnu unwaith eto yn yr afonydd cyfagos. Mae dwy ganolfan SSSI yn yr ardal, gwarchodfa RSPB ger Llyn Efyrnwy ac ar y Berwyn Gwarchodfa Natur Cenedlaethol.

Yn yr Awyr Agored

Mae yma lwybrau cerdded ar gyfer pawb, rhai gwastad yn y dref ac wrth ochr y llyn, rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus yn croesi cefngwlad a rhai mwy heriol a llafurus i fyny Aran Benllyn, Arenig Fawr a’r Berwyn. Mae Llyn Tegid a’r afonydd cyfagos yn fannau delfrydol i bysgotwyr.


Tal-y-Llyn - Otters/Dyfrgwn

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2010 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS