Mae bwa gogleddol Bae Ceredigion - llawer ohono yn y Parc Cenedlaethol - yn un o harddwch eithriadol. Mae’r mynyddoedd yn llithro i lawr at y môr mewn cyfres o forydau trawiadol, ac mae’r traethau ymhlith y rhai mwyaf tywodlyd ac eang yng Nghymru gyfan. Yn y bryniau fe ddewch o hyd i lecynnau prydferth, llynnoedd mynyddig, lleoliadau llawn naws a cherdded eithriadol. Gallwch weld y cyfan o drefi glan môr neu bentrefi gwledig. Ymchwiliwch ef ar Reilffordd Arfordir Cambria hwylus sy’n rhedeg ar hyd y bae.
Aberdyfi
Yn ddiddadl un o drefi glan môr bychan a phorthladdoedd hwylio prydferthaf Prydain wedi ei lleoli lle mae afon Dyfi yn cyrraedd dyfroedd Bae Ceredigion. |
|
Abermaw
Tref glan môr poblogaidd ac aber prydferth afon Mawddach. Uwchben yr harbwr ceir pentir Dinas Oleu, man geni'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. |
|
Harlech
Tref fechan sy’n rhaid ei gweld nid yn unig oherwydd y golygfeydd ar draws y twyni ond hefyd am ei chastell canoloesol sy'n sefyll ar glogwyn, safle Treftadaeth Byd. |
|
Tywyn
Tref glan môr a chanolfan ar gyfer teithio. Mae’r atyniadau yn cynnwys traeth tywod eang a rheilffordd gul Tal-y-llyn sy’n teithio i’r bryniau. Ceir llawer o lecynnau hardd lleol - Rhaeadr Dolgoch, Craig yr Aderyn, Llyn Tal-y-Llyn a Chastell y Bere, cadarnle llawn naws tywysogion Cymru.
|
|
 |