Arfordir a Môr
I ymwelwyr sydd yn chwilio am olygfeydd ysblennydd a thraethau tywodlyd, neu i'r unigolyn sy’n frwdfrydig am fywyd gwyllt, y prif atyniad am arfordir Gwynedd yw ei amrywiaeth. Mae posib dod o hyd i dwyni tywod, llanw isel, morfa heli, cildraethau creigiog, a chlogwyni dramatig. Yn wir, oherwydd ei amrywiaeth a harddwch cyntefig mae llawer o arfordir Gwynedd wedi cael ei ddynodi yn Ardal o gadwraeth Arbennig ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Oherwydd hyn mae amrywiaeth o gynefinoedd, llawer o anifeiliaid prin a hardd i'w gweld.
Mae Dolffiniaid, llamhidyddion a morloi yn olygfa gyfarwydd oddi ar yr arfordir, ac mae bywyd morol yn ardaloedd megis yr Afon Menai yn cystadlu gyda riffiau corâl (coral reefs) ac mae amrywiaeth o adar yn gyfoethog, yn enwedig yn yr haf pan fydd adar y môr yn dod i'r lan i fridio. Yr ardaloedd pennaf i weld y golygfeydd hyn yw ar yr ynysoedd oddi ar yr arfordir Llyn, megis Enlli ac Ynysoedd Tudwal.