|
Llŷn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Yn 1956, dynodwyd rhan
helaeth o Benrhyn Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) o dan
Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.
Prif bwrpas dynodi ardal fel AHNE yw
gwarchod, cynnal a chadw harddwch naturiol yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys
amddiffyn bywyd gwyllt a phlanhigion, yn ogystal â nodweddion daearegol a
thirlun yr ardal.
|
|
%20Cwpwl%20Golyfga%20Porthdinllaen%20View%20Couple.JPG) |
Mae'n bwysig hefyd bod nodweddion archeolegol, olion hanesyddol a nodweddion pensaernïol yr ardal yn cael eu gwarchod. Mae'r dynodiad hefyd yn gosod cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i ddarparu ar gyfer mwynhad tawel o gefn gwlad ac ystyried buddiannau’r rhai sy'n byw a gweithio yno.
Mae pob AHNE yn dibynnu ar reolau
cynllunio a rheolaeth ymarferol o gefn gwlad er mwyn cyflawni’r gofynion
deddfwriaeth hyn. Hefyd, yn sgîl Deddf Cefn Gwlad a Hawliau
Tramwy 2000, cyflwynwyd pwerau newydd er mwyn helpu i warchod y tirluniau
gwerthfawr hyn, a’i gwneud yn orfodol i baratoi Cynllun Rheoli ar gyfer
pob AHNE.
Mae gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru gyfrifoldeb cyffredinol am AHNE yn y cyd-destun cenedlaethol, ond cânt eu rheoli gan Awdurdodau Lleol gyda chefnogaeth y Cyd-bwyllgorau Ymgynghorol, cymunedau lleol a phartneriaethau.
Cynllun Rheoli
Yn ogystal â gwarchod a rheoli'r amgylchedd, mae’n rhaid i'r cynllun gymryd ystyriaeth o les cymdeithasol ac anghenion economaidd yr ardal y mae’n ei wasanaethu. Dylai hefyd geisio hyrwyddo ac annog camau gweithredu a fydd yn gwella cyflwr neu gynyddu adnodd neu rinwedd arbennig.
Yma yn Llŷn rydym yn y broses o adolygu ein Cynllun Rheoli cyntaf a fabwysiadwyd yn 2005. Mae angen i Gynlluniau Rheoli ystyried AHNE fel tirluniau byw, mannau lle mae pobl yn byw a gweithio ynddynt yn ogystal â mannau y mae pobl yn ymweld â hwy er mwyn eu mwynhau. Mae Cynllun AHNE Llŷn yn gosod gweledigaeth glir ar gyfer rheoli'r AHNE yn y dyfodol, gan gynnwys rhestr o nodau ac amcanion a chynllun gweithredu manwl ar gyfer y gwaith i'w wneud.
| Ffeithiau ag Ffigyrau - Mae Llŷn yn un o ddim ond 5 AHNE yng Nghymru gyfan.
- Gwelir y frân goesgoch ar logo AHNE Llŷn.
- Dyma aderyn sy'n arbennig i arfordir creigiog y Penrhyn lle ceir oddeutu 60 pâr yn nythu.
- Mae'r AHNE yn cynnwys 155Km2 o'r Penrhyn.
- Roedd cyfrifiad 2001 yn cofnodi poblogaeth yr AHNE fel 6,502, gyda 70% o’r nifer yn siarad Cymraeg.
| |
|
Ein Prosiectau
Mae’n anodd rhoi bys ar un peth sy'n rhoi ei hunaniaeth unigryw i ardal Llŷn. Clogwyni garw, llechweddau grug ac eithin, lonydd cul a bythynnod gwyngalchog, mae'r rhain i gyd yn cyfuno i wneud Llŷn yn lle arbennig dros ben. Mae’r Uned AHNE wedi bod yn gweithio ar brosiectau er mwyn helpu i gynnal hunaniaeth unigryw Llŷn.
Arwyddbyst Traddodiadol
Mewn arolwg diweddar canfuwyd bod 8 o arwyddbyst haearn bwrw gwreiddiol yn Llŷn. Mae'r rhain yn dyddio nôl i ddechrau'r ganrif ddiwethaf ac fe’u gosodwyd gyntaf yn dilyn Deddf Ceir Modur 1903. Ar ôl dros gan mlynedd o dywys cenedlaethau o deithwyr ar draws y rhanbarth, roedd yr hen arwyddbyst wedi gweld dyddiau gwell.
|
|
 |
Cynhaliwyd arolwg manwl o’r arwyddbyst gan yr Uned AHNE a galwyd ar arbenigedd Signpost Restoration Ltd o Cumbria i'w hadfer i'w gogoniant blaenorol.
Bellach gellir gweld yr arwyddbyst wedi eu hadfer yn llawn yn Abererch; Beudy Bigin, Botwnnog; Llanengan; Nanhoron; Penygroeslon; Sarn Bach a Sarn Mellteyrn.
Cerrig Milltir
Yn 2004 cynhaliwyd prosiect peilot gan yr Uned AHNE i adfer, a cynnal a chadw nifer o gerrig milltir ym Mhenrhyn Llŷn. Bu'r cerrig yn rhan bwysig o hanes a diwylliant Llŷn, yn dyddio nôl i ddyddiau cynnar ffyrdd yr ardal, lle roedd pobl yn cerdded ac yn teithio gyda cheffyl a throl.
|
|
.JPG) |
Mae dwy fath o garreg filltir ar y ffordd hon, y cerrig milltir llechi o ddechrau'r ganrif ddiwethaf a'r rhai a wnaed o garreg (tywodfaen a gwenithfaen) o gyfnod cynharach.
Yr unig waith yr oedd angen ei wneud ar y cerrig milltir cynnar oedd torri a glanhau o’u cwmpas ac yna ail- baentio’r llythrennau a'r rhifau.
Codwyd nifer o'r cerrig milltir llechi yn ofalus er mwyn hwyluso’r gwaith glanhau ac adfer, a pharatowyd cerrig newydd lle’r oedd y gwreiddiol wedi’u difrodi'n ormodol. Yna gosodwyd y cerrig milltir yn ôl yn eu lleoliadau.
|
Arwyddion Pentref Traddodiadol
Mae'r arwyddion du a gwyn sy’n dynodi trefi a phentrefi Llŷn, ac a godwyd yn wreiddiol gan yr hen Gyngor Sir yn ystod y 1950au a’r 60au, yn cyfrannu at gymeriad unigryw yr ardal. Dyma’r rheswm pam, yn hytrach na gosod arwyddion modern yn eu lle, yr aethom ati i’w hadfer yn ôl i'w cyflwr gwreiddiol.
|
|
 |
Wedi’u castio o alwminiwm trwchus, roedd angen eu hadfer gan fod yr arwyddion wedi treulio dros y blynyddoedd ac wedi dioddef ambell i ergyd ar hyd y daith.
Dechreuodd y cynllun drwy adfer yr arwyddion ym mhentref Botwnnog gan fynd ymlaen i adfer arwyddion ar gyfer Rhydyclafdy, Efailnewydd, Tudweiliog, Pistyll, Aberdaron a Threfor. Mewn rhai achosion cynhyrchwyd arwyddion newydd oedd yn cyfateb i'r rhai gwreiddiol.
|
FfynhonnauMae nifer fawr o ffynhonnau dŵr croyw yn Mhenrhyn Llŷn, ac mae gan lawer ohonynt gysylltiadau crefyddol ac yn cyfrannu’n fawr at gymeriad a diwylliant yr ardal; credir bod gan ambell ffynnon y gallu i iachau cleifion.
|
|
 |
Un o’r ffynhonnau pwysicaf yn yr ardal yw Ffynnon Fyw, Mynytho (ger Capel Horeb). Nodir y ffynnon gan Myrddin Fardd yn ei gyfrol ‘Llên Gwerin Sir Gaernarfon’ (1908), lle mae'n ei disgrifio fel ‘ffynnon ragorol, ac iddi furiau amgylchynol, grisiau i arwain ati, meinciau ar gyfer y defnyddwyr a dau faddon.”
Penderfynwyd y dylid rhoi blaenoriaeth i weithio ar y ffynnon yma oherwydd ei phwysigrwydd hanesyddol, ei phensaernïaeth drawiadol a’i lleoliad amlwg.
Mae gwaith clirio ac adfer wedi ei wneud ar nifer o ffynhonnau eraill yn yr ardal sef; Ffynnon Aelrhiw yn y Rhiw, Ffynnon Saint yn Aberdaron, Ffynnon Sarff yn Mynytho a Ffynnon Aelhaearn, Llanaelhaearn.