A   A   A

610 x 233 Hafod Eryri

App iPhone Parc Cenedlaethol Eryri

‘Mwynhau Eryri’ yw eich arweiniad symudol perffaith i fwynhau, crwydro a darganfod Parc Cenedlaethol Eryri – lle i enaid gael llonydd yn un o drysorau mwyaf Prydain!

Bydd yr app iPhone yma, a ddatblygwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn arweiniad perffaith i gael y gorau o’ch ymweliad â Pharc Cenedlaethol Eryri, o lwybrau cerdded â golygfeydd hyfryd i weithgareddau llawn adrenalin i atyniadau bythgofiadwy. Os ydych chi yn Eryri, p’un ai a ydych yn lleol i Eryri, yn ymwelydd neu’n chwilio am ddiwrnod allan i’r teulu, defnyddiwch yr app i ddod o hyd i bethau i’w gwneud gerllaw. Fel ymwelydd, gallwch ddefnyddio’r app cyn eich ymweliad ag Eryri i gynllunio diwrnodau allan gwych ledled y Parc Cenedlaethol gan gyfrannu at eich profiad fel ymwelydd.

Cynnwys:
• Cyfarwyddiadau a mapiau ar gyfer cerdded o fewn y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys llwybrau mynyddig, llwybrau hamdden a llwybrau hygyrch
• Gwybodaeth am weithgareddau amrywiol fel beicio mynydd, gweithgareddau dŵr, marchogaeth, dringo, clybiau golf, canolfannau hamdden a mwy
• Gwybodaeth am atyniadau, safleoedd hanesyddol, rheilffyrdd bach
• Gwybodaeth gyffredinol am Ganolfannau Croeso, trafnidiaeth gyhoeddus ac ysbytai
• Dolenni i’n tudalennau rhyngweithio cymdeithasol

Nodwedd Arbennig:
Os ydych chi’n siarad Cymraeg neu’n dymuno dysgu ychydig o Gymraeg, gwnewch yn fawr o’r app Cymraeg-Saesneg cyfan gwbl ddwyieithog hwn.

Nodweddion Ychwanegol:
• Gellir chwilio trwy’r App trwy’r defnydd o fapiau
• Mapiau Arolwg Ordnans ar gyfer llwybrau cerdded
• Mapiau Google â golygfeydd lloeren o leoliadau’r llwybrau cerdded, gweithgareddau antur a’r atyniadau
• Gwneir defnydd o GPS yr iPhone i ddod o hyd i bethau i’w gwneud gerllaw

Parc Cenedlaethol Eryri - Snowdonia National Park iPhone Map Screenshot Parc Cenedlaethol Eryri - Snowdonia National Park iPhone Map 3D

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2012 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS