A   A   A
700 267 (610x233) Clwb Golff Aberdyfi Golf Club

Naws am Le - Aberdyfi

Pentref glan môr ar lan ogleddol aber afon Dyfi yn ne Eryri yw Aberdyfi. Dyma lle mae Dyfi'n cwrdd â dyfroedd gwyrddlas Bae Ceredigion. Tyfodd y pentref o gwmpas y diwydiant adeiladau llongau ond erbyn hyn mae'n fwy adnabyddus fel pentref gwyliau ac mae nifer o draethau ardderchog yn yr ardal. Enillodd traeth Aberdyfi Faner Las yn 2006. Agorwyd y ganolfan 'outward bound' gyntaf erioed yma ym 1941. Ceir yma glwb hwylio cryf ac mae'n denu pobl i gymryd rhan mewn pob math o chwaraeon dwr.

Mae'r gân werin enwog, Clychau Aberdyfi, yn sôn am chwedl Cantre’r Gwaelod, teyrnas a foddwyd ym Mae Ceredigion. Dywedir bod clychau'r deyrnas honno i'w clywed yn canu o dan y dwr o hyd. Ysgrifennwyd geiriau'r gân gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) yn y 19eg ganrif ond mae cyfansoddwr yr alaw yn anhysbys. Ysbrydolwyd Thomas Love Peacock gan y stori i ysgrifennu nofel o'r enw The Misfortunes of Elphin (1829). Mae i Gantre’r Gwaelod ran amlwg yn Silver on the Tree, y llyf olaf yng nghyfres Susan Cooper, The Dark is Rising.

Am fwy gewch lawrlwytho: Naws am Le - Aberdyfi

Traeth

Mae Aberdyfi yn lwcus iawn i fod yn berchen ar rhai o’r traethau gorau ym Mhrydain, gyda pedair milltir o dwynni tywod euraidd, a gaiff eu cefnu gan draethlin sy’n rhedeg tua’r gogledd am Dywyn. Tua’r tir o’r twyni mae gan Aberdyfi gwrs golff pencampwriaeth. Mae’r traethau yn boblogaidd gyda torheulwyr, nofiwyr, brig donwyr a physgotwyr.


Traeth Aberdyfi Beach

Tro ar Fyd

Nid oes rhaid i chi deithio yn bell o Aberdyfi i ddarganfod tro ar fyd – hynny yw mynyddoedd a golygfeydd dyffrynoedd. Mae brig Cader Idris ac Aran Fawddwy o fewn cyrraedd agos ac fe ychwanegir at eu naws diolch i ddyffrynnoedd Dyfi a Dysynni gerllaw. Man gwych ar gyfer cerddwyr, dringwyr a gwilwyr natur.

Cychod

Cafodd Aberdyfi ei sefydlu o amgylch y diwydiant adeiladu cychod, er y dyddiau hyn heidio i weld y golygfeydd anfarwol y mae’r twristiaid.

Chwaraeon Dŵr

Fe ddewch ar draws toreth o chwaraeon dŵr yn Aberdyfi - Hwylio, hwylio bwrdd, rhwyfo, canŵio a thripiau cychod hyn oll heb anghofio’r regata bad hwylio blynyddol.


Aberdyfi

Nid yw Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am unrhyw gynnwys allanol

Website Sitemap

open site map
cyfeiriad a manylion cyswllt
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | twristiaeth@gwynedd.gov.uk | 01286 679217
Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2010 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | Canolfannau Croeso
GwyneddConwyWales/Cymru
Tysca CMS