Mynydd Mawr
Uwchben Aberdaron, ceir golygfa arfordirol odidog oddi wrth bentir Mynydd Mawr, ble ar ddiwrnod clir mae modd gweld Mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon. Mae hefyd yn fan gwych ar gyfer gwylio bywyd gwyllt - gwyliwch allan am adar y pâl, dolffiniaid, morloi a llawer mwy.
R. S. Thomas
Yn agos i Aberdaron ceir Plas y Rhiw, bwthyn bychan a ddaw o dan adain yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bu i’r Bardd R S Thomas fyw yn y bwthyn hyfryd hwn. Mae modd dysgu mwy am hanes a gwaith y bardd drwy ymweld âg Eglwys Hywyn, sy’n deillio yn ôl i’r 12fed ganrif.
Ynys Enlli
Dwy filltir dros y dŵr ar draethau tywodlyd ceir Ynys Enlli, ‘Ynys i 20,000 o Seintiau’. Yn nyddiau’r pereinwyr, pan fo 3 ymweliad i Enlli yn cyfateb ag 1 i Rufain, caiff Aberdaron ei adnabod fel man aros diwethaf i’r Pererinwyr cyn croesi’r dŵr bradwrus tuag at Enlli.
Pysgota
Cyn gymdeithas a phentref pysgota yw Aberdaron, gyda golygfeydd darluniadol gwych.
Creigiau Aberdaron...
Fel y bardd a’r Archdderwydd Cynan gynt mae’r teithiwr sy’n cyrraedd pen pellaf Llŷn yn ymwybodol o ‘greigiau Aberdaron a thonnau gwyllt y môr’ yn bell cyn cyrraedd y pentref ei hun. Mae gelltydd serth yn taflu’r teithiwr i ben ei daith.
Dynodir canol Aberdaron gan bont garreg, o’r ail ganrif ar bymtheg, sy’n croesi Afon Daron wrth i honno gychwyn ar gymal olaf ei thaith i’r bae. Ger y traeth mae’r hen fythynnod pysgotwyr gwyngalchog, sy’n edrych draw am Ynys Gwylan Fawr ac Ynys Gwylan Fach, yn atgof o ddibyniaeth draddodiadol y gymuned leol ar y môr.
Traethau a Chastell
Mae’r traethau yn ardal Aberdaron yn niferus a glân. Mae mynedfa hawdd i Borth Iago a Porthoer (AO 167300) gyda’i dywod sy’n gwichian wrth gerdded yn rhyfeddod ynddo’i hun. Mae mwy o waith tramwyo i Borth Meudwy (AO 164253) traeth a ddefnyddir o hyd fel y prif fan cychwyn y fordaith o ddwy filltir, dymhestlog ar adegau, dros y swnt. Mae llwybr serth, heibio i hen weithfeydd manganîs, yn aros y sawl sy’n ymweld â Phorth Ysgo (AO 204263).
Dwy filltir i’r gogledd ddwyrain o Aberdaron mae Castell Odo (AO 187285) caer hynafol o Oes yr Haearn. Dyma un o’r caerau hynaf o’i fath yn Ewrop (oddeutu 425 Cyn Crist) ac mae olion i’w gweld yno hyd heddiw.
Yr Oesoedd Canol
Yn yr Oesoedd Canol daeth Aberdaron ac Ynys Enlli yn ganolfan bwysig i bererinion yng Nghymru. Gallai’r pererinion aros am wythnosau yn Eglwys Hywyn Sant cyn cael cyfle i groesi’r swnt. Ymwelodd Edward I a’i lys Aberdaron ar ei ffordd i Enlli yn 1284. Roedd tair pererindod i Enlli gyfystyr ag un i Rufain yn y dyddiau cynnar. Mae nifer fawr o bobl yn dal i ymweld ag Uwchmynydd ac Aberdaron i ddilyn ôl traed y pererinion.
Brenin Arthur
Mae bosib fod y Brenin Arthur ei hun wedi’i gladdu yn Enlli. Erys enw Gwenonwy, chwaer y Brenin Arthur, o hyd yn yr ardal. Ceir Maen Gwenonwy (AO 209251) yn ymwthio i’r môr i’r dwyrain o Aberdaron. Gerllaw mae Porth Cadlan. Mae Cadlan yn dalfyriad o Gadgamlan, hen air am golli brwydr. All Cadlan fod yr un man â Chamlan safle brwydr ola’r brenin Arthur, ac ai Enlli yw Afallon ynys yr afalau?
Y Fro
Mae Aberdaron a’r cylch yn cynnig dewis o westai, gwely a brecwast a llety hunan ddarpar yn ogystal â meysydd gwersylla a charafannau. Ceir hefyd amrywiaeth o gaffis, bwytai bwyd môr a siopau. Mae maes parcio hwylus ar gyfer y traeth neu’r rhwydwaith eang o lwybrau a theithiau cerdded amlwg a chydnabyddedig sy’n britho’r fro. Gellir gweld manylion holl gyfleusterau’r ardal ar ein gwefan Aberdaron Link.
Pensaer Portmeirion, Syr Clough Williams-Ellis, gynlluniodd hen lythyrdy’r pentref. Yn Eglwys Hywyn Sant, sy’n dyddio’n ôl i’r ddeuddegfed ganrif, ceir arddangosfa’n dehongli bywyd a gwaith y bardd a’r cenedlaetholwr, R. S. Thomas, fu’n offeiriad y plwyf o 1967 hyd 1978. Yn rheolaidd yn ystod misoedd yr haf, cynhelir regata Aberdaron gyda chychod pren, sy’n unigryw i’r ardal.
Ond rhaid teithio tua’r gorllewin i gyrraedd ‘Pendraw’r Byd’ y cyfeiriodd Cynan ato. Yma mae Uwchmynydd a Mynydd Mawr (AO 145255) lle y ceir safle picnic sy’n cynnig y golygfeydd godidocaf o Fae Ceredigion, Ynys Enlli, a hyd yn oed Fynyddoedd Wiclo yn Iwerddon. Yma hefyd y gwelir ‘rhyfeddod y machlud dros Benrhyn Llŷn ar ei orau. Tir sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw hwn lle mae’r mynydd yn cwympo i’r eigion islaw. Dyma gyfle gwych i weld y frân goesgoch prin yn ei chynefin a mwynhau cwmpeini'r hebog, y cudyll, y pâl, y dinwen a’r aderyn drycin, heb sôn am y dolffin, y llambedyddiol a’r morlo.
Mae llwybr i lawr y clogwyn yn arwain i Ffynnon Fair. Dywedir bod rhinweddau arbennig i’r ffynnon gan fod y dãr ynddi bob amser yn groyw er i’r llanw ei gorchuddio ddwywaith yn y dydd.
Gellir dychwelyd i Aberdaron heibio i’r fan lle y bu Cae’r Eos (AO 163287), cartref Richard Robert Jones neu Dic Aberdaron (1780- 1843). Dywedir i’r ‘ieithmon a’r cathmon hwn o Lŷn’, chwedl Syr T. H. Parry-Williams, siarad pymtheg iaith a chrwydrai’r wlad gyda’i lyfrau a’i gath yn gwmni.
Tair milltir i’r dwyrain o Aberdaron saif mynydd a phentref Y Rhiw (AO 226277) lle y ceir golygfeydd dros weddill Llŷn ac am gyfeiriad ‘Yr Wyddfa a’i chriw’. Gerllaw mae Plas yn Rhiw, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (AO 237286).
Croeso Cynnes Cymreig
Gobeithiwn y mwynhewch eich ymweliad ag Aberdaron a’r cylch lle mae croeso cynnes Cymreig yn eich aros.