A   A   A
Afon Dwyryd River

Aber Dwyryd a Glaslyn

Porthmadog & Penrhyndeudraeth (map)
Dwyryd & Aberglaslyn

Y Ddwyryd
Mae aberoedd y Dwyryd a'r Glaslyn yn uno i ffurfio un o'r aberoedd mwyaf ym Mae Ceredigion. Yn eironig, mae ffurf bresennol yr aber yn tarddu o ffyniant diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a datblygiad cyflym Porthmadog a Phenrhyndeudraeth.

Adeiladodd William Madocs y cob, sy'n torri ar draws Aber Glaslyn, yn 1811 i adennill cyfran fawr o Draeth Mawr o'r môr. Daeth llechi mewn cychod o Ffestiniog a Llanfrothen ar hyd y Dwyryd ac yn ddiweddarach ar Reilffordd Ffestiniog, a adeiladwyd ym 1836, ac yna Tramffordd Gorseddau (1856) a Thramffordd Croesor (1864). Erbyn 1873 roedd dros 117,000 tunnell o lechi yn cael ei allforio yn flynyddol o Borthmadog mewn mwy na mil o longau.

Adeiladwyd Penrhyndeudraeth ar dir a adferwyd o'r glastraeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda nifer helaeth o'r trigolion yn dibynnu ar Waith Ffrwydron Cooke (Gwaith Powdwr) am eu bywoliaeth. Rhyfedd fod y fath dirwedd ddiwydiannol yn hafan i fywyd gwyllt erbyn hyn. Mae Gwaith Powdwr nawr yn warchodfa natur a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Mae’n bwysig am ei choetiroedd derw a Gwybedogion Brith, rhostir a’r Troellwr Mawr a phyllau i’r Ymerawdwyr. Mae'r storfeydd ffrwydron cynt erbyn hyn yn gartref i saith rhywogaeth o ystlumod.

Mae’r gwastadeddau tywod a’r glastraeth yn fannau bwydo pwysig yn y gaeaf i adar y dŵr. Mae’r niferoedd yr Hwyaid Llostfain sy’n gaeafu yma o bwys cenedlaethol. Bydd Dyfrgwn a Llygod Pengrwn y Dŵr yn defnyddio dyfrffyrdd yr aber ac mae graean lleidiog rhannau isaf glan y môr yn gartref i Gregyn Blacen a Llyngyr Gwrychog.

Mae'r ardal yn enwog am Weilch y Glaslyn sydd wedi bod yn bridio ym Mhont Croesor ers 2005. Mae eu gweithgareddau hela yn creu golygfa drawiadol yn yr aber.
Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd, Caernarfon LL55 1SH | Hawlfraint © Cyngor Gwynedd 2017 | Telerau ac Amodau | Preifatrwydd  | twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru | 01286 679686
GwyneddConwy